56Rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnolLL+C
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal rhestr o sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru a Lloegr (“y rhestr”) at ddiben is-adran (3).
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r rhestr, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
(3)Dim ond os yw sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr wedi ei gynnwys yn y rhestr y caiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau addysg neu hyfforddiant ar gyfer plentyn neu berson ifanc yn y sefydliad hwnnw, yn ddarostyngedig i unrhyw esemptiadau rhagnodedig.
(4)Dim ond ar gais perchennog sefydliad y caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y sefydliad hwnnw yn y rhestr.
(5)Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer—
(a)cynnwys y rhestr;
(b)gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy fel amod o gynnwys y sefydliad yn y rhestr;
(c)gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy tra bo’r sefydliad wedi ei restru (gan gynnwys gofynion o ran cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i drefniadau yn y sefydliad ac i newid trefniadau o’r fath);
(d)dileu’r sefydliad o’r rhestr;
(e)yr hawl i berchenogion sefydliadau apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau—
(i)i wrthod rhestru sefydliad;
(ii)i ddileu sefydliad o’r rhestr;
(iii)i beidio â chymeradwyo trefniadau yn y sefydliad neu i beidio â chymeradwyo newid iddynt.
(6)Yn yr adran hon, ystyr “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” yw sefydliad sy’n darparu addysg neu hyfforddiant ar gyfer personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac sydd wedi ei drefnu’n arbennig i ddarparu addysg neu hyfforddiant o’r fath ar gyfer personau ag anghenion dysgu ychwanegol, ac nad yw’n—
(a)sefydliad yn y sector addysg bellach,
(b)ysgol annibynnol sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru (a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)),
(c)sefydliad addysgol annibynnol (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25)), sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o’r Ddeddf honno), neu
(d)Academi 16 i 19.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 56 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(f)
I3A. 56 mewn grym ar 1.9.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/373, ergl. 8(d)
I4A. 56(1) mewn grym ar 4.1.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(2)(a)
I5A. 56(4)-(6) mewn grym ar 4.1.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2020/1182, rhl. 4(2)(b)