Adran 28 – Trefniadau ariannol a goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol
78.Mae'r adran hon yn mewnosod paragraffau newydd 16A i 16C, 20A ac 20B yn Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ac yn gwneud rhagor o ddiwygiadau i'r Atodlen honno o ganlyniad i ychwanegu'r paragraffau newydd.
79.Mae paragraff 16A newydd yn darparu ar gyfer ariannu gwaith y Comisiwn Etholiadol, i'r graddau y mae'n ymwneud ag etholiadau i'r Senedd ac i lywodraeth leol yng Nghymru, ac i refferenda datganoledig Cymru, i fod yn daladwy o Gronfa Gyfunol Cymru. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bwyllgorau'r Senedd gynnwys pwyllgor o dan gadeiryddiaeth y Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd a’i alw’n Bwyllgor y Llywydd. Bydd y Pwyllgor hwnnw, yn cael amcangyfrifon blynyddol o incwm a gwariant gan y Comisiwn Etholiadol y gellir eu priodoli i waith y Comisiwn ar etholiadau i'r Senedd ac i lywodraeth leol yng Nghymru ac i refferenda datganoledig Cymru. Bydd Pwyllgor y Llywydd yn gosod yr amcangyfrif gerbron y Senedd. Cyn gwneud hynny, rhaid i Bwyllgor y Llywydd fod yn fodlon bod yr amcangyfrif yn gyson â’r Comisiwn Etholiadol yn arfer ei swyddogaethau o ran ei waith ar etholiadau i'r Senedd ac i lywodraeth leol yng Nghymru ac i refferenda datganoledig Cymru mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol.
80.Os nad yw’n fodlon yn hynny o beth, rhaid i Bwyllgor y Llywydd ddiwygio’r amcangyfrif cyn ei osod gerbron y Senedd.
81.Mae paragraff 16B newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol nodi cynllun pum mlynedd ar gyfer ei weithgarwch o ran etholiadau i'r Senedd ac i lywodraeth leol yng Nghymru a refferenda datganoledig Cymru. Rhaid darparu cynllun:
pan gyflwynir yr amcangyfrif cyntaf oll (o dan baragraff 16A newydd);
pan gyflwynir amcangyfrif sy'n ymwneud â'r flwyddyn ariannol gyntaf i ddechrau ar ôl y diwrnod pan fydd Senedd Cymru yn cyfarfod yn dilyn etholiad cyffredinol arferol Aelodau'r Senedd, a
phan gyflwynir amcangyfrif ac mae Pwyllgor y Llywydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn gyflwyno cynllun ar y cyd ag ef.
82.Rhaid i'r cynllun hwnnw gael ei osod gerbron y Senedd gan Bwyllgor y Llywydd. Cyn gwneud hynny, rhaid i Bwyllgor y Llywydd fod yn fodlon bod y cynllun yn gyson â’r Comisiwn Etholiadol yn arfer ei swyddogaethau o ran ei waith ar etholiadau i'r Senedd ac i lywodraeth leol yng Nghymru ac i refferenda datganoledig Cymru mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol. Os nad yw’n fodlon yn hynny o beth, rhaid i Bwyllgor y Llywydd addasu’r cynllun fel y bo’n briodol, yn ei farn ef, cyn ei osod gerbron y Senedd.
83.Mae paragraff 16C newydd yn ymwneud â swyddogaethau'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol o ran yr amcangyfrif sy’n ofynnol yn ôl paragraff 16A a'r cynllun sy’n ofynnol yn ôl paragraff 16B. Cyn i Bwyllgor y Llywydd ystyried yr amcangyfrif a’r cynllun, rhaid i'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol gynnal archwiliad o ran pa mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol (neu unrhyw gyfuniad ohonynt) y mae'r Comisiwn Etholiadol wedi defnyddio ei arian wrth gyflawni ei swyddogaethau ym mharagraffau 16A ac 16B, a chyflwyno adroddiad ar yr archwiliad hwnnw i Bwyllgor y Llywydd.
84.Mae'r adran hon hefyd yn diwygio paragraff 18 o Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 i'w gwneud yn ofynnol i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal archwiliad arall o gyfrifon y Comisiwn Etholiadol sy'n ymwneud â gweithgarwch y Comisiwn a nodir ym mharagraffau 16A ac 16B os bydd Pwyllgor y Llywydd yn gofyn iddo wneud hynny.
85.Mae paragraff 20A newydd i Atodlen 1 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn gosod gofynion adrodd ar y Comisiwn Etholiadol a Chomisiwn y Llywydd mewn perthynas â'u gweithgarwch a nodir ym mharagraffau 16A ac 16B. Mae'r adroddiadau hynny i'w gosod gerbron y Senedd.