Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

(a gyflwynir gan adran 13)

ATODLEN 1FFIOEDD A THALIADAU

Pŵer i ddarparu ar gyfer ffioedd neu daliadau: swyddogaethau newydd

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer codi ffioedd neu daliadau eraill, neu mewn cysylltiad â chodi ffioedd neu daliadau eraill, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth (“y swyddogaeth berthnasol”) sydd gan awdurdod lleol yn rhinwedd darpariaeth a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn—

(a)adran 3 (pwerau i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i gyfraith uniongyrchol yr UE);

(b)adran 4 (pwerau i ailddatgan deddfiadau sy’n deillio o’r UE);

(c)adran 5 (pwerau i bennu darpariaeth a wneir o dan bwerau sy’n ymwneud â’r UE fel un sy’n parhau i gael effaith);

(d)adran 9 (pwerau sy’n ymwneud â chydymffurfedd â rhwymedigaethau rhyngwladol);

(e)adran 10 (pwerau i weithredu’r cytundeb ymadael);

(f)adran 11 (pŵer i weithredu rhwymedigaethau gan yr UE).

(2)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn (ymhlith pethau eraill)—

(a)pennu’r ffioedd neu’r taliadau neu wneud darpariaeth o ran sut y maent i’w penderfynu;

(b)darparu ar gyfer adennill neu waredu unrhyw symiau sy’n daladwy o dan y rheoliadau;

(c)rhoi pŵer i’r awdurdod cyhoeddus i wneud, drwy is-ddeddfwriaeth, unrhyw ddarpariaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud o dan y paragraff hwn mewn perthynas â’r swyddogaeth berthnasol.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—

(a)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;

(b)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.

Pŵer i addasu ffioedd neu daliadau cyn ymadael

2(1)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth (“y ddarpariaeth codi tâl”) ar gyfer codi ffioedd neu daliadau eraill neu mewn cysylltiad â chodi ffioedd neu daliadau eraill—

(a)sydd wedi ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 4 neu sy’n cael ei thrin fel pe bai wedi ei gwneud o dan adran 5, a

(b)a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, wedi ei gwneud o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 neu adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973.

(2)Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys pan fo is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth a addesir o dan y paragraff hwn.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau sy’n addasu’r is-ddeddfwriaeth at ddibenion—

(a)dirymu’r ddarpariaeth codi tâl,

(b)newid swm unrhyw un neu ragor o’r ffioedd neu’r taliadau sydd i’w codi,

(c)newid sut y mae unrhyw un neu ragor o’r ffioedd neu’r taliadau i’w penderfynu, neu

(d)newid fel arall y ffioedd neu’r taliadau y caniateir iddynt gael eu codi mewn perthynas ag unrhyw beth y caniateir i ffioedd neu daliadau gael eu codi mewn cysylltiad ag ef o dan y ddarpariaeth codi tâl.

(4)Caniateir i reoliadau o dan y paragraff hwn gael eu gwneud cyn y diwrnod ymadael os bydd y ddarpariaeth codi tâl yn dod o fewn is-baragraff (1) ar y diwrnod ymadael.

Cyfyngu ar arfer pŵer o dan baragraff 2

3(1)Pan fo’r ddarpariaeth codi tâl yn cynnwys darpariaeth Deddf 1972 yn unig, ni chaiff rheoliadau o dan baragraff 2 osod na chynyddu trethiant.

(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “darpariaeth Deddf 1972” yw—

(a)darpariaeth o fewn paragraff 2(1)(a) a wnaed yn union cyn y diwrnod ymadael o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac nid o dan adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973, gan gynnwys darpariaeth o’r fath fel y’i haddesir o dan baragraff 2, neu

(b)darpariaeth a wneir o dan baragraff 2 ac sy’n gysylltiedig â darpariaeth o fewn paragraff (a) neu sy’n ychwanegu ati neu yn ei disodli.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan baragraff 2—

(a)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;

(b)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.

Perthynas â phwerau eraill

4Nid yw’r Atodlen hon yn effeithio ar y pwerau o dan adran 3, 4, 5, 9, 10 neu 11, neu unrhyw bŵer arall sy’n arferadwy ar wahân i’r Atodlen hon, i’w gwneud yn ofynnol i ffioedd neu daliadau eraill gael eu talu, neu i wneud darpariaeth arall mewn perthynas â ffioedd neu daliadau eraill.

