Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Newidiadau dros amser i: Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2023

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 23/07/2019.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 11 Rhagfyr 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

RHAN 1LL+CCYFLWYNIAD

1TrosolwgLL+C

(1)Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf yn drosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf.

(2)Mae Rhan 2 yn darparu ar gyfer parhad rôl yr Ombwdsmon.

(3)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth—

(a)i’r Ombwdsmon ymchwilio i awdurdodau rhestredig;

(b)o ran pwy sy’n cael gwneud cwynion i’r Ombwdsmon ac atgyfeirio cwynion ato;

(c)o ran y materion y caiff yr Ombwdsmon ymchwilio iddynt;

(d)o ran y gweithdrefnau sy’n gymwys i ymchwiliadau’r Ombwdsmon;

(e)o ran pwerau’r Ombwdsmon i ymdrin â rhwystr a dirmyg;

(f)i’r Ombwdsmon baratoi adroddiadau ar ymchwiliadau;

(g)i’r Ombwdsmon ddyroddi canllawiau i awdurdodau rhestredig ynghylch arferion gweinyddu da;

(h)i awdurdodau rhestredig ddigolledu personau a dramgwyddwyd.

(4)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth—

(a)i’r Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o egwyddorion ynghylch gweithdrefnau ymdrin â chwynion awdurdodau rhestredig, a’r weithdrefn Cynulliad sy’n gymwys i’r datganiad o egwyddorion;

(b)i’r Ombwdsmon gyhoeddi gweithdrefn enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion ar gyfer awdurdodau rhestredig;

(c)i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod rhestredig gydymffurfio â gweithdrefn enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion sy’n gymwys i’r awdurdod rhestredig;

(d)i’r Ombwdsmon ddatgan nad yw gweithdrefn ymdrin â chwynion awdurdod rhestredig yn cydymffurfio â’r weithdrefn enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion;

(e)i’r Ombwdsmon hybu arferion gorau o ran y ffordd yr ymdrinnir â chwynion.

(5)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth—

(a)i’r Ombwdsmon ymchwilio i ddarparwyr gofal cymdeithasol a darparwyr gofal lliniarol;

(b)o ran pwy sy’n cael gwneud cwynion i’r Ombwdsmon a’u hatgyfeirio ato ynghylch gofal cymdeithasol a gofal lliniarol;

(c)o ran y materion gofal cymdeithasol a gofal lliniarol y caiff yr Ombwdsmon ymchwilio iddynt;

(d)o ran y gweithdrefnau sy’n gymwys i ymchwiliadau’r Ombwdsmon i ofal cymdeithasol a gofal lliniarol;

(e)i’r Ombwdsmon baratoi adroddiadau ar ymchwiliadau i ofal cymdeithasol a gofal lliniarol.

(6)Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol—

(a)i’r Ombwdsmon weithio gydag ombwdsmyn a chomisiynwyr eraill etc. mewn perthynas ag ymchwiliadau;

(b)o ran datgelu a diogelu gwybodaeth a chyhoeddiadau mewn perthynas ag ymchwiliadau.

(7)Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth amrywiol, gan gynnwys ychwanegu’r Ombwdsmon i Atodlen 6 i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016 a’i gwneud yn ofynnol i’r Cynulliad adolygu gweithrediad y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 1 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

RHAN 2LL+COMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU

2Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus CymruLL+C

(1)Mae swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu Public Services Ombudsman for Wales (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “yr Ombwdsmon”) i barhau.

(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch yr Ombwdsmon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I4A. 2 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

RHAN 3LL+CYMCHWILIADAU

Pŵer i ymchwilioLL+C

3Pŵer i ymchwilio i gwynionLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn o dan y Rhan hon mewn perthynas â mater os yw’r gŵyn—

(a)wedi’i gwneud yn briodol i’r Ombwdsmon, neu

(b)wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon, ac

os yw’r mater yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16.

(2)Mae cwyn wedi’i “gwneud yn briodol” i’r Ombwdsmon os (ond dim ond os)—

(a)caiff ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 7 i wneud y gŵyn i’r Ombwdsmon, a

(b)caiff gofynion adran 8(1) eu bodloni mewn perthynas â hi.

(3)Mae cwyn wedi’i “hatgyfeirio’n briodol” at yr Ombwdsmon os (ond dim ond os)—

(a)caiff ei chyfeirio at yr Ombwdsmon gan awdurdod rhestredig, a

(b)caiff gofynion adran 9(1) eu bodloni mewn perthynas â hi.

(4)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn o dan y Rhan hon mewn perthynas â mater hyd yn oed os nad yw gofynion adran 8(1) neu (yn ôl y digwydd) adran 9(1)(b), (c) neu (d) wedi eu bodloni o ran y gŵyn—

(a)os yw’r mater yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16, a

(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(5)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i ymchwiliad (ond gweler adran 8(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).

(6)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (5).

(7)Caiff yr Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad i gŵyn neu barhau ag ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os yw’r gŵyn wedi’i thynnu’n ôl, neu hyd yn oed os yw’r atgyfeiriad sy’n ymwneud â’r gŵyn wedi’i dynnu’n ôl (ond gweler adran 8(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I6A. 3 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

4Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hunLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater o dan y Rhan hon, y mae ganddo hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16, pa un a oes cwyn wedi’i gwneud yn briodol neu wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon ai peidio.

(2)Cyn i’r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi sylw i fudd y cyhoedd wrth gychwyn ymchwiliad,

(b)amau’n rhesymol—

(i)bod camweinyddu systemig, neu

(ii)mewn achos pan fo’r mater yn un y caniateir ymchwilio iddo yn rhinwedd adran 15(2), fod anghyfiawnder systemig wedi ei ddioddef o ganlyniad i arfer barn broffesiynol,

(c)ymgynghori â’r cyfryw bersonau y mae’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy (ond gweler adran 66 am ddyletswyddau pellach o ran ymgynghori), a

(d)rhoi sylw i’r meini prawf ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a gyhoeddir o dan adran 5.

(3)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon—

(a)mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad neu i roi’r gorau i ymchwiliad o dan yr adran hon;

(b)caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (3)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I8A. 4 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

5Meini prawf ar gyfer ymchwilio ar ei liwt ei hunLL+C

(1)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi meini prawf i’w defnyddio i benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad o dan adran 4.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r meini prawf cyntaf gerbron y Cynulliad.

(3)Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r meini prawf drafft cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf drafft.

(4)Os na wneir y cyfryw benderfyniad cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf drafft.

(5)O ran y cyfnod o 40 diwrnod—

(a)mae’n dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw amser pryd y bydd y Cynulliad wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal meini prawf drafft newydd rhag cael eu gosod gerbron y Cynulliad.

(7)Cyn gosod y meini prawf drafft gerbron y Cynulliad, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac

(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(8)Rhaid i’r Ombwdsmon, wrth baratoi’r meini prawf drafft i’w gosod gerbron y Cynulliad, roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad a grybwyllir yn is-adran (7).

(9)Daw’r meini prawf i rym pan gânt eu cyhoeddi gan yr Ombwdsmon.

(10)O dro i dro, caiff yr Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi’r meini prawf.

(11)Os, ym marn yr Ombwdsmon, yw adolygiadau a wneir o dan is-adran (10) yn effeithio ar unrhyw newid perthnasol i’r meini prawf, rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r adolygiadau hynny gerbron y Cynulliad.

(12)Mae is-adrannau (3) i (9) yn gymwys i adolygiadau drafft a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-adran (11) fel y maent yn gymwys i’r meini prawf cyntaf.

(13)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r meini prawf a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan yr adran hon drwy ychwanegu meini prawf, dileu meini prawf neu newid y meini prawf.

(14)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf, fel y’u diwygiwyd gan y rheoliadau, ar y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.

(15)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr Ombwdsmon,

(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac

(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(16)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (13) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I10A. 5 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

6Dulliau amgen o ddatrys materionLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol er mwyn datrys mater y mae gan yr Ombwdsmon bŵer i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.

(2)Caiff yr Ombwdsmon gymryd camau gweithredu o dan yr adran hon yn ychwanegol at gynnal ymchwiliad neu yn lle hynny.

(3)Rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu o dan yr adran hon yn breifat.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I12A. 6 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

CwynionLL+C

7Pwy sy’n cael cwynoLL+C

(1)Y personau sydd â hawl i gwyno i’r Ombwdsmon o dan y Rhan hon yw—

(a)aelod o’r cyhoedd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y person a dramgwyddwyd”) sy’n honni neu sydd wedi honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan adrannau 11 i 16;

(b)person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person a dramgwyddwyd i weithredu ar ran y person hwnnw;

(c)os nad yw’r person a dramgwyddwyd yn gallu awdurdodi’r cyfryw berson (er enghraifft, oherwydd bod y person a dramgwyddwyd wedi marw), person sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol i weithredu ar ran y person a dramgwyddwyd.

(2)Ystyr “aelod o’r cyhoedd” yw unrhyw berson, heblaw awdurdod rhestredig sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd fel y cyfryw.

(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a oes gan berson hawl i wneud cwyn i’r Ombwdsmon o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I14A. 7 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

8Gofynion: cwynion a wneir i’r OmbwdsmonLL+C

(1)Y gofynion a grybwyllir yn adran 3(2)(b) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—

(a)bod ar ffurf a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(b)cynnwys y cyfryw wybodaeth a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(c)cael ei gwneud i’r Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y mater a honnir yn y gŵyn.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.

(4)Os caiff cwyn sy’n bodloni gofynion is-adran (1) ei gwneud heblaw yn ysgrifenedig, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)esbonio i’r person a wnaeth y gŵyn fod cwyn wedi’i gwneud yn briodol yn unol â’r Ddeddf hon, a goblygiadau gwneud cwyn o’r fath, a

(b)gofyn i’r person a yw’n awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol.

(5)Os nad yw’r person yn awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol—

(a)ni chaiff yr Ombwdsmon ddefnyddio’r pŵer yn adran 3(1)(a) i ddechrau ymchwiliad i’r mater a honnir yn y gŵyn;

(b)caiff yr Ombwdsmon ddefnyddio’r pŵer yn adran 4 i ymchwilio i’r mater a honnir yn y gŵyn.

(6)Os yw’r person yn awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol, rhaid i’r Ombwdsmon ofyn i’r person a yw am gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig.

(7)Os yw’r person yn awyddus i gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig, rhaid i’r Ombwdsmon wneud y cyfryw drefniadau angenrheidiol i gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I16A. 8 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

9Gofynion: cwynion a atgyfeirir at yr OmbwdsmonLL+C

(1)Y gofynion a grybwyllir yn adran 3(3)(b) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—

(a)bod wedi cael ei gwneud i’r awdurdod rhestredig gan berson a fyddai wedi bod â hawl o dan adran 7 i wneud y gŵyn i’r Ombwdsmon;

(b)bod wedi cael ei gwneud i’r awdurdod rhestredig cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y materion a honnir yn y gŵyn;

(c)cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon ar ffurf a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau a chynnwys yr wybodaeth a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(d)cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y cafodd y gŵyn ei gwneud i’r awdurdod rhestredig.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c).

(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I18A. 9 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

10Cofnodion o gwynionLL+C

Rhaid i’r Ombwdsmon gadw cofrestr o bob cwyn a wnaed i’r Ombwdsmon neu a atgyfeiriwyd at yr Ombwdsmon mewn perthynas â mater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I20A. 10 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Materion y caniateir ymchwilio iddyntLL+C

11Materion y caniateir ymchwilio iddyntLL+C

(1)Y materion y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddynt o dan y Rhan hon yw—

(a)camweinyddu honedig gan awdurdod rhestredig mewn cysylltiad â chamau gweithredu perthnasol;

(b)methiant honedig mewn gwasanaeth perthnasol a ddarperir gan awdurdod rhestredig;

(c)methiant honedig gan awdurdod rhestredig i ddarparu gwasanaeth perthnasol.

(2)Caiff y materion ymwneud â chamau gweithredu a gymerwyd cyn i’r Ddeddf hon gael Cydsyniad Brenhinol neu wedi hynny.

(3)Mae is-adran (1) yn ddarostyngedig i adrannau 12 i 15.

(4)Camau gweithredu perthnasol yw—

(a)yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru neu’n ddarparwr annibynnol yng Nghymru, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth perthnasol;

(b)yn achos awdurdod rhestredig sy’n landlord cymdeithasol yng Nghymru neu’n gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru heblaw Gweinidogion Cymru, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth iddo gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau;

(c)yn achos awdurdod rhestredig sy’n berson â swyddogaethau a roddir gan reoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau hynny;

(d)yn achos awdurdod rhestredig sy’n awdurdod rhestredig yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 31(2) sy’n ei ychwanegu at Atodlen 3, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth iddo gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau penodedig;

(e)mewn unrhyw achos arall, camau gweithredu a gymerwyd gan yr awdurdod wrth iddo gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gweinyddol.

(5)Gwasanaeth perthnasol yw—

(a)yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau iechyd teulu y gwnaeth yr awdurdod, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun yr ymchwiliad, ymrwymo i gontract i’w ddarparu, ymgymryd i’w ddarparu neu wneud trefniadau i’w ddarparu neu i’w darparu;

(b)yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr annibynnol yng Nghymru, unrhyw wasanaeth yr oedd yr awdurdod, bryd hynny, wedi gwneud trefniadau gyda chorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru i’w ddarparu;

(c)yn achos awdurdod rhestredig sy’n dod o fewn is-adran (4)(c), unrhyw wasanaeth a oedd, bryd hynny, yn swyddogaeth yr awdurdod i’w ddarparu wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a grybwyllir yn yr is-adran honno;

(d)yn achos awdurdod rhestredig sy’n dod o fewn is-adran (4)(d), unrhyw wasanaeth a oedd, bryd hynny, yn swyddogaeth yr awdurdod i’w ddarparu wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau penodedig;

(e)mewn unrhyw achos arall, unrhyw wasanaeth a oedd, bryd hynny, yn swyddogaeth yr awdurdod i’w ddarparu.

(6)At ddibenion is-adrannau (4)(d) a (5)(d), swyddogaethau penodedig awdurdod rhestredig yw’r swyddogaethau a bennir mewn perthynas â’r awdurdod mewn rheoliadau o dan adran 31(2) yn rhai sy’n dod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon.

(7)Mae swyddogaeth weinyddol y caniateir i berson sy’n aelod o staff gweinyddol tribiwnlys perthnasol ei chyflawni i’w thrin yn swyddogaeth weinyddol awdurdod rhestredig at ddibenion is-adran (4)—

(a)os cafodd y person ei benodi gan yr awdurdod, neu

(b)os cafodd y person ei benodi gyda chydsyniad yr awdurdod (pa un ai o ran cydnabyddiaeth ariannol a thelerau ac amodau gwasanaeth eraill ai fel arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I22A. 11 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

12Eithrio: materion nad ydynt yn ymwneud â ChymruLL+C

(1)Ni chaniateir i’r Ombwdsmon ymchwilio i fater sy’n codi mewn cysylltiad ag awdurdod rhestredig sy’n cyflawni neu’n darparu unrhyw un neu ragor o swyddogaethau neu wasanaethau’r awdurdod heblaw o ran Cymru.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys o ran Llywodraeth Cymru.

(3)I’r graddau bod un o swyddogaethau awdurdod rhestredig yn cael ei chyflawni o ran y Gymraeg neu unrhyw agwedd arall ar ddiwylliant Cymru, mae i’w hystyried at ddibenion is-adran (1) yn swyddogaeth a gyflawnir o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I24A. 12 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

13Eithrio: rhwymedïau eraillLL+C

(1)Ni chaiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater o dan adran 3 os oes gan y person a dramgwyddwyd y canlynol neu os yw wedi cael y canlynol—

(a)hawl i apelio i dribiwnlys a gyfansoddwyd o dan ddeddfiad neu yn rhinwedd uchelfraint Ei Mawrhydi, neu i gael ei atgyfeirio at dribiwnlys o’r fath, neu i gael adolygiad gerbron tribiwnlys o’r fath,

(b)hawl i apelio i Weinidog y Goron, Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru neu Gwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, neu

(c)rhwymedi drwy gyfrwng achos mewn llys barn.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon yn fodlon, yn yr amgylchiadau penodol, nad yw’n rhesymol disgwyl i’r person arfer yr hawl neu’r rhwymedi, neu ddisgwyl iddo fod wedi arfer yr hawl neu’r rhwymedi.

