xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6(1)Camau gweithredu a gymerir gan awdurdod a bennir yn is-baragraff (2) ac sy’n ymwneud â’r canlynol—LL+C
(a)rhoi cyfarwyddyd, neu
(b)ymddygiad, cwricwlwm, trefniadaeth fewnol, rheoli neu ddisgyblu,
mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru.
(2)Yr awdurdodau yw—
(a)awdurdod lleol yng Nghymru;
(b)panel apêl derbyn;
(c)corff llywodraethu ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol;
(d)panel apêl gwahardd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)
I2Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2