Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 30

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, Adran 30 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 17 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

30Adroddiadau arbennig sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol CymruLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os caiff adroddiad arbennig ei wneud mewn achos pan gafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru neu Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Rhaid i’r person perthnasol osod copi o’r adroddiad gerbron y Cynulliad.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “y person perthnasol” yw—

(a)os cafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog Cymru, a

(b)os cafodd yr ymchwiliad ei wneud mewn cysylltiad â Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, aelod o’r Comisiwn hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 30 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth