Rhan 6.Cyffredinol
Adran 42 – Dod i rym
131.Mae is-adran (1) yn nodi darpariaethau'r Ddeddf a ddaw i rym ar y diwrnod pan gaiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
132.Dim ond o etholiad cyffredinol y Senedd, a drefnir ar gyfer mis Mai 2021, y bydd y darpariaethau sy'n gostwng yr oedran pleidleisio, yn estyn y bleidlais i ddinasyddion tramor cymhwysol ac yn newid y gyfraith ynghylch anghymhwyso yn cael effaith. Yn yr un modd, mae is-adran (5) yn darparu mai dim ond ar ôl yr etholiad hwnnw y bydd adran 36 (amseriad y cyfarfod cyntaf) yn gymwys.
133.Bydd adrannau 12 i 26 o'r Ddeddf sy'n darparu y caiff personau 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymhwysol gofrestru i bleidleisio yn dod i rym ar 1 Mehefin 2020. Dim ond o etholiad cyffredinol y Senedd a drefnir ar gyfer mis Mai 2021 y mae'r darpariaethau hyn yn cael effaith.
134.Bydd y darpariaethau sy'n ymwneud â'r Comisiwn Etholiadol (adran 28 ac Atodlen 2) yn dod i rym drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.
135.Bydd y darpariaethau sy’n newid enw’r sefydliad (Rhan 2 o’r Ddeddf, gan gynnwys Atodlen 1) yn dod i rym ar 6 Mai 2020.