Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

74Rheoliadau ynghylch apelau a cheisiadauLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch apelau a cheisiadau i Dribiwnlys Addysg Cymru o dan y Rhan hon, gan gynnwys, er enghraifft, ddarpariaeth—

(a)ynghylch materion eraill yn ymwneud â chynllun datblygu unigol y gellir dwyn apêl yn ei erbyn;

(b)ynghylch gwneud apelau neu geisiadau a dyfarnu arnynt;

(c)sy’n rhoi pwerau pellach i’r Tribiwnlys wrth ddyfarnu ar apelau neu geisiadau;

(d)ar gyfer apelau neu geisiadau heb wrthwynebiad.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(c) gynnwys darpariaeth sy’n rhoi pŵer i’r Tribiwnlys, wrth ddyfarnu ar apêl yn erbyn mater neu wrth ddyfarnu ar gais, i wneud argymhellion mewn cysylltiad â materion eraill (gan gynnwys materion na chaniateir i apêl gael ei dwyn neu i gais gael ei ddwyn yn eu herbyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)

I2A. 74 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(g)