(3)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater o dan adran 3 dim ond os yw’r Ombwdsmon wedi ei fodloni—

(a)bod y mater wedi ei ddwyn i sylw’r awdurdod rhestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef gan y person a dramgwyddwyd neu ar ei ran, a

(b)bod yr awdurdod wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio i’r mater ac ymateb iddo.

(4)Ond nid yw is-adran (3) yn atal yr Ombwdsmon rhag ymchwilio i fater os yw’r Ombwdsmon yn fodlon ei bod yn rhesymol yn yr amgylchiadau penodol i’r Ombwdsmon ymchwilio i’r mater er gwaethaf y ffaith nad yw gofynion yr is-adran honno wedi’u bodloni.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I26A. 13 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

14Materion eithriedig eraillLL+C

(1)Ni chaniateir i’r Ombwdsmon ymchwilio, o dan y Rhan hon, i fater a bennir yn Atodlen⁠ 2.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio Atodlen 2 drwy—

(a)ychwanegu cofnod;

(b)dileu cofnod;

(c)newid cofnod.

(3)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ombwdsmon.

(4)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(5)Nid yw is-adran (1) yn atal yr Ombwdsmon rhag ymchwilio i gamau gweithredu a gymerwyd gan awdurdod rhestredig wrth weithredu gweithdrefn a sefydlwyd i archwilio cwynion neu i adolygu penderfyniadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I28A. 14 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

15Penderfyniadau a wnaed heb gamweinydduLL+C

(1)Ni chaniateir i’r Ombwdsmon gwestiynu rhinweddau penderfyniad a wnaed heb gamweinyddu gan awdurdod rhestredig wrth arfer disgresiwn.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i rinweddau penderfyniad i’r graddau bod y penderfyniad wedi ei wneud o ganlyniad i arfer barn broffesiynol sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn arferadwy mewn cysylltiad â darparu gofal cymdeithasol neu iechyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I30A. 15 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Ymchwiliadau ategolLL+C

16Pŵer i ymchwilio i wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig ag iechydLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys fel a ganlyn—

(a)pan fo gan yr Ombwdsmon bŵer o dan y Rhan hon i ymchwilio—

(i)i gamweinyddu honedig gan awdurdod rhestredig perthnasol mewn cysylltiad â chamau gweithredu perthnasol a gymerwyd gan yr awdurdod mewn perthynas â pherson,

(ii)i fethiant honedig mewn gwasanaeth perthnasol a ddarperir i berson gan awdurdod rhestredig perthnasol, neu

(iii)i fethiant honedig gan awdurdod rhestredig perthnasol i ddarparu gwasanaeth perthnasol i berson, a

(b)pan fo gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd nad yw’n wasanaeth perthnasol hefyd wedi’i ddarparu i’r person.

(2)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn na ellir ymchwilio’n effeithiol nac yn gyflawn i’r camweinyddu honedig neu’r methiant honedig heb hefyd ymchwilio i’r gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd a grybwyllir yn is-adran (1)(b), caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i’r gwasanaeth hwnnw fel rhan o’r ymchwiliad mewn perthynas â’r awdurdod rhestredig perthnasol.

(3)Os gwnaiff yr Ombwdsmon hynny, mae unrhyw gyfeiriad at awdurdod rhestredig yn adran 17, 18, 23(2)(b) neu (7)(a), 27, 28(4)(b), (6)(c), (6)(d) neu (9)(b)(ii) neu 29(4)(a) yn cynnwys hefyd gyfeiriad at y person a ddarparodd y gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd a grybwyllir yn is-adran (1)(b).

(4)Yn yr adran hon—

  • ystyr “awdurdod rhestredig perthnasol” (“relevant listed authority”) yw—

    (a)

    Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru;

    (b)

    Bwrdd Iechyd Lleol;

    (c)

    Ymddiriedolaeth GIG sy’n rheoli ysbyty neu sefydliad neu gyfleuster arall yng Nghymru;

    (d)

    Awdurdod Iechyd Arbennig nad yw’n cyflawni swyddogaethau yn Lloegr yn unig neu’n bennaf;

    (e)

    Cyngor Iechyd Cymuned;

    (f)

    darparwr annibynnol yng Nghymru;

    (g)

    darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru;

    (h)

    person â swyddogaethau a roddir gan reoliadau a wneir o dan adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43);

    (i)

    Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru;

  • mae i “camau gweithredu perthnasol” (“relevant action”) yr ystyr a roddir yn adran 11(4);

  • mae i “gwasanaeth perthnasol” (“relevant service”) yr ystyr a roddir yn adran 11(5);

  • mae “gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd” (“health-related service”) yn cynnwys⁠—

    (a)

    unrhyw wasanaeth meddygol, deintyddol, offthalmig, nyrsio, bydwreigiaeth neu fferyllol, a

    (b)

    unrhyw wasanaeth arall a ddarperir mewn cysylltiad ag iechyd corfforol neu feddyliol person,

    heblaw triniaeth arbennig a gyflawnir o dan awdurdod trwydded triniaeth arbennig (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (dccc2);

(5)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar bŵer yr Ombwdsmon o dan adran 19.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I32A. 16 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio etcLL+C

17Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio neu i roi’r gorau i ymchwiliadLL+C

(1)Os yw’r Ombwdsmon—

(a)yn penderfynu peidio â chychwyn ymchwiliad neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 3(5), neu

(b)pan fo’r Omdwdsmon wedi ymgynghori â pherson o dan adran 4(2)(c), yn penderfynu peidio â chychwyn ymchwiliad, neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 4(3)(a),

rhaid i’r Ombwdsmon baratoi datganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad at—

(a)unrhyw berson a wnaeth gŵyn i’r Ombwdsmon mewn perthynas â’r mater, a

(b)yr awdurdod rhestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef.

(3)Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(4)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o dan yr adran hon os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(5)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o ddatganiad a gyhoeddir o dan is-adran (4), neu unrhyw ran o ddatganiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano.

(6)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o ddatganiad, neu ran o ddatganiad, o dan is-adran (5).

(7)Os yw datganiad a baratowyd o dan is-adran (1)—

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdod rhestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd y datganiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r datganiad a anfonir at berson o dan is-adran (2) neu (3) neu a gyhoeddir o dan is-adran (4), yn ddarostyngedig i is-adran (8).

(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r datganiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r datganiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I34A. 17 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaethLL+C

18Gweithdrefn ymchwilioLL+C

(1)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 3, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef wneud sylwadau ar unrhyw honiadau yn y gŵyn;

(b)rhoi i unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt, neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt, gyfle i wneud sylwadau ar unrhyw honiadau sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

(2)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 4, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)paratoi cynnig ymchwilio, a

(b)cyflwyno’r cynnig ymchwilio—

(i)i’r awdurdod rhestredig yr ymchwilir iddo, a

(ii)i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio.

(3)Ond os yw’r Ombwdsmon—

(a)wedi cychwyn ymchwiliad i fater o dan adran 3 neu 4 (yn y naill achos a’r llall, “yr ymchwiliad gwreiddiol”), a

(b)wedi cychwyn ymchwiliad arall i fater (“yr ymchwiliad cysylltiedig”) o dan adran 4 sy’n ymwneud â’r ymchwiliad gwreiddiol,

nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r ymchwiliad cysylltiedig.

(4)Mae ymchwiliad yn ymwneud ag ymchwiliad gwreiddiol os oes gan y mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad cysylltiedig gysylltiad sylweddol â’r mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad gwreiddiol.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn paratoi cynnig ymchwilio mewn cysylltiad â mater, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig yr ymchwilir iddo wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio, wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio (i’r graddau y mae’r cynnig ymchwilio yn ymwneud â’r person hwnnw).

(6)Pan fo’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad cysylltiedig i fater a phan nad oes cynnig ymchwilio wedi’i baratoi yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r awdurdod rhestredig wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r awdurdod rhestredig, y’i hadwaenir gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r ymchwiliad cysylltiedig, i wneud sylwadau ynghylch yr ymchwiliad cysylltiedig (i’r graddau y mae’r cynnig ymchwilio yn ymwneud â’r person hwnnw).

(7)Rhaid i gynnig ymchwilio nodi—

(a)y rhesymau dros yr ymchwiliad, a

(b)y modd y bodlonwyd y meini prawf a gyhoeddwyd o dan adran 5.

(8)Rhaid i ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.

(9)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon, y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad o dan adran 3 neu 4 yw’r un sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon yn amgylchiadau’r achos.

(10)Yn benodol, caiff yr Ombwdsmon—

(a)gwneud y cyfryw ymchwiliadau y mae’r Ombwdsmon o’r farn eu bod yn briodol;

(b)penderfynu a gaiff unrhyw berson ei gynrychioli yn yr ymchwiliad gan berson awdurdodedig neu fel arall.

(11)Yn is-adran (10) ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29), yn berson awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy’n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno).

(12)Caiff yr Ombwdsmon dalu i unrhyw berson sy’n bresennol neu sy’n rhoi gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad—

(a)y cyfryw symiau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt mewn perthynas â threuliau yr aethpwyd iddynt yn briodol gan y person, a

(b)y cyfryw lwfansau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt i ddigolledu’r person am ei amser,

yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau y penderfyna’r Ombwdsmon arnynt.

(13)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r weithdrefn y bydd yr Ombwdsmon yn ei dilyn wrth gynnal ymchwiliad o dan adran 3 neu 4.

(14)Nid yw cynnal ymchwiliad mewn perthynas ag awdurdod rhestredig yn effeithio ar y canlynol—

(a)dilysrwydd unrhyw gamau gweithredu a gymerodd yr awdurdod rhestredig, neu

(b)unrhyw bŵer neu ddyletswydd sydd gan yr awdurdod rhestredig i gymryd camau gweithredu pellach mewn perthynas ag unrhyw fater yr ymchwilir iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I36A. 18 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

19Gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliadau a gynhelir o dan y Rhan hon.

(2)At ddibenion ymchwiliad caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i wneud hynny.

(3)At ddibenion ymchwiliad, mae gan yr Ombwdsmon yr un pwerau â’r Uchel Lys o ran—

(a)presenoldeb tystion a holi tystion (gan gynnwys gweinyddu llwon a chadarnhadau a holi tystion dramor), a

(b)dangos dogfennau.

(4)At ddibenion ymchwiliad caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i ddarparu unrhyw gyfleuster y caiff yr Ombwdsmon ei wneud yn rhesymol ofynnol.

(5)Yn ddarostyngedig i is-adran (7), ni chaniateir gorfodi unrhyw berson at ddibenion ymchwiliad i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen na allai gael ei orfodi i’w rhoi neu ei dangos mewn achosion sifil gerbron yr Uchel Lys.

(6)Nid oes rhwymedigaeth i gadw cyfrinachedd neu gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth a gafwyd gan bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi, neu a roddwyd i bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi,pa un a osodwyd y rhwymedigaeth honno gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, i fod yn gymwys i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion ymchwiliad.

(7)Nid oes gan y Goron hawl, mewn perthynas ag ymchwiliad, i unrhyw fraint o ran dangos dogfennau neu o ran rhoi tystiolaeth a fyddai’n cael ei chaniatáu fel arall yn ôl y gyfraith mewn achosion cyfreithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I38A. 19 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

20Rhwystro a dirmyguLL+C

(1)Os bodlonir yr Ombwdsmon fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i’r Uchel Lys.

(2)Yr amod yw bod y person—

(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)Ond nid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person dim ond am fod y person hwnnw wedi cymryd camau gweithredu yn y modd a grybwyllir yn adran 18(14).

(4)Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif o dan is-adran (1), caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater.

(5)Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person mewn unrhyw ffordd y byddai wedi gallu ei drin pe bai’r person wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I40A. 20 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

21Rhwystro a dirmygu: adennill costauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys fel a ganlyn—

(a)pan fo’r Ombwdsmon yn ymchwilio i wasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd fel rhan o ymchwiliad sy’n ymwneud ag awdurdod rhestredig perthnasol o dan adran 16(2), a

(b)pan fo’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni.

(2)Yr amod yw bod darparwr y gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd (“y darparwr”)—

(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas â’r ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)Nid yw’r amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran darparwr dim ond am fod y darparwr wedi cymryd camau gweithredu fel y crybwyllir yn adran 18(14)(b).

(4)Caiff yr Ombwdsmon gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adennill costau”) i’r darparwr sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr dalu i’r Ombwdsmon gostau yr aeth yr Ombwdsmon iddynt o ganlyniad i’r rhwystr neu’r weithred a grybwyllir yn is-adran (2).

(5)Caiff y costau y cyfeirir atynt yn is-adran (4) gynnwys (ond nid ydynt yn gyfyngedig i) y costau o gael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(6)Rhaid i hysbysiad adennill costau—

(a)nodi ar ba sail y cyflwynir yr hysbysiad, gan gynnwys manylion y rhwystr neu’r weithred sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn bodloni’r amod yn is-adran (2),

(b)pennu’r swm y mae’n rhaid ei dalu i’r Ombwdsmon, ynghyd â manylion y swm hwnnw,

(c)pennu—

(i)y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid talu, a

(ii)sut y caniateir talu, a

(d)egluro’r hawl i apelio yn is-adran (9).

(7)Rhaid i’r dyddiad talu a bennir o dan is-adran (6)(c) fod o leiaf 28 o ddiwrnodau yn hwyrach na’r dyddiad y caiff yr hysbysiad adennill costau ei gyflwyno i’r darparwr.

(8)Rhaid i’r darparwr dalu i’r Ombwdsmon y swm a bennir yn yr hysbysiad adennill costau erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw (ond mae hyn yn ddarostyngedig i weddill y darpariaethau yn yr adran hon).

(9)Caiff y darparwr apelio i’r llys ynadon yn erbyn hysbysiad adennill costau cyn pen 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad i’r darparwr; ac os bydd y darparwr yn gwneud hynny, nid yw is-adran (8) yn gymwys (ond gweler is-adrannau (15) ac (16)).

(10)Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn bod yr hysbysiad i gael ei ddileu neu ei amrywio, ac yn unol â Deddf Llys Ynadon 1980 (p.43).

(11)At ddiben y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud cwyn i gael ei drin fel gwneud apêl.

(12)Y sail dros apêl yw bod penderfyniad yr Ombwdsmon i ddyroddi’r hysbysiad adennill costau—

(a)yn seiliedig ar wall ffeithiol,

(b)yn anghywir mewn cyfraith, neu

(c)yn afresymol am unrhyw reswm.

(13)Ar apêl, caiff y llys ynadon—

(a)cadarnhau, dileu neu amrywio’r hysbysiad adennill costau, a

(b)gwneud y cyfryw orchymyn o ran costau sy’n briodol ym marn y llys ynadon.

(14)Pan fo llys ynadon, ar apêl, yn dileu neu’n amrywio’r hysbysiad adennill costau, caiff orchymyn yr Ombwdsmon i ddigolledu’r darparwr am y golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad.

(15)Pan fo llys ynadon, ar apêl, yn cadarnhau’r hysbysiad adennill costau (gydag amrywiad neu heb amrywiad), rhaid i’r darparwr dalu’r swm sy’n daladwy yn rhinwedd yr hysbysiad cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl.

(16)Pan fo apêl a wnaed o dan yr adran hon yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r darparwr dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad adennill costau cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff yr apêl ei thynnu’n ôl.

(17)Mae swm sy’n daladwy o dan yr adran hon i’w adennill yn ddiannod fel dyled sifil.

(18)Yn yr adran hon, mae i “gwasanaeth sy’n gysylltiedig ag iechyd” yr ystyr a roddir yn adran 16.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I42A. 21 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

22Cyflwyno hysbysiad adennill costauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gyflwyno hysbysiad adennill costau o dan adran 21.

(2)Caniateir i hysbysiad adennill costau gael ei gyflwyno i berson—

(a)drwy ei ddanfon yn bersonol i’r person,

(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,

(c)drwy ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu

(d)pan fo is-adran (3) yn gymwys, drwy ei anfon yn electronig i gyfeiriad a ddarparwyd at y diben hwnnw.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r person y mae’r hysbysiad adennill costau i’w ddyroddi iddo wedi cytuno yn ysgrifenedig iddo gael ei anfon yn electronig.

