- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
(A gyflwynir gan adran 6)
Aelod-wladwriaeth (member State) | ystyr “Aelod-wladwriaeth” yw Gwladwriaeth sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd |
Arglwydd Ganghellor (Lord Chancellor) | ystyr “Arglwydd Ganghellor” yw Arglwydd Uchel Ganghellor Prydain Fawr |
Awdurdod Cyllid Cymru (Welsh Revenue Authority) | ystyr “Awdurdod Cyllid Cymru” yw’r awdurdod a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) |
Banc Lloegr (Bank of England) | ystyr “Banc Lloegr”, yn unol â gofynion y cyd-destun, yw— (a) Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr, neu (b) banc Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr |
blwyddyn ariannol (financial year) | ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn sy’n gorffen â 31 Mawrth |
Bwrdd Iechyd Lleol (Local Health Board) | ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) |
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales Commission) | ystyr “Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
Comisiwn Elusennau (Charity Commission) | ystyr “Comisiwn Elusennau” yw Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, a barheir gan adran 13 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25) |
Cwnsler Cyffredinol (Counsel General) | ystyr “Cwnsler Cyffredinol” yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, a benodir o dan adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
Cyfoeth Naturiol Cymru (Natural Resources Wales) | ystyr “Cyfoeth Naturiol Cymru” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru, a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy. 230)) |
cyfraith UE a ddargedwir (retained EU law) | mae i “cyfraith UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained EU law” gan adran 6(7) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) |
y Cyfrin Gyngor (the Privy Council) | ystyr “y Cyfrin Gyngor” yw’r Arglwyddi ac eraill o Dra Anrhydeddus Gyfrin Gyngor Ei Mawrhydi |
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (Her Majesty’s Revenue and Customs) | mae i “Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ” yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (a gweler adrannau 3(5) ac 11(4) o Ddeddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 (p. 11), sy’n darparu i gyfeiriadau at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gynnwys swyddogion penodol sydd wedi eu dynodi o dan y Ddeddf honno) |
Cymru (Wales) | ystyr ”Cymru” yw— (a) ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)), ynghyd â (b) y môr sy’n gyfagos i Gymru o fewn terfynau atfor y môr tiriogaethol, ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales) | ystyr “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yw’r Cynulliad ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
cytundeb yr AEE (EEA agreement) | ystyr “cytundeb yr AEE” yw’r cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, ynghyd â’r Protocol sy’n amrywio’r Cytundeb hwnnw a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, fel y’i haddesir neu yr ychwanegir ato o bryd i’w gilydd; ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl y diwrnod ymadael nid yw’n cynnwys unrhyw deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir |
y Cytuniadau (the Treaties) neu Cytuniadau’r UE (the EU Treaties) | mae i “y Cytuniadau” neu “Cytuniadau’r UE”— (a) mewn perthynas ag amser cyn y diwrnod ymadael, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) (gweler adran 1(2) i (4) o’r Ddeddf honno a Rhan 1 o Atodlen 1 iddi); (b) mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl y diwrnod ymadael, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan y Ddeddf honno fel yr oedd ganddi effaith yn union cyn ei diddymu gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), ac mae’n cyfeirio at y Cytuniadau neu Gytuniadau’r UE fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod ymadael |
datganiad statudol (statutory declaration) | ystyr “datganiad statudol” yw datganiad a wneir yn rhinwedd Deddf Datganiadau Statudol 1835 (p. 62) |
Deddf Cynulliad (Assembly Act) | ystyr “Deddf Cynulliad” yw Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
