77Cydymffurfedd â gorchmynionLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Os yw Tribiwnlys Addysg Cymru yn gwneud gorchymyn o dan y Rhan hon, rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol o dan sylw gydymffurfio â’r gorchymyn cyn diwedd unrhyw gyfnod rhagnodedig sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff ei wneud.
(2)Rhaid i’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol o dan sylw lunio adroddiad i’r Tribiwnlys yn datgan a yw wedi cydymffurfio â’r gorchymyn a sut y gwnaeth gydymffurfio â’r gorchymyn, cyn diwedd cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod a ragnodir o dan is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 77 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 77 mewn grym ar 2.11.2020 at ddibenion penodedig gan O.S. 2020/1182, rhl. 3(1)(i)