(4)At ddibenion is-adran (2)(a), caniateir danfon hysbysiad adennill costau yn bersonol i gorff corfforaethol drwy ei roi i ysgrifennydd neu i glerc y corff hwnnw.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(b), mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn ar yr adeg y’i gadawyd yng nghyfeiriad priodol y person oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(6)At ddibenion is-adrannau (2)(b) ac (c), cyfeiriad priodol person yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)yn achos person sy’n gweithredu yn rhinwedd partner mewn partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

(7)Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(c) drwy ei anfon i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

(8)Pan fo’r Ombwdsmon yn cyflwyno hysbysiad adennill costau yn y dull a grybwyllir yn is-adran (2)(d), mae’r hysbysiad adennill costau i’w drin fel pe bai wedi ei dderbyn 48 awr ar ôl ei anfon oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I44A. 22 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

23Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

(1)Rhaid i’r Ombwdsmon, ar ôl cynnal ymchwiliad—

(a)paratoi adroddiad ynghylch canfyddiadau’r Ombwdsmon, a

(b)anfon copi o’r adroddiad at y personau a restrir yn is-adran (2),

ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 27.

(2)Y personau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) yw—

(a)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chŵyn, y person a wnaeth y gŵyn;

(b)yr awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef;

(c)unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn (os oes un) ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu a wneir yn hysbys yn yr adroddiad gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol;

(d)os y w’r a wdurdod r hestredig y n d darparwr g wasanaeth i echyd t eulu y ng Nghymru—

(i)unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol yr oedd yr awdurdod, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun yr ymchwiliad, wedi ymrwymo i gontract ag ef i ddarparu’r gwasanaethau iechyd teulu sy’n destun ymchwiliad;

(ii)unrhyw berson yr oedd yr awdurdod, yr adeg honno, wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaethau hynny iddo;

(iii)unrhyw berson yr oedd yr awdurdod, yr adeg honno, wedi gwneud trefniadau ag ef ar gyfer darparu’r gwasanaethau hynny;

(e)os yw’r awdurdod rhestredig yn ddarparwr annibynnol yng Nghymru—

(i)unrhyw gorff yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yr oedd yr awdurdod, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun yr ymchwiliad, wedi gwneud trefniadau ag ef i ddarparu’r gwasanaethau sy’n destun ymchwiliad;

(ii)unrhyw ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru yr oedd yr awdurdod, yr adeg honno, wedi gwneud trefniadau ag ef i ddarparu’r gwasanaethau hynny;

(f)Prif Weinidog Cymru (oni bai mai’r awdurdod rhestredig yw Llywodraeth Cymru neu awdurdod lleol yng Nghymru).

(3)Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(4)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad a baratowyd o dan yr adran hon os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(5)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (4), neu unrhyw ran o adroddiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(6)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (5).

(7)Os yw adroddiad a baratowyd o dan yr adran hon—

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (1)(b) neu (3) neu a gyhoeddir o dan is-adran (4), yn ddarostyngedig i is-adran (8).

(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I46A. 23 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

24Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadauLL+C

(1)Os yw awdurdod rhestredig yn cael copi o adroddiad o dan adran 23(1)(b), rhaid i’r awdurdod sicrhau bod copïau o’r fersiwn honno o’r adroddiad ar gael am gyfnod o dair wythnos o leiaf—

(a)yn un neu ragor o swyddfeydd yr awdurdod, a

(b)os oes gan yr awdurdod wefan, ar y wefan honno.

(2)Drwy gydol y cyfnod hwnnw o dair wythnos, caiff unrhyw berson—

(a)archwilio copi o’r adroddiad yn y swyddfa neu’r swyddfeydd dan sylw ar unrhyw adeg resymol yn ddi-dâl;

(b)gwneud copi o’r adroddiad neu unrhyw ran ohono ar unrhyw adeg resymol yn ddi-dâl;

(c)ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod rhestredig roi copi o’r adroddiad neu unrhyw ran ohono i’r person, wedi i’r person dalu swm rhesymol os gofynnir am hynny;

(d)gweld copi o’r adroddiad ar y wefan (os oes un) yn ddi-dâl.

(3)Heb fod yn hwyrach na phythefnos ar ôl cael copi o’r adroddiad rhaid i’r awdurdod rhestredig sicrhau bod hysbysiad yn cael ei gyhoeddi mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y rhan honno o Gymru lle digwyddodd y mater sy’n destun yr adroddiad.

(4)Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)y dyddiad y bydd y cyfnod o dair wythnos y cyfeirir ato yn is-adran (1) yn cychwyn,

(b)y swyddfa neu’r swyddfeydd lle gellir archwilio copi o’r adroddiad, ac

(c)cyfeiriad gwefan yr awdurdod (os oes ganddo un).

(5)Caiff yr Ombwdsmon roi cyfarwyddydau i awdurdodau rhestredig ynghylch cyflawni eu swyddogaethau o dan yr adran hon.

(6)Caiff cyfarwyddydau o dan is-adran (5) ymwneud â’r canlynol—

(a)awdurdod rhestredig penodol mewn perthynas ag adroddiad penodol, neu

(b)pob awdurdod rhestredig neu unrhyw un neu ragor ohonynt mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau yn gyffredinol o dan yr adran hon.

(7)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os yw’r person yn fwriadol yn rhwystro person wrth iddo arfer hawl a roddir gan is-adran (2)(a), (b) neu (d), neu

(b)os yw’r person yn gwrthod cydymffurfio â gofyniad o dan is-adran (2)(c).

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(9)Caiff yr Ombwdsmon gyfarwyddo bod is-adrannau (1) i (4) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas ag adroddiad penodol.

(10)Wrth benderfynu pa un ai i roi cyfarwyddyd o dan is-adran (9), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—

(a)budd y cyhoedd,

(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac

(c)buddiannau unrhyw bersonau eraill sy’n briodol, ym marn yr Ombwdsmon.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I48A. 24 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

25Rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau: darparwyr gofal iechydLL+C

(1)Os caiff ymchwiliad ei gynnal yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru, mae adran 24 yn cael effaith gyda’r addasiadau a bennir yn is-adrannau (2) i (4).

(2)Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Rhaid i berson sydd wedi cael copi o adroddiad o dan adran 23 yn rhinwedd adran 23(2)(d) sicrhau bod copïau o’r adroddiad ar gael am gyfnod o dair wythnos o leiaf—

(a)yn un neu ragor o swyddfeydd y person, a

(b)os oes gan y person wefan, ar y wefan honno.

(3)Mae’r cyfeiriadau at yr awdurdod rhestredig i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at y person hwnnw.

(4)Mae’r cyfeiriadau at awdurdodau rhestredig, neu at awdurdod rhestredig penodol, i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at bersonau, neu berson penodol, o’r un disgrifiad â’r person hwnnw.

(5)Os caiff ymchwiliad ei gynnal yn achos awdurdod rhestredig sy’n ddarparwr annibynnol yng Nghymru, mae adran 24 yn cael effaith gyda’r addasiadau a bennir yn is-adrannau (6) i (8).

(6)Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Rhaid i berson sydd wedi cael copi o adroddiad o dan adran 23 yn rhinwedd adran 23(2)(e) sicrhau bod copïau o’r adroddiad ar gael am gyfnod o dair wythnos o leiaf—

(a)yn un neu ragor o swyddfeydd y person, a

(b)os oes gan y person wefan, ar y wefan honno.

(7)Mae’r cyfeiriadau at yr awdurdod rhestredig i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at y person hwnnw.

(8)Mae’r cyfeiriadau at awdurdodau rhestredig, neu at awdurdod rhestredig penodol, i’w cymryd i fod yn gyfeiriadau at bersonau, neu berson penodol, o’r un disgrifiad â’r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I50A. 25 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

26Camau gweithredu ar ôl cael adroddiadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, mewn adroddiad o dan adran 23 ar ymchwiliad mewn perthynas ag awdurdod rhestredig, yn dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo.

(2)Rhaid i’r awdurdod rhestredig ystyried yr adroddiad a hysbysu’r Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir—

(a)am y camau gweithredu y mae wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb iddo, a

(b)cyn diwedd pa gyfnod y mae’n bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny (os nad yw wedi gwneud hynny eisoes).

(3)Y cyfnod a ganiateir yw—

(a)y cyfnod o fis sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r awdurdod yn cael yr adroddiad, neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I52A. 26 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

27Adroddiadau: gweithdrefn amgenLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad—

(a)os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad nad oes unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, a

(b)os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 23 i 26 fod yn gymwys.

(2)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad—

(a)os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo,

(b)os yw’r awdurdod rhestredig y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef yn cytuno i weithredu, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, unrhyw argymhellion a wneir gan yr Ombwdsmon, ac

(c)os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 23 i 26 fod yn gymwys.

(3)Y cyfnod a ganiateir yw—

(a)cyfnod y cytunwyd arno rhwng yr Ombwdsmon a’r awdurdod rhestredig ac, os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chŵyn, y person a wnaeth y gŵyn, neu

(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn na ellir gwneud cytundeb o’r fath, y cyfnod a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(4)Caiff yr Ombwdsmon benderfynu paratoi adroddiad am ganfyddiadau’r Ombwdsmon o dan yr adran hon yn hytrach nag o dan adran 23.

(5)Os yw’r Ombwdsmon yn penderfynu paratoi adroddiad o dan yr adran hon—

(a)nid yw adrannau 23 i 26 yn gymwys;

(b)rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at y canlynol—

(i)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chŵyn, y person a wnaeth y gŵyn;

(ii)yr awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef;

(c)caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(6)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad a baratowyd o dan yr adran hon os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(7)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (6), neu unrhyw ran o adroddiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano.

(8)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (7).

(9)Os yw adroddiad a baratowyd o dan yr adran hon—

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (5) neu a gyhoeddir o dan is-adran (6), yn ddarostyngedig i is-adran (10).

(10)Nid yw is-adran (9) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I54A. 27 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Adroddiadau arbennigLL+C

28Adroddiadau arbennigLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon baratoi adroddiad o dan yr adran hon (“adroddiad arbennig”) os yw is-adran (2), (4) neu (6) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, mewn adroddiad o dan adran 23, wedi dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder eu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, ac—

(a)nad yw’r Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 26 cyn diwedd y cyfnod a ganiateir o dan yr adran honno,

(b)bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon â’r canlynol—

(i)y camau gweithredu y mae’r awdurdod rhestredig wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd, neu

(ii)cyn diwedd pa gyfnod y mae’n bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny, neu

(c)bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon bod yr awdurdod rhestredig, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, wedi cymryd y camau gweithredu y bwriadai eu cymryd.

(3)Y cyfnod a ganiateir at ddibenion is-adran (2)(c) yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 26(2)(b), neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r Ombwdsmon wedi paratoi adroddiad o dan adran 27(2), a

(b)os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr awdurdod rhestredig wedi gweithredu argymhellion yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

(5)Y cyfnod a ganiateir at ddibenion is-adran (4)(b) yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 27(2)(b), neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw mater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo wedi cael ei ddatrys,

(b)os yw’r Ombwdsmon, wrth ddatrys y mater, wedi dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater,

(c)os yw’r awdurdod rhestredig wedi cytuno i gymryd camau gweithredu penodol cyn diwedd cyfnod penodol, a

(d)os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod yr awdurdod rhestredig wedi cymryd y camau gweithredu hynny cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

(7)Y cyfnod a ganiateir at ddibenion is-adran (6)(d) yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (6)(c), neu

(b)unrhyw gyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(8)Rhaid i adroddiad arbennig—

(a)nodi’r ffeithiau sy’n sail i gymhwyso is-adran (2), (4) neu (6), a

(b)gwneud y cyfryw argymhellion sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon o ran y camau gweithredu y dylid, ym marn yr Ombwdsmon, eu cymryd—

(i)i unioni neu i atal yr anghyfiawnder neu’r caledi i’r person, a

(ii)i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi i unrhyw berson yn y dyfodol.

(9)Rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig—

(a)os caiff yr adroddiad arbennig ei baratoi am fod is-adran (2) yn gymwys, at bob person yr anfonwyd copi o’r adroddiad o dan adran 23 ato o dan adran 23(1)(b);

(b)os caiff yr adroddiad arbennig ei baratoi am fod is-adran (4) neu (6) yn gymwys—

(i)at y person a wnaeth y gŵyn, os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chŵyn;

(ii)at yr awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.

(10)Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I56A. 28 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

29Adroddiadau arbennig: atodolLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon—

(a)cyhoeddi adroddiad arbennig a wnaed o dan adran 28;

(b)rhoi copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd neu unrhyw ran ohono i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(2)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad (neu ran o adroddiad) o dan is-adran (1)(b).

(3)Rhaid i’r awdurdod rhestredig y gwneir adroddiad arbennig ar ei gyfer ad-dalu’r Ombwdsmon am y gost o gyhoeddi adroddiad arbennig os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Ombwdsmon.

(4)Os yw adroddiad arbennig—

(a)yn crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdod rhestredig y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, neu

(b)yn cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad,

ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth honno mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan adran 28(9) neu (10) neu a gyhoeddir o dan is-adran (1) o’r adran hon, yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â fersiwn o’r adroddiad arbennig os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau unrhyw berson a dramgwyddwyd ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

(6)Mae adrannau 24 a 25 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau o dan adran 23) yn gymwys mewn perthynas ag adroddiad arbennig o dan adran 28 yn yr un modd ag y maent yn gymwys mewn perthynas ag adroddiad o dan adran 23.

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I58A. 29 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

30Adroddiadau arbennig sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol CymruLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os caiff adroddiad arbennig ei wneud mewn achos pan gafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru neu Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Rhaid i’r person perthnasol osod copi o’r adroddiad gerbron y Cynulliad.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y person perthnasol” yw—

(a)os cafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog Cymru, a

(b)os cafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aelod o’r Comisiwn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I60A. 30 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Awdurdodau rhestredigLL+C

31Awdurdodau rhestredigLL+C

(1)Mae’r personau a bennir yn Atodlen 3 yn awdurdodau rhestredig at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 3 drwy—

(a)ychwanegu person,

(b)hepgor person, neu

(c)newid y disgrifiad o berson.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) sy’n ychwanegu person at Atodlen 3 ddarparu bod y Ddeddf hon yn gymwys i’r person hwnnw gyda’r addasiadau a bennir yn y rheoliadau.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ombwdsmon ac unrhyw bersonau eraill sydd, yn eu barn hwy, yn briodol.

(5)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(6)Mae adrannau 32 a 33 yn cynnwys cyfyngiadau pellach ar y pŵer yn is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I62A. 31 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

32Cyfyngiadau ar bŵer i ddiwygio Atodlen 3LL+C

(1)Ni chaniateir i reoliadau o dan adran 31(2) hepgor Llywodraeth Cymru na Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru o Atodlen 3.

(2)Caniateir i reoliadau o dan adran 31(2) ychwanegu person at Atodlen 3 dim ond os byddai’r ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I64A. 32 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

33Darpariaethau mewn rheoliadau sy’n ychwanegu personau at Atodlen 3LL+C

Os yw Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud rheoliadau o dan adran 31(2) sy’n ychwanegu person at Atodlen 3, rhaid iddynt hefyd bennu’r canlynol yn y rheoliadau—

(a)pa un a yw holl swyddogaethau’r person, ai dim ond rhai ohonynt, i ddod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon o dan y Rhan hon;

(b)os mai dim ond rhai o swyddogaethau’r person sydd i ddod o fewn cylch gwaith yr Ombwdsmon o dan y Rhan hon, pa rai yw’r swyddogaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I66A. 33 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

34Pŵer i ddyroddi canllawiauLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon ddyroddi i un neu ragor o awdurdodau rhestredig y cyfryw ganllawiau ynghylch arferion gweinyddu da sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r cyfryw awdurdodau rhestredig, neu bersonau yr ymddengys i’r Ombwdsmon eu bod yn cynrychioli’r awdurdodau rhestredig hynny, sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(3)Os yw canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon yn gymwys i awdurdod rhestredig, rhaid i’r awdurdod roi sylw i’r canllawiau wrth gyflawni ei swyddogaethau.

(4)Wrth gynnal ymchwiliad mewn perthynas ag awdurdod rhestredig, caiff yr Ombwdsmon ystyried y graddau y mae’r awdurdod wedi cydymffurfio ag unrhyw ganllawiau a ddyroddwyd o dan yr adran hon sy’n gymwys i’r awdurdod.

