Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 97

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, Adran 97 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 13 Tachwedd 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

97Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.LL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu i roi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, a

(b)unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad neu ddogfen statudol.

(3)Rhaid i ddogfen statudol a ddiwygir drwy reoliadau o dan yr adran hon gael ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiwygiedig gan y person a chanddo’r swyddogaeth o wneud neu ddyroddi’r ddogfen.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “dogfen statudol” yw offeryn (ac eithrio offeryn statudol)—

(a)a wneir neu a ddyroddir o dan ddeddfiad, a

(b)sy’n ddarostyngedig i weithdrefn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n ofynnol gan ddeddfiad cyn y caniateir iddo gael ei wneud neu ei ddyroddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 97 mewn grym ar 25.1.2018, gweler a. 100(1)

Yn ôl i’r brig

Options/Help