Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 65 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 25 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

65Dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth a help arallLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) arfer swyddogaethau’r person i ddarparu gwybodaeth neu help arall i’r awdurdod, sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu

(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer swyddogaethau’r person.

(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais.

(4)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol arall;

(b)awdurdod lleol yn Lloegr;

(c)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(e)perchennog Academi;

(f)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal yng Nghymru neu yn Lloegr;

(g)person a chanddo gyfrifoldeb am lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(h)Bwrdd Iechyd Lleol;

(i)ymddiriedolaeth GIG;

[F1(j)GIG Lloegr;]

[F2(k)bwrdd gofal integredig;]

(l)ymddiriedolaeth sefydledig GIG;

(m)Awdurdod Iechyd Arbennig.

(5)Caiff rheoliadau ddarparu, pan fo person o dan ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan yr adran hon, fod rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais o fewn cyfnod rhagnodedig, oni bai bod eithriad rhagnodedig yn gymwys.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 65 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(h)

I3A. 65 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))

I4A. 65 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))

I5A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))

I6A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(l), 3

I7A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(l)

I8A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))

I9A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(l), 4

I10A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)

I11A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 2)

I12A. 65 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 3)

I13A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-25) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 4)

I14A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-22) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 5)

I15A. 65 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 6)

Yn ôl i’r brig

Options/Help