(5)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon mewn unrhyw fodd sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, gan gynnwys yn benodol drwy roi’r canllawiau mewn adroddiad blynyddol neu eithriadol.

(6)Caiff canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(7)Yn ddarostyngedig i is-adran (8), ni chaiff canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon—

(a)crybwyll enw unrhyw berson heblaw’r awdurdodau rhestredig y mae’r canllawiau yn gymwys iddynt, neu awdurdod rhestredig yr ymchwiliwyd iddo o dan y Rhan hon, na

(b)cynnwys unrhyw fanylion sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud unrhyw berson o’r fath yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, eu hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd y canllawiau.

(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau unrhyw bersonau sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y canllawiau.

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I68A. 34 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

DigolleduLL+C

35Digolledu’r person a dramgwyddwydLL+C

(1)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os caiff cwyn mewn perthynas â mater ei gwneud neu ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon, a

(b)os yw’r gŵyn yn un y mae gan yr Ombwdsmon bŵer i ymchwilio iddi o dan y Rhan hon.

(2)Caiff yr awdurdod rhestredig y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef wneud taliad i’r person a dramgwyddwyd, neu ddarparu unrhyw fudd arall i’r person a dramgwyddwyd, mewn perthynas â’r mater sy’n destun y gŵyn.

(3)Nid yw’n berthnasol at ddibenion yr adran hon fod yr Ombwdsmon wedi penderfynu peidio ag ymchwilio i’r gŵyn, wedi rhoi’r gorau i ymchwiliad i’r gŵyn, nad yw eto wedi cwblhau ymchwiliad i’r gŵyn, neu nad yw wedi cadarnhau’r gŵyn.

(4)Nid yw’r pŵer yn is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan yr awdurdod rhestredig i wneud y taliad neu i ddarparu’r budd.

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I70A. 35 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

RHAN 4LL+CAwdurdodau rhestredig: gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion

36Ymdrin â chwynion: datganiad o egwyddorionLL+C

(1)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o egwyddorion ynghylch gweithdrefnau awdurdodau rhestredig ar gyfer ymdrin â chwynion.

(2)Rhaid i awdurdod rhestredig—

(a)cael gweithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion, a

(b)sicrhau bod unrhyw weithdrefn o’r fath yn cydymffurfio â’r datganiad o egwyddorion.

(3)Rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r datganiad cyntaf o egwyddorion gerbron y Cynulliad.

(4)Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft cyn diwedd y cyfnod o⁠ 40 diwrnod, ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r datganiad o egwyddorion ar ei ffurf ddrafft.

(5)Os na wneir y cyfryw benderfyniad cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r datganiad o egwyddorion ar ei ffurf ddrafft.

(6)O ran y cyfnod o 40 diwrnod—

(a)mae’n dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw amser pan fo’r Cynulliad wedi’i ddiddymu neu pan fydd toriad o fwy na phedwar diwrnod.

(7)Nid yw is-adran (4) yn atal datganiad drafft newydd o egwyddorion rhag cael ei osod gerbron y Cynulliad.

(8)Cyn gosod datganiad drafft o egwyddorion gerbron y Cynulliad, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)y cyfryw awdurdodau rhestredig a phersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(9)Rhaid i’r Ombwdsmon, wrth baratoi’r datganiad drafft o egwyddorion sydd i’w osod gerbron y Cynulliad, roi sylw i unrhyw sylwadau a wneir yn ystod yr ymgynghoriad a grybwyllir yn is-adran (8).

(10)Daw’r datganiad o egwyddorion i rym pan gaiff ei gyhoeddi gan yr Ombwdsmon.

(11)O dro i dro, caiff yr Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi’r datganiad o egwyddorion.

(12)Os, ym marn yr Ombwdsmon, yw adolygiadau a wneir o dan is-adran (11) yn effeithio ar unrhyw newid perthnasol i’r datganiad o egwyddorion, rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r adolygiadau hynny gerbron y Cynulliad.

(13)Mae is-adrannau (4) i (10) yn gymwys i adolygiadau drafft a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-adran (12) fel y maent yn gymwys i’r datganiad cyntaf o egwyddorion.

(14)Yn yr adran hon ac adrannau 37 i 40, ystyr “gweithdrefnau ymdrin â chwynion” yw gweithdrefnau awdurdodau rhestredig sy’n archwilio cwynion neu’n adolygu penderfyniadau mewn perthynas â chamau gweithredu a gymerwyd gan awdurdod rhestredig pan fo’r mater o dan sylw yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan Ran 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I72A. 36 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

37Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynionLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion ar gyfer awdurdodau rhestredig.

(2)Rhaid i weithdrefn enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion (y cyfeirir ati yn y Ddeddf hon fel “gweithdrefn enghreifftiol”) gydymffurfio â’r datganiad o egwyddorion.

(3)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi gweithdrefnau enghreifftiol gwahanol at ddibenion gwahanol.

(4)Cyn cyhoeddi gweithdrefn enghreifftiol rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r cyfryw awdurdodau rhestredig neu grwpiau o awdurdodau rhestredig sy’n briodol yn marn yr Ombwdsmon.

(5)Ni chaniateir i weithdrefn enghreifftiol, o ran ei chymhwysiad i awdurdod rhestredig—

(a)gosod dyletswydd ar yr awdurdod rhestredig os nad oes gan yr awdurdod rhestredig y pwerau angenrheidiol (heblaw yn rhinwedd y Ddeddf hon) i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd;

(b)bod yn anghyson ag unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw god, canllawiau, cynllun neu ddogfen arall a wnaed o dan y deddfiad) sy’n gymwys i’r awdurdod rhestredig.

(6)O dro i dro, caiff yr Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi unrhyw weithdrefn enghreifftiol; ac wrth wneud hynny—

(a)mae is-adran (5) yn gymwys, a

(b)cyn ailgyhoeddi unrhyw weithdrefn enghreifftiol, rhaid i’r Ombwdsmon hysbysu’r cyfryw awdurdodau rhestredig neu’r cyfryw grwpiau o awdurdodau rhestredig sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon am unrhyw newidiadau i’r weithdrefn enghreifftiol.

(7)Pan fo gweithdrefn enghreifftiol yn cael ei hadolygu a’i hailgyhoeddi yn rhinwedd is-adran (6), mae adran 38 yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)mae unrhyw fanyleb o dan is-adran (1) o’r adran honno mewn perthynas â’r weithdrefn enghreifftiol yn parhau i gael effaith fel manyleb mewn perthynas â’r weithdrefn enghreifftiol a adolygwyd ac a ailgyhoeddwyd,

(b)mae unrhyw gyfeiriad arall at weithdrefn enghreifftiol yn gyfeiriad at y weithdrefn enghreifftiol a adolygwyd ac a ailgyhoeddwyd, ac

(c)yn is-adran (3) o’r adran honno, mae cyfeiriad at gael hysbysiad o’r fanyleb o dan is-adran (1) o’r adran honno yn gyfeiriad at gael hysbysiad o’r diwygiad o dan is-adran (6)(b) o’r adran hon.

(8)Caiff yr Ombwdsmon dynnu’r weithdrefn enghreifftiol yn ôl ar unrhyw adeg.

(9)Pan fo’r Ombwdsmon yn tynnu gweithdrefn enghreifftiol yn ôl o dan is-adran (8)—

(a)rhaid i’r Ombwdsmon, cyn tynnu’r weithdrefn enghreifftiol yn ôl, hysbysu pob awdurdod rhestredig y mae’r weithdrefn enghreifftiol yn berthnasol iddo y bydd y weithdrefn enghreifftiol yn cael ei thynnu’n ôl a phryd y bydd y tynnu’n ôl yn digwydd, a

(b)ar y diwrnod y mae’r weithdrefn yn cael ei thynnu’n ôl—

(i)bydd unrhyw fanyleb o dan adran 38(1) mewn perthynas â’r weithdrefn enghreifftiol a dynnwyd yn ôl yn peidio â chael effaith, a

(ii)bydd y ddyletswydd yn adran 38(3) yn peidio â bod yn gymwys i awdurdod rhestredig a hysbyswyd o dan is-adran (9)(a), i’r graddau y mae’r ddyletswydd yn codi mewn perthynas â’r weithdrefn enghreifftiol a dynnwyd yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I74A. 37 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

38Gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion: manyleb awdurdodau rhestredigLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon bennu unrhyw awdurdod rhestredig y mae gweithdrefn enghreifftiol yn berthnasol iddo; a rhaid hysbysu’r awdurdod yn unol â hynny.

(2)Pan fo gweithdrefn enghreifftiol yn berthnasol i awdurdod rhestredig yn rhinwedd manyleb o dan is-adran (1), rhaid i’r awdurdod sicrhau bod gweithdrefn ymdrin â chwynion sy’n cydymffurfio â’r weithdrefn enghreifftiol at ddibenion y fanyleb.

(3)Pan fo is-adran (2) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod rhestredig gyflwyno ei weithdrefn ymdrin â chwynion i’r Ombwdsmon, ar ôl rhoi ystyriaeth i’r weithdrefn enghreifftiol berthnasol, o fewn chwe mis yn dechrau â’r diwrnod y mae’r awdurdod rhestredig yn cael yr hysbysiad o’r fanyleb o dan is-adran (1).

(4)Caiff awdurdod rhestredig, gyda chydsyniad yr Ombwdsmon, addasu cymhwysiad y weithdrefn enghreifftiol sy’n berthnasol iddo, ond dim ond i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol er mwyn i’r awdurdod weithredu’r weithdrefn yn effeithiol.

(5)Caiff yr Ombwdsmon ddirymu unrhyw fanyleb o dan is-adran (1) ar unrhyw adeg.

(6)Pan fo’r Ombwdsmon yn diddymu manyleb o dan is-adran (5)—

(a)rhaid i’r Ombwdsmon, cyn dirymu’r fanyleb, hysbysu pob awdurdod rhestredig y mae’r fanyleb yn gymwys iddo y bydd y fanyleb yn cael ei dirymu a phryd y bydd y dirymiad yn digwydd, a

(b)ar ddiwrnod dirymu’r fanyleb—

(i)bydd y fanyleb yn peidio â chael effaith, a

(ii)bydd y ddyletswydd yn is-adran (3) yn peidio â bod yn gymwys i awdurdod rhestredig a hysbyswyd o dan is-adran (6)(a), i’r graddau y mae’r ddyletswydd yn codi mewn perthynas â’r fanyleb a ddirymwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I76A. 38 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

39Datganiadau o beidio â chydymffurfioLL+C

(1)Pan fo gweithdrefn enghreifftiol yn berthnasol i awdurdod rhestredig yn rhinwedd manyleb o dan adran 38(1), caiff yr Ombwdsmon ddatgan nad yw gweithdrefn yr awdurdod ar gyfer ymdrin â chwynion yn cydymffurfio â’r weithdrefn enghreifftiol.

(2)Pan na fo manyleb o dan adran 38(1) mewn perthynas ag awdurdod rhestredig, caiff yr Ombwdsmon ddatgan nad yw gweithdrefn yr awdurdod ar gyfer ymdrin â chwynion yn cydymffurfio â’r datganiad o egwyddorion.

(3)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o dan is-adran (1) neu (2) ar wefan yr Ombwdsmon.

(4)Cyn cyhoeddi datganiad o dan is-adran (3), rhaid i’r Ombwdsmon hysbysu’r awdurdod rhestredig y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef—

(a)y bydd yr Ombwdsmon yn gwneud datganiad, gan gynnwys rhesymau’r Ombwdsmon dros wneud y datganiad;

(b)am unrhyw addasiadau i’r weithdrefn ymdrin â chwynion a fyddai’n arwain at dynnu’r datganiad yn ôl.

(5)Pan fo datganiad yn cael ei wneud o dan is-adran (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod rhestredig adolygu ei weithdrefn ymdrin â chwynion a’i chyflwyno i’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried y rhesymau a roddir o dan is-adran (4)(a) ac unrhyw addasiadau a bennir yn is-adran (4)(b), o fewn dau fis yn dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir y datganiad o dan is-adran (3).

(6)Caiff yr Ombwdsmon dynnu’n ôl ddatganiad o beidio â chydymffurfio a wneir o dan is-adran (1) neu (2) ar unrhyw adeg os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n addas.

(7)Pan fo’r Ombwdsmon yn tynnu’n ôl ddatganiad o dan is-adran (6)—

(a)rhaid i’r Ombwdsmon ar unwaith—

(i)hysbysu’r awdurdod rhestredig y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef fod y datganiad wedi ei dynnu’n ôl, gan gynnwys y rhesymau pam y tynnwyd y datganiad yn ôl, a

(ii)diweddaru’r datganiad a gyhoeddir o dan is-adran (3) i adlewyrchu bod y datganiad wedi ei dynnu’n ôl, gan gynnwys y rhesymau pam y tynnwyd y datganiad yn ôl;

(b)bydd y ddyletswydd o dan is-adran (5) yn peidio â bod yn gymwys i’r awdurdod rhestredig, i’r graddau y mae’r ddyletswydd yn codi mewn perthynas â’r datganiad a dynnwyd yn ôl, cyn gynted ag y bo’r Ombwdsmon yn tynnu’r datganiad yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I78A. 39 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

40Cyflwyno gweithdrefn ymdrin â chwynion: cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod rhestredig gyflwyno ei weithdrefn ymdrin â chwynion i’r Ombwdsmon os yw’r Ombwdsmon yn cyfarwyddo hynny; a rhaid gwneud hynny cyn pen tri mis sy’n cychwyn â’r diwrnod y mae’r awdurdod rhestredig yn cael y cyfarwyddyd gan yr Ombwdsmon neu cyn pen y cyfryw gyfnod arall a gyfarwyddir gan yr Ombwdsmon.

(2)Mae’r terfynau amser yn adrannau 38(3) a 39(5) yn ddarostyngedig i unrhyw derfynau amser sy’n gymwys mewn cyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (1).

(3)Pan fo awdurdod rhestredig wedi cyflwyno ei weithdrefn ymdrin â chwynion i’r Ombwdsmon o dan y Ddeddf hon neu fel arall, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r cyfryw wybodaeth ychwanegol mewn perthynas â’r weithdrefn honno y caiff yr Ombwdsmon ofyn amdani; a rhaid gwneud hynny cyn pen y cyfryw gyfnod a gyfarwyddir gan yr Ombwdsmon.

Gwybodaeth Cychwyn

I79A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I80A. 40 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

41Gweithdrefnau ymdrin â chwynion: hybu arferion gorau etcLL+C

(1)Rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)monitro arferion a nodi unrhyw dueddiadau yn yr arferion o ran y ffordd y mae awdurdodau rhestredig yn ymdrin â chwynion,

(b)hybu arferion gorau o ran y ffordd yr ymdrinnir â chwynion, ac

(c)annog cydweithrediad a rhannu arferion gorau ymhlith awdurdodau rhestredig o ran ymdrin â chwynion.

(2)Rhaid i awdurdod rhestredig gydweithredu â’r Ombwdsmon wrth arfer y swyddogaeth yn is-adran (1).

(3)Ond ni chaiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i awdurdod rhestredig gydweithredu o dan is-adran (2)—

(a)os nad oes gan yr awdurdod rhestredig y pwerau angenrheidiol (heblaw yn rhinwedd y Ddeddf hon) i gydweithredu o dan is-adran (2);

(b)os yw cydweithredu o dan is-adran (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod rhestredig weithredu yn anghyson ag unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw god, canllaw, cynllun neu ddogfen arall a wneir o dan unrhyw ddeddfiad) sy’n gymwys i’r awdurdod rhestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I82A. 41 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

RHAN 5LL+CYMCHWILIO I GWYNION SY’N YMWNEUD Â PHERSONAU ERAILL: GOFAL CYMDEITHASOL A GOFAL LLINIAROL

Cymhwyso’r Rhan honLL+C

42Materion y mae’r Rhan hon yn gymwys iddyntLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i’r materion a ganlyn—

(a)camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwr cartref gofal mewn cysylltiad â darparu llety, gofal nyrsio neu ofal personol mewn cartref gofal yng Nghymru;

(b)camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwr gofal cartref mewn cysylltiad â darparu gofal cartref yng Nghymru;

(c)camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth gofal lliniarol yng Nghymru.

(2)Ond nid yw’r Rhan hon yn gymwys i’r materion a ganlyn—

(a)materion y caniateir ymchwilio iddynt o dan Ran 3, neu

(b)materion a ddisgrifir yn Atodlen 4.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 4 drwy—

(a)ychwanegu cofnod,

(b)dileu cofnod, neu

(c)newid cofnod.

