xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

CyffredinolLL+C

99Dehongli cyffredinolLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

(2)Yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” yn is-adran (1), mae i—

(a)ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol (“community, foundation or voluntary school”), a

(b)ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig (“community or foundation special school”),

yr ystyr a roddir gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).

(3)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru os cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;

(b)mae sefydliad yn y sector addysg bellach yn Lloegr os cynhelir ei weithgareddau yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn Lloegr.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn neu berson ifanc os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn ardal yr awdurdod.

(5)Mae i gyfeiriad yn y Ddeddf hon at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (sut bynnag y’i mynegir) yr ystyr a roddir gan adran 15, ac mae cyfeiriadau at awdurdod lleol yn gofalu am blentyn i gael eu dehongli yn unol â hynny.

(6)Mae Deddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) a darpariaethau blaenorol y Ddeddf hon (ac eithrio i’r graddau y bônt yn diwygio Deddfau eraill) i gael eu dehongli fel pe cynhwysid y darpariaethau hynny yn Neddf 1996.

(7)Pan fo ystyr yn cael ei roi i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n wahanol i’r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf 1996, mae’r ystyr hwnnw i fod yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r ystyr a roddir at ddibenion Deddf 1996.

(8)Caiff rheoliadau ddiwygio’r diffiniad o “corff GIG” fel ei fod yn cynnwys Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn a. 99(1) wedi eu hepgor (1.7.2022) yn rhinwedd gan Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 1 para. 37(b); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)

F4Geiriau yn a. 99(1) wedi eu hepgor (1.7.2022) yn rhinwedd Health and Care Act 2022 (c. 31), a. 186(6), Atod. 4 para. 234(b)(i); O.S. 2022/734, rhl. 2(a), Atod. (ynghyd â rhlau. 13, 29, 30)

F5Gair yn a. 99(1) wedi ei amnewid (1.9.2022 at ddibenion penodedig, 1.9.2023 at ddibenion penodedig) gan Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/744), rhl. 1(3), Atod. 2 para. 18(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 99 mewn grym ar 25.1.2018, gweler a. 100(1)