deddfiad (enactment) | ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol neu ddarpariaeth mewn unrhyw un o’r canlynol— (a) Deddf Cynulliad, (b) Mesur Cynulliad, (c) Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, (d) unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir, neu (e) unrhyw is-ddeddfwriaeth |
deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct EU legislation) | mae i “deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct EU legislation” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) |
y Deyrnas Unedig (United Kingdom) | ystyr “y Deyrnas Unedig” yw Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon |
diwrnod gwaith (working day) | ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p. 80) |
diwrnod ymadael (exit day) | mae “diwrnod ymadael” ac ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol ag “exit day” yn adran 20(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) |
Goruchaf Lys (Supreme Court) | ystyr “Goruchaf Lys”yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig a sefydlwyd gan adran 23 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p. 4) |
graddfa safonol (standard scale) | mae i “graddfa safonol”, mewn perthynas â dirwy neu gosb am drosedd ddiannod, yr ystyr a roddir i “standard scale” gan adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48) |
Gweinidog y Goron (Minister of the Crown) | ystyr “Gweinidog y Goron” yw deiliad swydd yn Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys y Trysorlys |
Gweinidogion Cymru (the Welsh Ministers) | mae “Gweinidogion Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru a benodir o dan adran 48 o’r Ddeddf honno) |
gwladwriaeth AEE (EEA state) | ystyr “gwladwriaeth AEE”, mewn perthynas ag unrhyw bryd, yw— (a) gwladwriaeth sydd ar y pryd yn Aelod-wladwriaeth, neu (b) unrhyw wladwriaeth arall sydd ar y pryd yn barti i gytundeb yr AEE |
is-ddeddfwriaeth (subordinate legislation) | ystyr “is-ddeddfwriaeth” yw rheoliadau, gorchmynion, rheolau, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, cynlluniau, gwarantau, isddeddfau ac offerynnau eraill a wneir o dan— (a) Deddf Cynulliad, (b) Mesur Cynulliad, (c) Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, neu (d) deddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir |
Lloegr (England) | mae i “Lloegr” yr ystyr a roddir i “England” gan Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) |
llw (oath), affidafid (affidavit), a tyngu llw (swear) | mae “llw” ac “affidafid” yn cynnwys cadarnhad a datganiad; ac mae “tyngu llw” yn cynnwys cadarnhau a datgan |
Llys Apêl (Court of Appeal) | ystyr “Llys Apêl” yw Llys Apêl Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr |
Llys Ewropeaidd (European Court) | ystyr “Llys Ewropeaidd” yw Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd |
Llys y Goron (Crown Court) | ystyr “Llys y Goron” yw Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr a sefydlwyd yn wreiddiol gan adran 4 o Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 23) (a ddiddymwyd gan Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54)) |
Llys Gwarchod (Court of Protection) | ystyr “Llys Gwarchod” yw’r Llys Gwarchod a sefydlwyd gan adran 45 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9) |
llys sirol (county court) | ystyr “llys sirol” yw’r llys sirol yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran A1 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984 (p. 28) |
llys teulu (family court) | ystyr “llys teulu” yw’r llys teulu yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran 31A o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42) |
llys ynadon (magistrates’ court) | ystyr “llys ynadon” yw llys ynadon, o fewn yr ystyr a roddir i “magistrates’ court” gan adran 148 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), yng Nghymru a Lloegr |
Llywodraeth Cymru (Welsh Government) | mae “Llywodraeth Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) |
mân ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct minor EU legislation) a | mae i “mân ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct minor EU legislation”ac mae i “prif ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir” yr ystyr a roddir i “retained direct principal EU legislation” gan adran 7(6) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) |
prif ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir (retained direct principal EU legislation | |