(4)Cyn gwneud rheoliadau dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ombwdsmon.

(5)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (3) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(6)I gael ystyr y termau a ganlyn gweler adrannau 62 i 64—

  • “cartref gofal” (“care home”);

  • “darparwr cartref gofal” (“care home provider”);

  • “darparwr gofal cartref” (“domiciliary care provider”);

  • “darparwr gofal lliniarol annibynnol” (“independent palliative care provider”);

  • “gofal cartref” (“domiciliary care”);

  • “gwasanaeth gofal lliniarol” (“palliative care service”).

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I84A. 42 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Ymchwilio i gwynionLL+C

43Pŵer i ymchwilio i gwynionLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i gŵyn ynghylch mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo os yw’r gŵyn—

(a)wedi’i gwneud yn briodol i’r Ombwdsmon, neu

(b)wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon, ac

yn achos cwyn sy’n ymwneud â darparwr gofal lliniarol annibynnol, os bodlonir yr amod yn is-adran (2).

(2)Yr amod yw bod y darparwr gofal lliniarol annibynnol wedi cael cyllid cyhoeddus, o fewn y tair blynedd cyn dyddiad y camau gweithredu y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â hwy, mewn perthynas â gwasanaeth gofal lliniarol y mae’n ei ddarparu yng Nghymru.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “cyllid cyhoeddus” yw cyllid gan—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42),

(c)Ymddiriedolaeth GIG, neu

(d)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

(4)Mae cwyn wedi’i “gwneud yn briodol” i’r Ombwdsmon os (ond dim ond os)—

(a)caiff y gŵyn ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 47 i wneud cwyn i’r Ombwdsmon,

(b)cyn i’r gŵyn gael ei gwneud—

(i)yw’r mater y mae’n ymwneud ag ef wedi ei ddwyn, gan neu ar ran y person yr effeithir arno, i sylw’r darparwr y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef, a

(ii)yw’r darparwr wedi cael cyfle rhesymol i ymchwilio i’r mater ac ymateb iddo, ac

(c)caiff gofynion adran 48(1) eu bodloni mewn perthynas â’r gŵyn.

(5)Mae cwyn wedi’i “hatgyfeirio’n briodol” at yr Ombwdsmon os (ond dim ond os)—

(a)caiff y gŵyn ei gwneud gan berson sydd â hawl o dan adran 47 i wneud cwyn i’r Ombwdsmon, a

(b)caiff gofynion adran 49(1) eu bodloni mewn perthynas â hi.

(6)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni mewn perthynas â chŵyn.

(7)Pan fo’r Ombwdsmon yn penderfynu na chafodd gofynion is-adran (1) eu bodloni mewn perthynas â chŵyn am na fodlonwyd gofynion is-adran (4)(b), adran 48(1) neu adran 49(1)⁠(b), (c) neu (d) mewn perthynas â’r gŵyn honno, caiff yr Ombwdsmon, er hynny, ymchwilio i’r gŵyn—

(a)os yw’n ymwneud â mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo, a

(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny.

(8)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i ymchwiliad (ond gweler adran 48(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).

(9)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (8).

(10)Caiff yr Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad i gŵyn neu barhau ag ymchwiliad i gŵyn hyd yn oed os yw’r gŵyn wedi’i thynnu’n ôl (ond gweler adran 48(5)(a) am gyfyngiad ar y pŵer i gychwyn ymchwiliad o dan is-adran (1)(a)).

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I86A. 43 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

44Pŵer i ymchwilio ar ei liwt ei hunLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon ymchwilio i fater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo pa un a oes cwyn wedi’i gwneud yn briodol neu wedi’i hatgyfeirio’n briodol at yr Ombwdsmon ai peidio.

(2)Ond os yw’r mater yn ymwneud â darparwr gofal lliniarol annibynnol, dim ond os bodlonir yr amod yn adran 43(2) y caniateir defnyddio’r pŵer yn is-adran (1).

(3)Cyn i’r Ombwdsmon gychwyn ymchwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi sylw i fudd y cyhoedd wrth gychwyn ymchwiliad,

(b)bod ag amheuaeth resymol o gamweinyddiaeth systemig,

(c)ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon (ond gweler adran 66 am ddyletswyddau pellach ynghylch ymgynghori), a

(d)rhoi sylw i’r meini prawf ar gyfer cychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun a gyhoeddir o dan adran 45.

(4)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon—

(a)mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad, i barhau ag ymchwiliad ai i roi’r gorau i’r ymchwiliad o dan yr adran hon;

(b)caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu a all, ym marn yr Ombwdsmon, helpu i wneud penderfyniad o dan is-adran (4)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I87A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I88A. 44 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

45Meini prawf ar gyfer ymchwilio ar ei liwt ei hunLL+C

(1)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi meini prawf i’w defnyddio wrth benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad o dan adran 44.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r meini prawf cyntaf gerbron y Cynulliad.

(3)Os yw’r Cynulliad yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r meini prawf drafft cyn diwedd y cyfnod o 40 diwrnod, ni chaiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf ddrafft.

(4)Os na wneir y cyfryw benderfyniad cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf ar eu ffurf ddrafft.

(5)O ran y cyfnod o 40 diwrnod—

(a)mae’n dechrau ar y diwrnod pryd y gosodir y drafft gerbron y Cynulliad, a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw amser pan fo’r Cynulliad wedi ei ddiddymu neu pan fydd toriad o fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal meini prawf drafft newydd rhag cael eu gosod gerbron y Cynulliad.

(7)Cyn gosod y meini prawf drafft gerbron y Cynulliad, rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac

(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(8)Rhaid i’r Ombwdsmon, wrth baratoi’r meini prawf drafft i’w gosod gerbron y Cynulliad, roi sylw i unrhyw sylwadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad a grybwyllir yn is-adran (7).

(9)Daw’r meini prawf i rym pan gânt eu cyhoeddi gan yr Ombwdsmon.

(10)O dro i dro, caiff yr Ombwdsmon adolygu ac ailgyhoeddi’r meini prawf.

(11)Os, ym marn yr Ombwdsmon, yw adolygiadau a wneir o dan is-adran (10) yn effeithio ar unrhyw newid perthnasol i’r meini prawf, rhaid i’r Ombwdsmon osod drafft o’r adolygiadau hynny gerbron y Cynulliad.

(12)Mae is-adrannau (3) i (9) yn gymwys i adolygiadau drafft a osodir gerbron y Cynulliad o dan is-adran (11) fel y maent yn gymwys i’r meini prawf cyntaf.

(13)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r meini prawf a gyhoeddir gan yr Ombwdsmon o dan yr adran hon drwy ychwanegu meini prawf, dileu meini prawf neu newid y meini prawf.

(14)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r meini prawf, fel y’u diwygiwyd gan y rheoliadau, ar y diwrnod y daw’r rheoliadau i rym.

(15)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (13), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr Ombwdsmon,

(b)yr awdurdodau rhestredig yn Atodlen 3, ac

(c)y cyfryw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(16)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (13) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I89A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I90A. 45 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

46Dulliau amgen o ddatrys materionLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon gymryd unrhyw gamau gweithredu sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol er mwyn datrys mater y mae gan yr Ombwdsmon y pŵer i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.

(2)Caiff yr Ombwdsmon gymryd camau gweithredu o dan yr adran hon yn ychwanegol at gynnal ymchwiliad neu yn lle hynny.

(3)Rhaid cymryd unrhyw gamau gweithredu o dan yr adran hon yn breifat.

Gwybodaeth Cychwyn

I91A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I92A. 46 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

47Pwy sy’n cael cwynoLL+C

(1)Y personau sydd â hawl i gwyno i’r Ombwdsmon yw—

(a)aelod o’r cyhoedd (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y person a dramgwyddwyd”) sy’n honni neu sydd wedi honni ei fod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i fater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo,

(b)person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person a dramgwyddwyd i weithredu ar ran y person hwnnw, neu

(c)os nad yw’r person a dramgwyddwyd yn gallu awdurdodi’r cyfryw berson (er enghraifft, oherwydd bod y person a dramgwyddwyd wedi marw), person sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol i weithredu ar ran y person a dramgwyddwyd.

(2)Nid yw “aelod o’r cyhoedd” yn cynnwys person sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swyddogaeth fel—

(a)darparwr cartref gofal,

(b)darparwr gofal cartref,

(c)darparwr gofal lliniarol annibynnol, neu

(d)awdurdod rhestredig.

(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a oes gan berson hawl i wneud cwyn o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I93A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I94A. 47 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

48Gofynion: cwynion a wneir i’r OmbwdsmonLL+C

(1)Y gofynion a grybwyllir yn adran 43(4)(c) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—

(a)bod ar ffurf a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(b)cynnwys y cyfryw wybodaeth a bennir gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(c)cael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hybysu gyntaf am y mater a honnir yn y gŵyn.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu a yw gofynion is-adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.

(4)Os caiff cwyn sy’n bodloni gofynion is-adran (1) ei gwneud heblaw yn ysgrifenedig, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)esbonio i’r person a wnaeth y gŵyn fod cwyn wedi’i gwneud yn briodol yn unol â’r Ddeddf hon, a goblygiadau gwneud cwyn o’r fath, a

(b)gofyn i’r person a yw’n awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol.

(5)Os nad yw’r person yn awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol—

(a)ni chaiff yr Ombwdsmon ddefnyddio’r pŵer yn adran 43(1)(a) i gychwyn ymchwiliad i’r mater a honnir yn y gŵyn;

(b)caiff yr Ombwdsmon ddefnyddio’r pŵer yn adran 44 i ymchwilio i’r mater a honnir yn y gŵyn.

(6)Os yw’r person yn awyddus i’r gŵyn barhau i gael ei thrin yn gŵyn a wnaed yn briodol, rhaid i’r Ombwdsmon ofyn i’r person a yw am i’r gŵyn gael ei chadarnhau yn ysgrifenedig.

(7)Os yw’r person yn awyddus i’r gŵyn gael ei chadarnhau yn ysgrifenedig, rhaid i’r Ombwdsmon wneud y cyfryw drefniadau angenrheidiol i gadarnhau’r gŵyn yn ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I95A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I96A. 48 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

49Gofynion: cwynion a atgyfeirir at yr OmbwdsmonLL+C

(1)Y gofynion a grybwyllir yn adran 43(5)(b) yw bod yn rhaid i’r gŵyn—

(a)bod wedi cael ei gwneud i’r darparwr y mae’n ymwneud ag ef gan berson a fyddai wedi bod â hawl o dan adran 47 i wneud y gŵyn i’r Ombwdsmon;

(b)bod wedi cael ei gwneud i’r darparwr y mae’n ymwneud ag ef cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y person a dramgwyddwyd ei hysbysu gyntaf am y mater;

(c)cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon ar ffurf a bennwyd gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau a chynnwys y cyfryw wybodaeth a bennwyd gan yr Ombwdsmon mewn canllawiau;

(d)cael ei hatgyfeirio at yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y gŵyn ei gwneud i’r darparwr.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r canllawiau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(c).

(3)Mater i’r Ombwdsmon yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a yw gofynion is-⁠adran (1) wedi eu bodloni o ran cwyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I97A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I98A. 49 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

50Cofnodion o gwynionLL+C

Rhaid i’r Ombwdsmon gynnal cofrestr o bob cwyn a wnaed i’r Ombwdsmon neu a atgyfeiriwyd at yr Ombwdsmon mewn perthynas â mater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I99A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I100A. 50 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio etcLL+C

51Penderfyniadau i beidio ag ymchwilio i gwynion neu i roi’r gorau i ymchwiliadLL+C

(1)Os yw’r Ombwdsmon yn penderfynu—

(a)peidio â chychwyn ymchwiliad, neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 43(8), neu

(b)pan fo’r Ombwdsmon wedi ymgynghori â pherson o dan adran 44(3)(c), yn penderfynu peidio â chychwyn ymchwiliad, neu roi’r gorau i ymchwiliad, i fater o dan adran 44(4)(a),

rhaid i’r Ombwdsmon baratoi datganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r datganiad at y canlynol—

(a)unrhyw berson a wnaeth gŵyn i’r Ombwdsmon mewn perthynas â’r mater, a

(b)y darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef.

(3)Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o’r datganiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(4)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o dan yr adran hon os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(5)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o’r datganiad a gyhoeddwyd, neu ran o’r datganiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(6)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o ddatganiad, neu ran o ddatganiad, o dan is-adran (5).

(7)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o ddatganiad a anfonir at berson o dan is-adran (2)(b) neu (3) neu a gyhoeddir o dan is-adran (4)—

(a)enw person heblaw’r darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef;

(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd y datganiad.

(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r datganiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I101A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I102A. 51 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Gweithdrefn ymchwilio a thystiolaethLL+C

52Gweithdrefn ymchwilioLL+C

(1)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 43, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef i wneud sylwadau ar yr ymchwiliad, a

(b)rhoi i unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt, neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt, gyfle i wneud sylwadau ar yr honiadau sy’n ymwneud â’r person hwnnw.

(2)Os yw’r Ombwdsmon yn cynnal ymchwiliad o dan adran 44, rhaid i’r Ombwdsmon⁠—

(a)paratoi cynnig ymchwilio, a

(b)cyflwyno’r cynnig ymchwilio i’r—

(i)darparwr yr ymchwilir iddo, a

(ii)i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir mewn modd negyddol yn y cynnig ymchwilio.

(3)Ond os yw’r Ombwdsmon—

(a)wedi cychwyn ymchwiliad i fater o dan adran 43 neu 44 (yn y naill achos a’r llall, “yr ymchwiliad gwreiddiol”), a

(b)wedi cychwyn ymchwiliad arall i fater (“yr ymchwiliad cysylltiedig”) o dan adran 44 sy’n ymwneud â’r ymchwiliad gwreiddiol,

nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r ymchwiliad cysylltiedig.

(4)Mae ymchwiliad yn ymwneud ag ymchwiliad gwreiddiol os oes gan y mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad cysylltiedig gysylltiad sylweddol â’r mater yr ymchwilir iddo yn yr ymchwiliad gwreiddiol.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn paratoi cynnig ymchwilio mewn perthynas â mater, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r darparwr yr ymchwilir iddo wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir mewn modd negyddol, wneud sylwadau ar y cynnig ymchwilio (i’r graddau y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â’r person hwnnw).

(6)Pan fo’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad cysylltiedig i fater ac nad oes cynnig ymchwilio wedi’i baratoi yn rhinwedd is-adran (3), rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi cyfle i’r darparwr wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig;

(b)rhoi cyfle i unrhyw berson, heblaw’r darparwr, y’i hadwaenir gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r ymchwiliad, wneud sylwadau ar yr ymchwiliad cysylltiedig (i’r graddau y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â’r person hwnnw).

(7)Rhaid i gynnig ymchwilio nodi—

(a)y rhesymau dros yr ymchwiliad, a

(b)y modd y bodlonwyd y meini prawf y cyfeirir atynt yn adran 45.

(8)Rhaid i ymchwiliad gael ei gynnal yn breifat.

(9)Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill yr adran hon, y weithdrefn ar gyfer cynnal ymchwiliad o dan adran 43 neu 44 yw’r un sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon yn amgylchiadau’r achos.

(10)Caiff yr Ombwdsmon, ymhlith pethau eraill—

(a)gwneud unrhyw ymchwiliadau sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, a

(b)penderfynu a gaiff unrhyw berson ei gynrychioli yn yr ymchwiliad gan berson awdurdodedig neu berson arall.

(11)Yn is-adran (10) ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd, at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29), yn berson awdurdodedig mewn perthynas â gweithgaredd sy’n golygu arfer hawl i ymddangos mewn achos neu ymladd achos (o fewn ystyr y Ddeddf honno).

(12)Caiff yr Ombwdsmon dalu i unrhyw berson sy’n bresennol neu sy’n rhoi gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad—

(a)symiau mewn perthynas â threuliau yr aethpwyd iddynt yn briodol gan y person, a

(b)lwfansau i ddigolledu’r person am ei amser.

(13)Caiff yr Ombwdsmon osod amodau ar y taliadau hynny.