(a gyflwynir gan adran 19(3))

ATODLEN 2Y WEITHDREFN AR GYFER GWNEUD RHEOLIADAU

Rheoliadau’r weithdrefn uwch

1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon sydd—

(a)yn sefydlu awdurdod cyhoeddus newydd;

(b)yn rhoi swyddogaethau i awdurdod cyhoeddus;

(c)yn gosod neu’n cynyddu ffi mewn cysylltiad â swyddogaeth sy’n arferadwy gan awdurdod cyhoeddus;

(d)yn creu trosedd neu’n ehangu cwmpas trosedd;

(e)yn creu neu’n diwygio pŵer i ddeddfu;

(f)yn addasu deddfwriaeth sylfaenol;

(g)wedi eu gwneud o dan adran 11, adran 12 neu adran 22;

ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw paragraff 4 yn gymwys.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol bwrw ymlaen i wneud y rheoliadau rhaid iddynt osod drafft o’r rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â datganiad sy’n nodi barn Gweinidogion Cymru o ran a ddylai’r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) fod yn gymwys.

(3)Os yw’r rheoliadau drafft yn cynnwys darpariaeth sy’n addasu deddfwriaeth sylfaenol, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n esbonio pam bod angen y ddarpariaeth.

(4)Os, ar ôl i’r cyfnod o 40 o ddiwrnodau ddod i ben, yw’r rheoliadau drafft a osodwyd o dan is-baragraff (2) wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ar ffurf y rheoliadau drafft, oni bai bod y weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) yn gymwys.

(5)Mae’r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) yn gymwys i’r rheoliadau drafft yn lle’r weithdrefn yn is-baragraff (4)—

(a)os yw’r rheoliadau drafft i’w gwneud o dan adran 12 neu adran 22,

(b)os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y dylai’r weithdrefn fod yn gymwys, neu

(c)os yw pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft yn argymell o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y dylai’r weithdrefn fod yn gymwys ac nad yw’r Cynulliad, drwy benderfyniad, yn gwrthod yr argymhelliad o fewn y cyfnod hwnnw.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)unrhyw sylwadau,

(b)unrhyw benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac

(c)unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft,

a wneir yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau o ran y rheoliadau drafft.

(7)Os, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yw Gweinidogion Cymru yn dymuno gwneud rheoliadau ar ffurf y drafft, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad—

(a)sy’n datgan a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, a

(b)sydd, os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl gosod y datganiad, wneud rheoliadau ar ffurf y drafft os y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(9)Ond caiff pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft, ar unrhyw adeg ar ôl i ddatganiad gael ei osod o dan is-baragraff (7) a chyn i’r rheoliadau drafft gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad o dan is-baragraff (8), argymell nad oes unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r rheoliadau drafft.

(10)Pan fo argymhelliad wedi ei wneud gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-baragraff (9) mewn perthynas â rheoliadau drafft, ni chaniateir unrhyw drafodion mewn perthynas â’r drafft o dan is-baragraff (8) oni bai bod yr argymhelliad wedi ei wrthod drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

(11)Os, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen i wneud y rheoliadau drafft ond gyda newidiadau sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)y rheoliadau drafft diwygiedig,

(b)datganiad—

(i)sy’n rhoi crynodeb o’r newidiadau a gynigir,

(ii)sy’n datgan a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, a

(iii)sydd, os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.

(12)Os yw’r rheoliadau drafft diwygiedig wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud y rheoliadau ar ffurf y rheoliadau drafft diwygiedig.

(13)Ond caiff pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft diwygiedig, ar unrhyw adeg ar ôl i ddatganiad gael ei osod o dan is-baragraff (11) a chyn i’r rheoliadau drafft gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad o dan is-baragraff (12), argymell nad oes unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r rheoliadau drafft diwygiedig.

(14)Pan fo argymhelliad wedi ei wneud gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-baragraff (13) mewn perthynas â rheoliadau drafft diwygiedig, ni chaniateir unrhyw drafodion mewn perthynas â’r drafft diwygiedig o dan is-baragraff (12) oni bai bod yr argymhelliad wedi ei wrthod drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

(15)At ddibenion y paragraff hwn mae rheoliadau wedi eu gwneud ar ffurf y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig os nad ydynt yn cynnwys newidiadau sylweddol i’w darpariaethau.

