Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

70Datgeliad niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu yn groes i fudd y cyhoeddLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff Gweinidog y Goron roi hysbysiad i’r Ombwdsmon o ran—

(a)unrhyw ddogfen neu wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, neu

(b)unrhyw ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth a bennir felly,

y byddai datgelu’r ddogfen neu’r wybodaeth honno, neu ddogfennau neu wybodaeth o’r un dosbarth, ym marn y Gweinidog, yn niweidiol i ddiogelwch Gwladol neu fel arall yn groes i fudd y cyhoedd.

(2)Os cyflwynir hysbysiad o dan is-adran (1), nid oes dim yn y Ddeddf hon i’w ddehongli mewn modd sy’n awdurdodi neu’n ei gwneud yn ofynnol i’r Ombwdsmon, aelod o staff yr Ombwdsmon neu berson arall sy’n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu’n cynorthwyo’r Ombwdsmon i gyflawni swyddogaethau’r Ombwdsmon, ddatgelu i unrhyw berson neu at unrhyw ddiben unrhyw ddogfen neu wybodaeth, neu ddosbarth o ddogfen neu wybodaeth, a bennir yn yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 77(1)

I2A. 70 mewn grym ar 23.7.2019 gan O.S. 2019/1096, rhl. 2