(14)Rhaid i’r Ombwdsmon gyhoeddi’r weithdrefn y bydd yr Ombwdsmon yn ei dilyn wrth gynnal ymchwiliad o dan adran 43 neu 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I103A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I104A. 52 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

53Gwybodaeth, dogfennau, tystiolaeth a chyfleusterauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion ymchwiliad o dan y Rhan hon.

(2)Caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, i wneud hynny.

(3)Mae gan yr Ombwdsmon yr un pwerau â’r Uchel Lys o ran—

(a)presenoldeb tystion a holi tystion (gan gynnwys gweinyddu llwon a chadarnhadau a holi tystion dramor), a

(b)dangos dogfennau.

(4)Caiff yr Ombwdsmon ei gwneud yn ofynnol i berson sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu ddangos dogfen sy’n berthnasol i’r ymchwiliad, ddarparu unrhyw gyfleuster y caiff yr Ombwdsmon ei wneud yn rhesymol ofynnol.

(5)Yn ddarostyngedig i is-adran (6), ni chaniateir gorfodi unrhyw berson i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen na allai’r person gael ei orfodi i’w rhoi neu ei dangos mewn achosion sifil gerbron yr Uchel Lys.

(6)Nid oes gan y Goron hawl i unrhyw fraint o ran dangos dogfennau neu o ran rhoi tystiolaeth a fyddai’n cael ei chaniatáu fel arall yn ôl y gyfraith mewn achosion cyfreithiol.

(7)Pan fo rhwymedigaeth i gadw cyfrinachedd neu gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth a gafwyd gan bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi, neu a roddwyd i bersonau yng ngwasanaeth Ei Mawrhydi, wedi’i gosod gan ddeddfiad neu reol gyfreithiol, nid yw’r rhwymedigaeth neu’r cyfyngiad yn gymwys i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion yr ymchwiliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I105A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I106A. 53 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

54Rhwystro a dirmyguLL+C

(1)Os bodlonir yr Ombwdsmon fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i’r Uchel Lys.

(2)Yr amod yw bod y person—

(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif, caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater.

(4)Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person hwnnw yn yr un ffordd ag y caiff drin person sydd wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.

Gwybodaeth Cychwyn

I107A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I108A. 54 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

55Adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ymchwiliadau o dan y Rhan hon oni bai bod adran 58 yn gymwys.

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon, ar ôl cynnal ymchwiliad mewn perthynas â mater y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo—

(a)paratoi adroddiad am ganfyddiadau’r ymchwiliad (“adroddiad am ymchwiliad”), a

(b)anfon copi o’r adroddiad at y personau priodol.

(3)Y personau priodol yw—

(a)os bydd yr ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, y person a wnaeth y gŵyn,

(b)y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef,

(c)unrhyw berson arall yr honnir yn y gŵyn (os oes un) ei fod wedi cymryd y camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu wedi awdurdodi’r camau gweithredu yr achwynir amdanynt neu a wneir yn hysbys yn yr adroddiad gan yr Ombwdsmon mewn modd negyddol mewn perthynas â’r mater, a

(d)Gweinidogion Cymru.

(4)Caiff yr Ombwdsmon hefyd anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(5)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(6)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd, neu ran o’r adroddiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(7)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (6).

(8)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (3)(b) neu (c) neu (4) neu a gyhoeddir o dan is-adran (5)—

(a)enw person heblaw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef;

(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad.

(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I109A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I110A. 55 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

56Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon drefnu i hysbysiad am adroddiad am ymchwiliad gael ei gyhoeddi⁠—

(a)mewn un neu ragor o bapurau newydd, neu

(b)drwy gyfrwng darlledu neu gyfryngau electronig eraill.

(2)Caiff yr hysbysiad, er enghraifft—

(a)darparu crynodeb o ganfyddiadau’r Ombwdsmon,

(b)pennu cyfeiriad neu gyfeiriadau lle gellir archwilio copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod oriau swyddfa arferol, a lle y ceir copi o’r adroddiad hwnnw (neu ran o’r adroddiad hwnnw), a

(c)pennu cyfeiriad gwefan lle gellir gweld copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd.

(3)Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, os gofynnir iddo wneud hynny gan yr Ombwdsmon, ad-dalu’r Ombwdsmon y costau rhesymol o drefnu i gyhoeddi’r hysbysiad.

(4)Wrth benderfynu a yw’n briodol i wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—

(a)budd y cyhoedd,

(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac

(c)buddiannau unrhyw bersonau eraill sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I111A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I112A. 56 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

57Camau gweithredu ar ôl cael adroddiadau ar ymchwiliadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad mewn adroddiad am ymchwiliad fod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo.

(2)Rhaid i’r darparwr y mae’r mater yn ymwneud ag ef ystyried yr adroddiad a hysbysu’r Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir—

(a)am y camau gweithredu y mae’r darparwr wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r adroddiad, a

(b)cyn diwedd pa gyfnod y mae’r darparwr yn bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny (os nad yw eisoes wedi cymryd y camau gweithredu hynny).

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod o fis sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r darparwr yn cael yr adroddiad, neu

(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).

Gwybodaeth Cychwyn

I113A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I114A. 57 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

58Adroddiadau: gweithdrefn amgenLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad o dan y Rhan hon—

(a)os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad nad oes unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, a

(b)os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 55 i 57 fod yn gymwys.

(2)Mae’r adran hon hefyd yn gymwys, ar ôl i’r Ombwdsmon gynnal ymchwiliad o dan y Rhan hon—

(a)os yw’r Ombwdsmon yn dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo,

(b)os yw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef yn cytuno i weithredu, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, unrhyw argymhellion a wneir gan yr Ombwdsmon, ac

(c)os yw’r Ombwdsmon yn fodlon nad yw budd y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i adrannau 55 i 57 fod yn gymwys.

(3)Yn is-adran (2)(b) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)cyfnod y cytunwyd arno rhwng yr Ombwdsmon a’r darparwr ac, os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, y person a wnaeth y gŵyn, neu

(b)os yw’r Ombwdsmon o’r farn na ellir dod i gytundeb o’r fath, cyfnod a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig.

(4)Caiff yr Ombwdsmon benderfynu paratoi adroddiad am ganfyddiadau’r Ombwdsmon o dan yr adran hon yn hytrach nag o dan adran 55; ac os yw’r Ombwdsmon yn penderfynu gwneud hynny, ni fydd adrannau 55 i 57 yn gymwys.

(5)Os caiff adroddiad ei baratoi o dan yr adran hon—

(a)rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad—

(i)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, at y person a wnaeth y gŵyn;

(ii)at y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, a

(b)caiff yr Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(6)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi’r adroddiad os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r personau a dramgwyddwyd (os oes rhai) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(7)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (6), neu ran o’r adroddiad hwnnw, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(8)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad, neu ran o adroddiad, o dan is-adran (7).

(9)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o’r adroddiad a anfonir at berson o dan is-adran (5) neu a gyhoeddir o dan is-adran (6)—

(a)enw person heblaw’r darparwr y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef;

(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad.

(10)Nid yw is-adran (9) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I115A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I116A. 58 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Adroddiadau arbennigLL+C

59Amgylchiadau lle caiff adroddiadau arbennig eu paratoiLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon baratoi adroddiad arbennig o dan adran 60 os yw achos 1, 2 neu 3 yn gymwys.

(2)Mae achos 1 yn gymwys—

(a)os yw’r Ombwdsmon wedi dod i’r casgliad mewn adroddiad am ymchwiliad fod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater yr ymchwiliwyd iddo, a

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-adran (3) yn gymwys.

(3)Yr amgylchiadau hynny yw—

(a)nad yw’r Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 57 cyn diwedd y cyfnod a ganiateir o dan yr adran honno;

(b)bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon â’r canlynol—

(i)y camau gweithredu y mae’r darparwr wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd, neu

(ii)cyn diwedd pa gyfnod y mae’r darparwr yn bwriadu cymryd y camau gweithredu hynny;

(c)bod yr Ombwdsmon wedi cael yr hysbysiad hwnnw, ond nad yw’n fodlon bod y darparwr, cyn diwedd y cyfnod a ganiateir, wedi cymryd y camau gweithredu y bwriadai eu cymryd.

(4)Yn is-adran (3)(c) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 57(2)(b), neu

(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).

(5)Mae achos 2 yn gymwys—

(a)os yw’r Ombwdsmon wedi paratoi adroddiad o dan adran 58 yn rhinwedd is-⁠adran (2) o’r adran honno, a

(b)os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod y darparwr wedi gweithredu argymhellion yr Ombwdsmon cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

(6)Yn is-adran (5)(b) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn adran 58(2)(b), neu

(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).

(7)Mae achos 3 yn gymwys—

(a)os yw’r mater (y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo) mewn perthynas â darparwr wedi cael ei ddatrys,

(b)os yw’r Ombwdsmon, wrth ddatrys y mater, wedi dod i’r casgliad bod unrhyw berson wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi, neu’n debygol o ddioddef anghyfiawnder neu galedi, o ganlyniad i’r mater,

(c)os yw’r darparwr wedi cytuno i gymryd camau gweithredu penodol cyn diwedd cyfnod penodol, a

(d)os nad yw’r Ombwdsmon yn fodlon bod y darparwr wedi cymryd y camau gweithredu hynny cyn diwedd y cyfnod a ganiateir.

(8)Yn is-adran (7)(d) ystyr “y cyfnod a ganiateir” yw—

(a)y cyfnod y cyfeirir ato yn is-adran (7)(c), neu

(b)cyfnod hwy a bennir gan yr Ombwdsmon yn ysgrifenedig (os pennir cyfnod felly).

Gwybodaeth Cychwyn

I117A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I118A. 59 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

60Adroddiadau arbennigLL+C

(1)Rhaid i adroddiad arbennig—

(a)nodi’r ffeithiau sy’n rhoi hawl i’r Ombwdsmon baratoi’r adroddiad arbennig (hynny yw, y ffeithiau sy’n gwneud achos 1, 2 neu 3 o adran 59 yn gymwys), a

(b)gwneud y cyfryw argymhellion sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon o ran y camau gweithredu y dylid, ym marn yr Ombwdsmon, eu cymryd—

(i)i unioni neu atal yr anghyfiawnder neu’r caledi i’r person, a

(ii)i atal anghyfiawnder neu galedi tebyg rhag cael ei achosi i unrhyw berson yn y dyfodol.

(2)Os yw’r adroddiad arbennig yn cael ei baratoi am fod achos 1 o adran 59 yn gymwys, rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad at bob person yr anfonwyd copi o’r adroddiad adran 55 ato o dan adran 55(2)(b).

(3)Os yw’r adroddiad arbennig yn cael ei baratoi am fod achos 2 neu 3 o adran 59 yn gymwys, rhaid i’r Ombwdsmon anfon copi o’r adroddiad—

(a)os yw’r ymchwiliad yn ymwneud â chwyn, at y person a wnaeth y gŵyn;

(b)at y darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.

(4)Caiff yr Ombwdsmon anfon copi o adroddiad arbennig at unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon.

(5)Caiff yr Ombwdsmon gyhoeddi adroddiad arbennig.

(6)Caiff yr Ombwdsmon roi copi o adroddiad arbennig a gyhoeddwyd, neu ran o adroddiad o’r fath, i unrhyw berson sy’n gofyn amdano neu amdani.

(7)Caiff yr Ombwdsmon godi ffi resymol am roi copi o adroddiad arbennig, neu ran o adroddiad o’r fath, o dan is-adran (6).

(8)Ni chaniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn fersiwn o adroddiad arbennig a anfonir at berson o dan is-adran (2), (3) neu (4) neu a gyhoeddir o dan is-adran (5)—

(a)enw unrhyw berson heblaw’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef;

(b)gwybodaeth sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn debygol o wneud y cyfryw berson yn hysbys ac y gellir, ym marn yr Ombwdsmon, ei hepgor heb amharu ar effeithiolrwydd yr adroddiad arbennig.

(9)Nid yw is-adran (8) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, ar ôl ystyried buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un) ac unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn yr Ombwdsmon, o’r farn ei bod er budd y cyhoedd i gynnwys yr wybodaeth honno yn y fersiwn honno o’r adroddiad arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I119A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I120A. 60 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

61Cyhoeddusrwydd pellach i adroddiadau arbennigLL+C

(1)Caiff yr Ombwdsmon drefnu i hysbysiad am adroddiad arbennig gael ei gyhoeddi—

(a)mewn un neu ragor o bapurau newydd, neu

(b)drwy gyfrwng darlledu neu gyfryngau electronig eraill.

(2)Caiff yr hysbysiad, er enghraifft—

(a)darparu crynodeb o ganfyddiadau’r Ombwdsmon,

(b)pennu cyfeiriad neu gyfeiriadau lle gellir archwilio copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ystod oriau swyddfa arferol, a lle y ceir copi o’r adroddiad hwnnw (neu ran o’r adroddiad hwnnw), a

(c)pennu cyfeiriad gwefan lle gellir gweld copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd.

(3)Rhaid i’r darparwr y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef, os yw’r Ombwdsmon yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, ad-dalu’r Ombwdsmon y costau rhesymol o drefnu i gyhoeddi’r hysbysiad.

(4)Wrth benderfynu pa un ai i wneud trefniadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Ombwdsmon ystyried y canlynol—

(a)budd y cyhoedd,

(b)buddiannau’r person a dramgwyddwyd (os oes un), ac

(c)buddiannau unrhyw berson arall sydd, ym marn yr Ombwdsmon, yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I121A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I122A. 61 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

DehongliLL+C

62Ystyr “cartref gofal” a “darparwr cartref gofal”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “cartref gofal” yw mangre lle y mae gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru 2016 (dccc 2), yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau 18 oed neu hŷn.

(3)Ystyr “darparwr cartref gofal” yw person sy’n ddarparwr gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o’r Ddeddf honno, lle y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau 18 oed neu hŷn.

(4)Mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr cartref gofal os ydynt yn cael eu cymryd gan—

(a)person a gyflogir gan y darparwr hwnnw,

(b)person sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw, neu

(c)person y mae’r darparwr hwnnw wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau iddo.

(5)Hefyd, mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr cartref gofal—

(a)os yw’r darparwr hwnnw’n darparu, drwy gyfrwng trefniant gyda pherson arall, lety, gofal nyrsio neu ofal mewn cartref gofal yng Nghymru ar gyfer unigolyn oherwydd hyglwyfedd neu angen yr unigolyn hwnnw, a

(b)os yw’r camau gweithredu yn cael eu cymryd gan y person arall neu ar ran y person arall wrth roi’r trefniant ar waith.

(6)Mae i “gofal” yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru 2016 (dccc 2).

Gwybodaeth Cychwyn

I123A. 62 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I124A. 62 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

63Ystyr “gofal cartref” a “darparwr gofal cartref”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “gofal cartref” yw gofal personol a ddarperir yn eu cartrefi eu hunain i bersonau sydd, oherwydd salwch, gwendid neu anabledd, yn methu â’i ddarparu drostynt eu hunain heb gymorth.

(3)Ystyr “darparwr gofal cartref” yw person sy’n cyflawni gweithgaredd sy’n ymwneud â darparu gofal cartref, ond nid yw’n cynnwys unigolyn—

(a)sydd yn cyflawni’r gweithgaredd heblaw mewn partneriaeth ag eraill,

(b)nad yw’n cael ei gyflogi gan gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig i’w gyflawni,

(c)nad yw’n cyflogi unrhyw berson arall i gyflawni’r gweithgaredd, a

(d)sydd yn darparu neu’n trefnu i ddarparu gofal cartref i lai na phedwar o bobl.

(4)Mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal cartref os ydynt yn cael eu cymryd gan—

(a)person a gyflogir gan y darparwr hwnnw,

(b)person sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw, neu

(c)person y mae’r darparwr hwnnw wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau iddo.

(5)Hefyd, mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal cartref—

(a)os yw’r darparwr hwnnw yn darparu gofal cartref drwy drefniant gyda pherson arall, a

(b)os yw’r camau gweithredu yn cael eu cymryd gan y person arall neu ar ran y person arall wrth roi’r trefniant ar waith.

Gwybodaeth Cychwyn

I125A. 63 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I126A. 63 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

64Ystyr “gwasanaeth gofal lliniarol” a “darparwr gofal lliniarol annibynnol”LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “gwasanaeth gofal lliniarol” yw gwasanaeth sydd â’r prif bwrpas o ddarparu gofal lliniarol.

(3)Ystyr “darparwr gofal lliniarol annibynnol” yw person—

(a)sydd yn darparu gwasanaeth gofal lliniarol, a

(b)nad yw’n gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

(4)Mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol os ydynt yn cael eu cymryd gan—

(a)person a gyflogir gan y darparwr hwnnw,

(b)person sy’n gweithredu ar ran y darparwr hwnnw, neu

(c)person y mae’r darparwr hwnnw wedi dirprwyo unrhyw swyddogaethau iddo.

(5)Hefyd, mae camau gweithredu i gael eu trin yn gamau gweithredu a gymerir gan ddarparwr gofal lliniarol annibynnol—

(a)os yw’r darparwr hwnnw yn darparu gofal lliniarol drwy drefniant gyda pherson arall, a

(b)os yw’r camau gweithredu yn cael eu cymryd gan y person arall neu ar ran y person arall wrth roi’r trefniant ar waith.

Gwybodaeth Cychwyn

I127A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I128A. 64 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

RHAN 6LL+CYMCHWILIADAU: ATODOL

Ymgynghori a chydweithreduLL+C

65Ymgynghori a chydweithredu ag ombwdsmyn eraillLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r Ombwdsmon, wrth wneud penderfyniad o dan adran 3(5), 4(3)(a), 43(8), 44(4)(a) neu wrth gynnal ymchwiliad o dan Ran 3 neu 5, yn dod i’r farn y gallai mater sy’n destun y gŵyn neu’r ymchwiliad fod yn destun ymchwiliad gan ombwdsmon a grybwyllir yn is-adran (7).

(2)Rhaid i’r Ombwdsmon ymgynghori â’r ombwdsmon hwnnw am y mater.

(3)Caiff yr Ombwdsmon gydweithredu â’r ombwdsmon hwnnw mewn perthynas â’r mater.

(4)Caiff ymgynghoriad o dan is-adran (2), a chydweithrediad o dan is-adran (3), ymestyn i unrhyw beth sy’n ymwneud â mater sy’n destun y gŵyn neu’r ymchwiliad, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(a)cynnal ymchwiliad i’r gŵyn, a

(b)ffurf, cynnwys a chyhoeddiad adroddiad yr ymchwiliad.

(5)Os yw’r Ombwdsmon yn ymgynghori ag ombwdsmon am fater o dan is-adran (2), caiff yr Ombwdsmon a’r ombwdsmon hwnnw—

(a)cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater,

(b)paratoi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad, ac

(c)cyhoeddi’r adroddiad ar y cyd.

(6)Nid yw is-adran (5) yn gymwys os mai’r ombwdsman yr ymgynghorir ag ef o dan is-adran (2) yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban.

(7)Yr ombwdsmyn y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yw—

(a)y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddiaeth;

(b)Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Lloegr;

(c)Comisiynydd Lleol;

(d)Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban;

(e)ombwdsmon tai a benodwyd yn unol â chynllun a gymeradwywyd o dan adran⁠ 51 o Ddeddf Tai 1996 (p.52).

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (7) drwy—

(a)ychwanegu person,

(b)hepgor person, neu

(c)newid y disgrifiad o berson.

(9)Caiff rheoliadau o dan is-adran (8) ychwanegu person at is-adran (7) dim ond os oes gan y person, ym marn Gweinidogion Cymru, swyddogaethau sy’n ymwneud ag ymchwilio i gwynion.

(10)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (8) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I129A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I130A. 65 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

66Cydweithio â phersonau a bennirLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon—

(a)bod mater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i ymchwilio iddo, a

(b)bod y mater yn un a allai hefyd fod yn destun ymchwiliad gan berson a bennir yn is-adran (2) (“person a bennir”).

(2)Mae’r canlynol yn bersonau a bennir—

(a)Comisiynydd Plant Cymru;

(b)Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru;

(c)Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;

(d)Comisiynydd y Gymraeg;

(e)pan fo’r mater yn ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol, Gweinidogion Cymru.

(3)Yn ddarostyngedig i is-adran (4), pan fo’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi gwybod i’r person a bennir perthnasol am y mater, a

(b)ymgynghori â’r person a bennir mewn perthynas ag ef.

(4)Pan fo’r Ombwdsmon yn ymchwilio i’r mater o dan adran 4 neu 44, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi gwybod i’r person a bennir perthnasol am y mater, a

(b)pan fo’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, ymgynghori â’r person a bennir mewn perthynas ag ef.

(5)Pan fo’r Ombwdsmon yn ymgynghori â pherson a bennir o dan yr adran hon, caiff yr Ombwdsmon a’r person a bennir—

(a)cydweithredu â’i gilydd mewn perthynas â’r mater,

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater, ac

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (2) drwy—

(a)ychwanegu person a bennir at y rhestr neu ei ddileu o’r rhestr, neu

(b)amrywio cyfeiriad at fath neu ddisgrifiad o berson a bennir a gynhwysir am y tro yn yr is-adran honno.

(7)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (6) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I131A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I132A. 66 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

67Cydlafurio â ChomisiynwyrLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon bod—

(a)cwyn, neu

(b)mater y mae’r Ombwdsmon yn ystyried ymchwilio iddo o dan adran 4 neu 44, yn ymwneud â mater, neu’n codi mater, a allai fod yn destun ymchwiliad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu Gomisiynydd y Gymraeg (y “mater cysylltiedig”).

(2)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon roi gwybod i’r Comisiynydd perthnasol am y mater cysylltiedig.

(3)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod y mater yn fater y mae gan yr Ombwdsmon hawl i gynnal ymchwiliad iddo (y “mater Ombwdsmon”), rhaid i’r Ombwdsmon hefyd, os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol—

(a)rhoi gwybod i’r Comisiynydd perthnasol am gynigion yr Ombwdsmon ar gyfer cynnal ymchwiliad, a

(b)ymgynghori â’r Comisiynydd perthnasol am y cynigion hynny.

(4)Os yw’r Ombwdsmon a’r Comisiynydd perthnasol o’r farn bod ganddynt hawl i ymchwilio, yn y drefn honno, y mater Ombwdsmon a’r mater cysylltiedig, caniateir iddynt—

(a)cydweithredu â’i gilydd yn yr ymchwiliad ar wahân i bob un o’r materion hynny,

(b)gweithredu gyda’i gilydd wrth ymchwilio i’r materion hynny, ac

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd sy’n cynnwys eu casgliadau unigol o ran y materion y maent ill dau wedi ymchwilio iddynt.

(5)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn—

(a)nad yw’r mater yn un y mae gan yr Ombwdsmon hawl i gynnal ymchwiliad iddo, a

(b)ei bod yn briodol gwneud hynny,

rhaid i’r Ombwdsmon roi gwybod i’r person a gychwynnodd y gŵyn (os oes un) ynghylch sut i atgyfeirio’r mater cysylltiedig at y Comisiynydd perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I133A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I134A. 67 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

68Gweithio gydag Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

(1)Os yw’r Ombwdsmon o’r farn bod hynny’n briodol, rhaid i’r Ombwdsmon—

(a)rhoi gwybod i Archwilydd Cyffredinol Cymru am gynigion yr Ombwdsmon ar gyfer cynnal ymchwiliad, a

(b)ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch y dull mwyaf effeithiol o gynnal ymchwiliad.

(2)Os yw’r Ombwdsmon yn ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan yr adran hon, caiff yr Ombwdsmon ac Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)cydweithredu â’i gilydd mewn perthynas â’r mater y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef,

(b)cynnal ymchwiliad ar y cyd i’r mater, ac

(c)paratoi a chyhoeddi adroddiad ar y cyd mewn perthynas â’r ymchwiliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I135A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I136A. 68 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

DatgeluLL+C

69Datgelu gwybodaethLL+C

(1)Yr wybodaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yw—

(a)gwybodaeth y mae’r Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon, yn ei chael i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon—

(i)wrth benderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad,

(ii)yn ystod ymchwiliad,

(iii)wrth ddatrys mater o dan adran 6 neu 46, neu

(iv)mewn cysylltiad â hysbysiad a gafwyd o dan adran 26 neu 57;

(b)gwybodaeth a gafwyd gan ombwdsmon a grybwyllir yn adran 65(7) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn adran 65 neu ddarpariaeth gyfatebol mewn deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r ombwdsmyn hynny;

(c)gwybodaeth a gafwyd gan berson a bennir yn adran 66(2) yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn adran 66 neu 67 neu ddarpariaeth gyfatebol mewn deddfiad sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r personau hynny a bennir;

(d)gwybodaeth a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 68 o’r Ddeddf hon neu adran 29A o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3);

(e)gwybodaeth a gafwyd gan y Comisiynydd Gwybodaeth yn rhinwedd adran 76 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (datgeliad rhwng y Comisiynydd Gwybodaeth ac ombwdsmyn).

(2)Ni chaniateir datgelu’r wybodaeth ac eithrio—

(a)at ddibenion penderfynu pa un ai i gychwyn ymchwiliad;

(b)at ddibenion ymchwiliad;

(c)at ddiben unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)at ddibenion datrys cwyn o dan adran 6 neu 46;

(e)at ddibenion datganiad neu adroddiad a wneir mewn perthynas â chŵyn neu ymchwiliad;

(f)at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn adran 65, 66, 67 neu 68;

(g)at ddibenion achosion llys ar gyfer—

(i)trosedd o dan Ddeddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 (p.28) i 1989 (p.6) yr honnir iddi gael ei chyflawni gan yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;

(ii)trosedd o dyngu anudon yr honnir iddi gael ei chyflawni yn ystod ymchwiliad;

(h)at ddibenion ymchwiliad gyda golwg ar gychwyn yr achosion llys a grybwyllir ym mharagraff (g);

(i)at ddibenion achosion llys o dan adran 20 neu 54;

(j)yn achos gwybodaeth i’r perwyl bod person yn debygol o fod yn fygythiad i iechyd neu ddiogelwch un neu ragor o bersonau, i unrhyw berson y mae’r Ombwdsmon yn credu y dylid ei datgelu er budd y cyhoedd;

(k)yn achos gwybodaeth y mae is-adran (3) yn gymwys iddi, i’r Comisiynydd Gwybodaeth;

(l)at ddibenion swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan Benodau 3 a 4 o Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i wybodaeth os yw’n ymddangos i’r Ombwdsmon ei bod yn ymwneud â’r canlynol—

(a)mater y gallai’r Comisiynydd Gwybodaeth, mewn perthynas ag ef, arfer pŵer a roddir mewn deddfiad a grybwyllir yn is-adran (4), neu

(b)cyflawni trosedd a grybwyllir yn is-adran (6).

(4)Y deddfiadau yw—

(a)adrannau 142 i 154, 160 i 164 neu 174 i 176 o Ddeddf Diogelu Data 2018 (p.12) (darpariaethau penodol yn ymwneud â gorfodi), neu Atodlen 15 i’r Ddeddf honno;

(b)adran 48 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (argymhellion arfer);

(c)Rhan 4 o’r Ddeddf honno.

(5)Mae is-adran (4)(a) yn cael effaith fel pe bai’r materion y mae’n cyfeirio atynt yn cynnwys mater y gallai’r Comisiynydd Gwybodaeth arfer, mewn perthynas ag ef, bŵer a roddir gan ddarpariaeth yn Rhan 5 o Ddeddf Diogelu Data 1998 (p.29), fel y mae’n cael effaith yn rhinwedd Atodlen 20 i Ddeddf Diogelu Data 2018 (p.12).

(6)Y troseddau yw’r rhai o dan—

(a)darpariaeth yn Neddf Diogelu Data 2018 (p.12) heblaw paragraff 15 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (rhwystro gweithredu gwarant);

(b)adran 77 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p.36) (y drosedd o newid etc cofnodion gyda’r bwriad o atal datgelu).

(7)Ni chaniateir galw unrhyw berson i roi tystiolaeth mewn unrhyw achos llys (heblaw achosion a grybwyllir yn is-adran (2)) o wybodaeth a gafwyd gan y person hwnnw fel y crybwyllir yn is-adran (1)(a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I137A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I138A. 69 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

70Datgeliad niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu yn groes i fudd y cyhoeddLL+C

(1)Caiff Gweinidog y Goron roi hysbysiad i’r Ombwdsmon o ran—

(a)unrhyw ddogfen neu wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)unrhyw ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth a bennir felly,

y byddai datgelu’r ddogfen neu’r wybodaeth honno, neu ddogfennau neu wybodaeth o’r un dosbarth, ym marn y Gweinidog, yn niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu fel arall yn groes i fudd y cyhoedd.

(2)Os cyflwynir hysbysiad o dan is-adran (1), nid oes dim yn y Ddeddf hon i’w ddehongli mewn modd sy’n awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon, ddatgelu i unrhyw berson neu at unrhyw ddiben unrhyw ddogfen neu wybodaeth, neu ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth, a bennir yn yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I139A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I140A. 70 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

71Diogelu rhag hawliadau difenwiLL+C

(1)At ddibenion y gyfraith ar ddifenwi, mae’r canlynol yn gwbl freintiedig—

(a)cyhoeddi mater, wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon o dan y Ddeddf hon, gan yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;

(b)cyhoeddi mater gan berson wrth gyflawni swyddogaethau o dan—

(i)adran 24;

(ii)adran 24 fel y’i haddasir gan adran 25;

(iii)adrannau 24 a 25 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i adroddiadau arbennig (gweler adran 29(6));

(c)cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn neu ymchwiliad, mewn cyfathrebiadau rhwng—

(i)awdurdod rhestredig, aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod rhestredig, swyddog neu aelod o staff awdurdod rhestredig neu berson arall sy’n gweithredu ar ran awdurdod rhestredig neu’n ei gynorthwyo i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, a

(ii)yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;

(d)cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn neu ymchwiliad, mewn cyfathrebiadau rhwng—

(i)darparwr cartref gofal, darparwr gofal cartref neu ddarparwr gofal lliniarol annibynnol, swyddog neu aelod o staff darparwr o’r fath neu berson arall sy’n gweithredu ar ran darparwr o’r fath neu’n ei gynorthwyo i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, a

(ii)yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon;

(e)cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn neu ymchwiliad, mewn cyfathrebiadau rhwng person ac Aelod Cynulliad;

(f)cyhoeddi mater mewn cysylltiad â chŵyn a wnaed neu a atgyfeiriwyd (neu sydd i’w gwneud neu ei hatgyfeirio) gan berson neu ar ran person at yr Ombwdsmon o dan y Ddeddf hon, mewn cyfathrebiadau rhwng—

(i)y person, a

(ii)yr Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon.

(2)At ddibenion is-adran (1)(d)(i) mae person yn swyddog i ddarparwr os oes gan y person reolaeth dros ddarparwr nad yw’n unigolyn neu faterion darparwr o’r fath, neu os yw’r person yn rheoli darparwr nad yw’n unigolyn neu faterion darparwr o’r fath.

(3)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at faterion sy’n ymwneud ag ymchwiliad yn cynnwys materion sy’n ymwneud â phenderfyniad yr Ombwdsmon pa un ai i ymchwilio ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I141A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I142A. 71 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

RHAN 7LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Safonau’r GymraegLL+C

72Awdurdodiad i roi hysbysiad cydymffurfio i’r Ombwdsmon mewn perthynas â safonau’r GymraegLL+C

(1)Yn Atodlen 6 i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016 (O.S. 2016/182 (Cy.76)) (“Rheoliadau 2016”), mewnosoder yn y lle priodol—

  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“The Public Services Ombudsman for Wales”).

(2)Nid yw’r diwygiad a wneir gan yr adran hon yn effeithio ar y pŵer i wneud rheoliadau pellach sy’n amrywio neu’n dirymu Rheoliadau 2016.

Gwybodaeth Cychwyn

I143A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I144A. 72 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Adolygiad o’r DdeddfLL+C

73Adolygiad o’r DdeddfLL+C

(1)Rhaid i’r Cynulliad, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ddiwedd y cyfnod 5 mlynedd, baratoi a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon yn ystod y cyfnod 5 mlynedd.

(2)Caiff y Cynulliad baratoi a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon ar unrhyw adeg.

(3)Wrth baratoi adroddiad o dan yr adran hon, rhaid i’r Cynulliad ymgynghori â’r cyfryw bersonau sydd, ym marn y Cynulliad, yn briodol.