Mesur Cynulliad (Assembly Measure) | ystyr “Mesur Cynulliad” yw Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a beidiodd â chael effaith yn rhinwedd adran 106 o’r Ddeddf honno, yn ddarostyngedig i’r arbediad a barheir gan baragraff 5 o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4)) |
mis (month) | ystyr “mis” yw mis calendr |
offeryn UE (EU instrument) | ystyr “offeryn UE” yw unrhyw offeryn a ddyroddir gan sefydliad UE, ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl y diwrnod ymadael nid yw’n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir |
person (person) | mae “person” yn cynnwys corff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig |
Prif Weinidog (First Minister) | ystyr “Prif Weinidog” yw Prif Weinidog Cymru a benodir o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 45(2) o’r Ddeddf honno, sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog) |
rheolau llys (rules of court) | ystyr “rheolau llys”, mewn perthynas ag unrhyw lys, yw rheolau a wneir gan yr awdurdod a chanddo’r pŵer i wneud rheolau neu orchmynion sy’n rheoleiddio arferion a threfniadaeth y llys hwnnw |
rhwymedigaeth UE a ddargedwir (retained EU obligation) | ystyr “rhwymedigaeth UE a ddargedwir” yw rhwymedigaeth— (a) a grëwyd neu a gododd gan neu o dan Gytuniadau UE cyn y diwrnod ymadael, a (b) sy’n ffurfio rhan o gyfraith UE a ddargedwir, fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd |
sefydliad UE (EU institution) | ystyr “sefydliad UE” yw unrhyw un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd |
tir (land) | mae “tir” yn cynnwys adeiladau a strwythurau eraill, tir a orchuddir â dŵr, ac unrhyw ystad, buddiant, hawddfraint, gwasanaethfraint, hawl mewn tir neu hawl dros dir |
tribiwnlys Cymreig (Welsh tribunal) | mae i “tribiwnlys Cymreig” yr ystyr a roddir i “Welsh tribunal” gan adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) |
trosedd ddiannod (summary offence) | ystyr “trosedd ddiannod” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, na ellir ei rhoi ar brawf ond yn ddiannod— (a) heb gynnwys trosedd a drinnir fel pe bai y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod yn unig yn rhinwedd adran 22 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), a (b) gan anwybyddu adran 40 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) (sy’n darparu ar gyfer achosion pryd y caniateir cynnwys cownt sy’n cyhuddo person o drosedd ddiannod mewn ditiad) |
trosedd dditiadwy (indictable offence) | ystyr “trosedd dditiadwy” yw— (a) trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf ar dditiad yn unig, neu (b) trosedd neillffordd |
trosedd neillffordd (offence triable either way) | ystyr “trosedd neillffordd” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf naill ai ar dditiad neu’n ddiannod— (a) heb gynnwys trosedd y gellir ei rhoi ar brawf ar dditiad yn rhinwedd adran 40 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) yn unig, a (b) gan anwybyddu adran 22 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) (sy’n ei gwneud yn ofynnol bod troseddau neillffordd penodol i’w rhoi ar brawf yn ddiannod os yw’r gwerth sydd ynghlwm yn fach) |
y Trysorlys (the Treasury) | ystyr “y Trysorlys” yw Comisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi |
Uchel Lys (High Court) | ystyr “Uchel Lys”yw Uchel Lys Barn Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr |
yr UE (the EU) neu yr Undeb Ewropeaidd (the European Union) | ystyr “yr UE” neu “yr Undeb Ewropeaidd” yw’r Undeb a sefydlwyd gan y Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a lofnodwyd yn Maastricht ar 7 Chwefror 1992, fel y’i diwygiwyd gan unrhyw Gytuniad diweddarach; ac mae’n cynnwys, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn ei chaniatáu neu’n ei gwneud yn ofynnol, Cymuned Ynni Atomig Ewrop |
Uwchlysoedd (Senior Courts) | ystyr “Uwchlysoedd” yw Uwchlysoedd Cymru a Lloegr (gweler adran 1 o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54)) |
ysgrifennu (writing) | mae “ysgrifennu” yn cynnwys teipio, argraffu, lithograffi, ffotograffiaeth a dulliau eraill o gynrychioli neu atgynhyrchu geiriau ar ffurf weladwy |
Ysgrifennydd Gwladol (Secretary of State) | ystyr “Ysgrifennydd Gwladol”yw un o Brif Ysgrifenyddion Gwladol Ei Mawrhydi |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys