Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 57 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 01 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

57Diddymu cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir yng NghymruLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae Deddf Addysg 1996 (p. 56) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 337A (dehongli’r Bennod), hepgorer y diffiniad o “the appropriate national authority”.

(3)Yn adran 342 (cymeradwyo ysgolion arbennig nas cynhelir)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

(ii)ar ôl “school”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (5)(a), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”;

(c)hepgorer is-adran (6).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 57 mewn grym ar 1.9.2021 gan O.S. 2021/373, ergl. 8(e)

Yn ôl i’r brig

Options/Help