(16)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at y cyfnodau “30 o ddiwrnodau”, “40 o ddiwrnodau” a “60 o ddiwrnodau” mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft yn gyfeiriadau at y cyfnodau o 30, 40 a 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y rheoliadau drafft eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(17)At ddibenion is-baragraff (16) nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Datgelu sylwadau

2(1)Pan fo person sy’n cyflwyno sylwadau am reoliadau drafft neu reoliadau drafft diwygiedig o dan baragraff 1 wedi gofyn i Weinidogion Cymru beidio â’u datgelu, ni chaiff Gweinidogion Cymru eu datgelu o dan baragraff 1 os neu i’r graddau y byddai gwneud hynny (gan ddiystyru unrhyw gysylltiad â thrafodion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru) yn gyfystyr â thorri cyfrinachedd y gall unrhyw berson ddwyn achos yn ei gylch.

(2)Os yw gwybodaeth sydd mewn sylwadau yn ymwneud â pherson arall, nid oes angen i Weinidogion Cymru ddatgelu’r wybodaeth o dan baragraff 1 os neu i’r graddau—

(a)y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru y gallai datgelu’r wybodaeth honno effeithio’n andwyol ar fuddiannau’r person arall hwnnw; a

(b)y mae Gweinidogion Cymru wedi methu â chael cydsyniad y person arall hwnnw i’r wybodaeth gael ei datgelu.

(3)Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn effeithio ar unrhyw ddatgeliad y gofynnir amdano gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig, ac a wneir i’r pwyllgor.

Rheoliadau’r weithdrefn safonol

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon, oni bai bod paragraff 1 neu 4 yn gymwys.

(2)Ni chaniateir i’r rheoliadau gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Rheoliadau’r weithdrefn frys

4(1)Caniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio adran 11, adran 12 ac adran 22) gael ei wneud heb i ddrafft ohono gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad, os yw’n cynnwys datganiad bod Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y rheoliadau heb osod na chymeradwyo drafft.

(2)Ar ôl i offeryn gael ei wneud yn unol ag is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â datganiad sy’n esbonio amgylchiadau’r brys a pham, ym marn Gweinidogion Cymru, yr oedd angen gwneud y rheoliadau heb osod na chymeradwyo drafft.

(3)Mae rheoliadau sydd wedi eu cynnwys mewn offeryn a wneir yn unol ag is-baragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau, sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff yr offeryn ei wneud oni bai bod yr offeryn, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau, nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(5)Os yw rheoliadau yn peidio â chael effaith o ganlyniad i is-baragraff (3), nid yw hynny—

(a)yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan y rheoliadau, neu

(b)yn atal gwneud rheoliadau newydd.

Y weithdrefn ar ailarfer pwerau penodol

5Caiff offeryn, y mae paragraff 1, 3 neu 4 yn gymwys iddo, sy’n dirymu, yn diwygio neu’n ailddeddfu unrhyw offeryn o’r fath (er gwaethaf adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978) fod yn ddarostyngedig i weithdrefn wahanol o dan yr Atodlen hon i’r weithdrefn yr oedd yr offeryn a oedd yn cynnwys y rheoliadau gwreiddiol yn ddarostyngedig iddi.

Cyfuniadau o offerynnau

6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon sy’n ddarostyngedig i weithdrefn o dan baragraff 1, 3 neu 4.

(2)Caiff yr offeryn statudol hefyd gynnwys rheoliadau o dan ddeddfiad arall a wneir drwy offeryn statudol sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n darparu ar gyfer diddymu’r offeryn ar ôl iddo gael ei wneud.

(3)Pan fo rheoliadau wedi eu cynnwys fel y’i crybwyllir yn is-baragraff (2), y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn statudol yw’r weithdrefn a grybwyllir yn is-baragraff (1) ac nid y weithdrefn a grybwyllir yn is-baragraff (2).

(4)Nid yw’r paragraff hwn yn atal cynnwys rheoliadau eraill mewn offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon.