Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 54

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, Adran 54 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 01 Mawrth 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

54Rhwystro a dirmyguLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Os bodlonir yr Ombwdsmon fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran person, caiff yr Ombwdsmon ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw i’r Uchel Lys.

(2)Yr amod yw bod y person—

(a)heb esgus cyfreithlon, wedi rhwystro unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Ombwdsmon rhag cael eu cyflawni o dan y Rhan hon, neu

(b)wedi cyflawni gweithred mewn perthynas ag ymchwiliad a fyddai, pe bai’r ymchwiliad yn achos yn yr Uchel Lys, yn gyfystyr â dirmyg llys.

(3)Os yw’r Ombwdsmon yn dyroddi tystysgrif, caiff yr Uchel Lys ymchwilio i’r mater.

(4)Os bodlonir yr Uchel Lys fod yr amod yn is-adran (2) wedi ei fodloni o ran y person, caiff drin y person hwnnw yn yr un ffordd ag y caiff drin person sydd wedi cyflawni dirmyg llys o ran yr Uchel Lys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 54 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth