Newidiadau dros amser i: Paragraff 10A
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 08/04/2021.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, Paragraff 10A.![Help about Changes to Legislation](/images/chrome/helpIcon.gif)
![Close](/images/chrome/closeIcon.gif)
Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Taliadau gwasanaeth sy’n daladwy i landlordiaid cymunedol etc.LL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
[10A(1)Mae tâl gwasnaeth yn daliad a ganiateir os—
(a)yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, a
(b)yw’r landlord yn landlord cymunedol.
(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—
(a)contract meddiannaeth safonol o fewn paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016 (llety nad yw’n llety cymdeithasol), neu
(b)contract meddiannaeth safonol a grybwyllir yn is-baragraff (3).
(3)Mae tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol o fewn adran 143 o Ddeddf 2016 (contractau sy’n ymwneud â llety â chymorth).
(4)At ddibenion y paragraff hwn—
ystyr “Deddf 2016” (“2016 Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1);
mae i “gwasanaethau cymorth” (“support services”) yr ystyr a roddir gan adran 143 o Ddeddf 2016 (gweler, yn benodol, is-adran (4) o’r adran honno); ;
mae i “landlord cymunedol” (“community landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 9 o Ddeddf 2016;
nid yw “tâl gwasanaeth” (“service charge”) yn cynnwys tâl am wasanaeth pan fyddai talu’r tâl yn cael ei ganiatáu yn rhinwedd paragraff arall o’r Atodlen hon, ac mewn perthynas ag is-baragraff (3) yn unig, mae’n cynnwys taliadau am ddarparu gwasanaethau cymorth.]
Yn ôl i’r brig