(4)Yn yr adran hon, ystyr “y cyfnod 5 mlynedd” yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I145A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I146A. 73 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Cymhwyso Deddf 2005 i ymchwiliadau penodolLL+C

74Ymchwiliadau a gychwynnir cyn y daw adrannau 3, 4, 43 a 44 i rymLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw’r Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad i fater cyn y dyddiad y daw adrannau 3, 4, 43 a 44 i rym ac nad yw’r Ombwdsmon wedi penderfynu ar yr ymchwiliad neu nad yw’r mater wedi’i ddatrys erbyn y dyddiad hwnnw.

(2)Ar y dyddiad hwnnw, ac ar ôl hynny, mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion yr ymchwiliad er gwaethaf darpariaethau eraill y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I147A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I148A. 74 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

CyffredinolLL+C

75Diddymiadau, arbedion a diwygiadau canlyniadolLL+C

(1)Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) wedi ei diddymu.

(2)Ond—

(a)gweler adran 74 o’r Ddeddf hon (ymchwiliadau a gychwynnir cyn y daw adrannau 3, 4, 43 a 44 o’r Ddeddf hon i rym);

(b)nid yw is-adran (1) yn gymwys i—

(i)paragraffau 9(4) ac 11(4) o Atodlen 1 i Ddeddf 2005 (sy’n diwygio Deddf Blwydd-daliadau 1972 (p.11)) ac adran 1 o Ddeddf 2005 (i’r graddau y mae’n rhoi effaith i baragraffau 9(4) ac 11(4) o Ddeddf 2005);

(ii)Atodlen 4 i Ddeddf 2005 (sy’n diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)) ac adran 35 o Ddeddf 2005 (sy’n rhoi effaith i Atodlen 4 i Ddeddf 2005);

(iii)Atodlen 6 i Ddeddf 2005 (diwygiadau canlyniadol) ac adran 39(1) o Ddeddf 2005 (sy’n rhoi effaith i Atodlen 6 i Ddeddf 2005);

(iv)y graddau y byddai’n dirymu unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21(1) o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30)) a wneir o dan Ddeddf 2005.

(3)Mae Atodlen 5 (sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol o ganlyniad i’r Ddeddf hon)yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I149A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I150A. 75 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

76Swyddogaethau’r CynulliadLL+C

(1)Caiff y Cynulliad drwy reolau sefydlog wneud darpariaeth ynghylch arfer y swyddogaethau a roddir iddo gan y Ddeddf hon neu oddi tani.

(2)Mae darpariaeth o’r fath yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddirprwyo swyddogaethau i bwyllgor neu is-bwyllgor o’r Cynulliad neu gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o’r fath.

(3)Ond ni chaniateir i’r Cynunlliad ddirprwyo swyddogaethau a roddir iddo gan y Ddeddf hon neu oddi tani ar wahân i’r swyddogaethau a roddir gan—

(a)adrannau 73(1), (2) a (3), a

(b)paragraffau 5 a 8(1) o Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I151A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I152A. 76 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

77CychwynLL+C

(1)Mae darpariaethau blaenorol y Ddeddf hon, a’r Atodlenni i’r Ddeddf hon, yn dod i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.

(2)Mae’r adran hon ac adrannau 78 i 82 yn dod i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)penodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â darpariaeth yn y Ddeddf hon yn dod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I153A. 77 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(2)

78DehongliLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “adroddiad arbennig” (“special report”) yn Rhan 3 yr ystyr a roddir yn adran 28 ac yn Rhan 5 yr ystyr a roddir yn adran 60;

  • mae i “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 15 o Atodlen 1;

  • mae i “adroddiad eithriadol” (“extraordinary report”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 15 o Atodlen 1;

  • ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas ag awdurdod, yw person nad yw’n aelod o’r awdurdod ond sydd—

    (a)

    yn aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor o’r awdurdod, neu

    (b)

    yn aelod o gyd-bwyllgor ac yn cynrychioli’r awdurdod ar gyd-bwyllgor y caiff yr awdurdod ei gynrychioli arno, neu is-bwyllgor i bwyllgor o’r fath,

    ac sydd â hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor;

  • ystyr “annedd a ariennir yn gyhoeddus” (“publicly-funded dwelling”) yw—

    (a)

    annedd a ddarparwyd drwy gyfrwng grant o dan—

    (i)

    adran 18 o Ddeddf Tai 1996 (p.52) (grant tai cymdeithasol), neu

    (ii)

    adran 50 o Ddeddf Tai 1988 (p.50), adran 41 o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (p.69), neu adran 29 neu 29A o Ddeddf Tai 1974 (p.44) (grant cymdeithasau tai);

    (b)

    annedd a gaffaelwyd drwy warediad gan landlord sector cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996 (p.52));

  • ystyr “awdurdod lleol yng Nghymru” (“local authority in Wales”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;

  • mae i “awdurdod rhestredig” (“listed authority”) yr ystyr a roddir yn adran 31;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r 12 m is sy’n d od i ben ar 31 Mawrth;

  • mae i “cartref gofal” (“care home”) yr ystyr a roddir gan adran 62(2);

  • mae i “Comisiynydd Lleol” (“Local Commissioner”) yr ystyr a roddir yn adran 23(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (p.7);

  • ystyr “corff gwasanaeth iechyd yng Nghymru” (“Welsh health service body”) yw—

    (a)

    Gweinidogion Cymru;

    (b)

    Bwrdd Iechyd Lleol;

    (c)

    ymddiriedolaeth GIG sy’n rheoli ysbyty neu sefydliad neu gyfleuster arall yng Nghymru;

    (d)

    Awdurdod Iechyd Arbennig nad yw’n cyflawni swyddogaethau yn Lloegr yn unig neu’n bennaf;

  • mae i “Cymru” (“Wales”) yr ystyr a roddir yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32);

  • ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “darparwr annibynnol yng Nghymru” (“independent provider in Wales”) yw person, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun ymchwiliad o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon—

    (a)

    a oedd yn darparu gwasanaethau o unrhyw fath yng Nghymru o dan drefniadau gyda chorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru, a

    (b)

    nad oedd yn gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu yn ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru;

  • mae i “darparwr cartref gofal” (“care home provider”) yr ystyr a roddir gan adran 62(3);

  • mae i “darparwr gofal cartref” (“domiciliary care provider”) yr ystyr a roddir gan adran 63(3);

  • mae i “darparwr gofal lliniarol annibynnol” (“independent palliative care provider”) yr ystyr a roddir gan adran 64(3);

  • ystyr “darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru” (“family health service provider in Wales”) yw—

    (a)

    person a oedd, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun ymchwiliad o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon, yn darparu gwasanaethau o dan gontract yr ymrwymwyd iddo gan y person hwnnw gyda Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 42 neu adran 57 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);

    (b)

    person a oedd, ar yr adeg honno, wedi ymgymryd i ddarparu gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau offthalmig cyffredinol yng Nghymru o dan y Ddeddf honno;

    (c)

    unigolyn a oedd, ar yr adeg honno, wedi darparu yng Nghymru wasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau deintyddol sylfaenol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 50 neu 64 o’r Ddeddf honno (ac eithrio fel cyflogai i gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu ddarparwr annibynnol yng Nghymru neu fel arall ar ran corff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu ddarparwr annibynnol yng Nghymru);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfwyd neu y’i gwnaed) sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi’i gynnwys mewn un o’r canlynol⁠—

    (a)

    Deddf neu Fesur Cynulliad,

    (b)

    Deddf Seneddol, neu

    (c)

    is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr adran 21(1) o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30)) a wneir o dan—

    (i)

    Deddf neu Fesur Cynulliad, neu

    (ii)

    Deddf Seneddol.

  • mae i “gofal cartref” (“domiciliary care”) yr ystyr a roddir gan adran 63(2);

  • mae i “gwasanaeth gofal lliniarol” (“palliative care service”) yr ystyr a roddir gan adran 64(2);

  • ystyr “gwasanaethau iechyd teulu” (“family health services”) yw gwasanaethau a grybwyllir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (c) o’r diffiniad o “darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru”;

  • mae “gweithredu” (“act”) a “camau gweithredu” (“action”) yn cynnwys methiant i weithredu (a rhaid dehongli ymadroddion cysylltiedig yn unol â hynny);

  • ystyr “landlord cymdeithasol yng Nghymru” (“social landlord in Wales”) yw—

    (a)

    corff a oedd, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun cwyn o dan y Ddeddf hon, wedi’i gofrestru’n landlord cymdeithasol yn y gofrestr a gedwir gan Weinidogion Cymru o dan adran 1 o Ddeddf Tai 1996 (p.52) (neu yn y gofrestr a gadwyd yn flaenorol o dan yr adran honno gan y Cynulliad a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yr Ysgrifennydd Gwladol neu Tai Cymru);

    (b)

    unrhyw gorff arall a oedd, ar adeg y camau gweithredu sy’n destun cwyn o dan y Ddeddf hon, wedi’i gofrestru gyda Tai Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, y Cynulliad a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) neu Weinidogion Cymru ac a oedd yn berchen ar anheddau a ariennir yn gyhoeddus neu’n rheoli anheddau o’r fath;

  • mae i “yr Ombwdsmon” (“the Ombudsman”) yr ystyr a roddir yn adran 2;

  • mae i “y person a dramgwyddwyd” (“the person aggrieved”) yn Rhan 3 yr ystyr a roddir yn adran 7(1)(a) ac yn Rhan 5 yr ystyr a roddir yn adran 47(1)(a);

  • ystyr “tribiwnlys perthnasol” (“relevant tribunal”) yw tribiwnlys (sy’n cynnwys tribiwnlys un person yn unig) a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau;

  • o ran “ymchwiliad” (“investigation”)—

    (a)

    ei ystyr mewn perthynas â’r Ombwdsmon yw ymchwiliad o dan adran 3, 4, 43 neu 44 (a rhaid dehongli ymadroddion cytras yn unol â hynny);

    (b)

    mewn perthynas â phersonau eraill, mae’n cynnwys archwiliad, ymchwiliad neu adolygiad (a rhaid dehongli ymadroddion cytras yn unol â hynny);

  • mae i “Ymddiriedolaeth y GIG” (“NHS trust”) yr un ystyr ag a roddir yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).

  • mae “yn ysgrifenedig” (“in writing”) yn cynnwys ar ffurf electronig;

(2)At ddibenion y diffiniad o “darparwr annibynnol yng Nghymru”, mae trefniadau gyda Gweinidogion Cymru yn drefniadau gyda chorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru dim ond i’r graddau eu bod yn cael eu gwneud wrth gyflawni swyddogaeth Gweinidogion Cymru sy’n ymwneud â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r diffiniadau o “darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru”, “darparwr annibynnol yng Nghymru” a “landlord cymdeithasol yng Nghymru”.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) neu (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(5)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) neu (3) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(6)Mae adran 13 o Ddeddf Archwilio Cenedlaethol 1983 (p.44) (dehongli cyfeiriadau at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus) yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon fel y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.

(7)At ddibenion y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at gamau gweithredu a gymerwyd gan awdurdod rhestredig yn cynnwys camau gweithredu a gymerwyd gan—

(a)aelod, aelod cyfetholedig, pwyllgor neu is-bwyllgor o’r awdurdod sy’n gweithredu i gyflawni swyddogaethau’r awdurdod;

(b)swyddog neu aelod o staff yr awdurdod, pa un a yw’n gweithredu i gyflawni ei swyddogaethau ei hun neu swyddogaethau’r awdurdod;

(c)unrhyw berson arall sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I154A. 78 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(2)

79Cyn-ddarparwyr gofal iechyd, cyn-landlordiaid cymdeithasol, cyn-ddarparwyr gofal cymdeithasol a chyn-ddarparwyr gofal lliniarol: addasiadauLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu i’r Ddeddf hon fod yn gymwys gyda’r addasiadau a bennir yn y rheoliadau i bersonau sydd—

(a)yn gyn-ddarparwyr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru;

(b)yn gyn-ddarparwyr annibynnol yng Nghymru;

(c)yn gyn-landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru;

(d)yn gyn-ddarparwyr cartrefi gofal yng Nghymru;

(e)yn gyn-ddarparwyr gofal cartref yng Nghymru;

(f)yn gyn-ddarparwyr gofal lliniarol annibynnol yng Nghymru.

(2)Ystyr “cyn-ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru” yw person—

(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu gwasanaethau iechyd teulu o ddisgrifiad penodol, a

(b)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â darparu gwasanaethau o’r disgrifiad hwnnw (pa un a yw’r person wedi dechrau eu darparu eto yn ddiweddarach ai peidio).

(3)Ystyr “cyn-ddarparwr annibynnol yng Nghymru” yw person—

(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu gwasanaethau o ddisgrifiad penodol yng Nghymru o dan drefniadau gyda chorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru,

(b)nad oedd yn gorff gwasanaeth iechyd yng Nghymru neu yn ddarparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru ar yr adeg honno, ac

(c)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â darparu gwasanaethau o’r disgrifiad hwnnw (pa un a yw’r person wedi dechrau eu darparu eto yn ddiweddarach ai peidio).

(4)Ystyr “cyn-landlord cymdeithasol yng Nghymru” yw person—

(a)a oedd ar yr adeg berthnasol—

(i)wedi’i gofrestru’n landlord cymdeithasol yn y gofrestr a gedwir gan Weinidogion Cymru o dan adran 1 o Ddeddf Tai 1996 (p.52) (neu yn y gofrestr a gadwyd yn flaenorol o dan yr adran honno gan y Cynulliad a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), yr Ysgrifennydd Gwladol neu Tai Cymru), neu

(ii)wedi’i gofrestru gyda Tai Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol, y Cynulliad a gyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) neu Weinidogion Cymru ac a oedd yn berchen ar anheddau a ariennir yn gyhoeddus neu’n rheoli anheddau o’r fath, a

(b)sydd, ar ôl hynny—

(i)wedi peidio â bod yn gofrestredig fel a grybwyllir ym mharagraff (a)(i) neu (ii) (pa un a yw’r person wedi cofrestru eto’n ddiweddarach ai peidio), neu

(ii)wedi peidio â bod yn berchen ar anheddau a ariennir yn gyhoeddus neu reoli anheddau o’r fath (pa un a yw’r person wedi gwneud hynny eto’n ddiweddarach ai peidio).

(5)Ystyr “cyn-ddarparwr cartref gofal yng Nghymru” yw person—

(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu llety, gofal nyrsio neu ofal o ddisgrifiad penodol mewn cartref gofal yng Nghymru (gweler adran 62), a

(b)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â gwneud hynny (pa un a yw’r person wedi dechrau gwneud hynny eto’n ddiweddarach ai peidio).

(6)Ystyr “cyn-ddarparwr gofal cartref yng Nghymru” yw person—

(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu gwasanaethau gofal cartref o ddisgrifiad penodol yng Nghymru, a

(b)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â gwneud hynny (pa un a yw’r person wedi dechrau darparu’r gwasanaethau hynny eto’n ddiweddarach ai peidio).

(7)Ystyr “cyn-ddarparwr gofal lliniarol annibynnol yng Nghymru” yw person—

(a)a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn darparu gwasanaeth gofal lliniarol o ddisgrifiad penodol yng Nghymru, a

(b)sydd, ar ôl hynny, wedi peidio â gwneud hynny (pa un a yw’r person wedi dechrau gwneud hynny eto’n ddiweddarach ai peidio).

(8)Yr “adeg berthnasol” yw adeg y camau gweithredu sy’n destun cwyn o dan y Ddeddf hon.

(9)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan yr adran hon oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n eu cynnwys wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I155A. 79 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(2)

80Darpariaethau canlyniadol, trosiannol etcLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud—

(a)y cyfryw ddarpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig neu atodol, a

(b)y cyfryw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol, neu arbed,

sydd yn eu barn hwy yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, dirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys unrhyw ddeddfiad sydd wedi’i gynnwys yn y Ddeddf hon neu a wneir o dan y Ddeddf hon).

(3)Ni chaniateir gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron y Cynulliad, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I156A. 80 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(2)

81Rheoliadau a chyfarwyddydauLL+C

(1)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon—

(a)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(3)O ran cyfarwyddyd a roddir o dan y Ddeddf hon—

(a)caniateir i’r person a roddodd y cyfarwyddyd ei ddiwygio neu ei ddirymu;

(b)caniateir i’r cyfarwyddyd wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I157A. 81 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(2)

82Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

Gwybodaeth Cychwyn

I158A. 82 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill