RHAN 1LL+CTROSOLWG
1Trosolwg o’r Ddeddf honLL+C
(1)Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru i “Senedd Cymru” neu “the Welsh Parliament” ac yn gwneud newidiadau cysylltiedig.
(2)Mae Rhan 3 o’r Ddeddf hon yn estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymhwysol ac yn gwneud newidiadau cysylltiedig i gofrestru etholiadol. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ariannol a goruchwylio ar gyfer gwaith y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau datganoledig Cymru a refferenda datganoledig.
(3)Mae Rhan 4 o’r Ddeddf hon yn diwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi eu hanghymhwyso rhag bod yn Aelodau o’r Senedd.
(4)Mae Rhan 5 o’r Ddeddf hon yn cynnwys darpariaethau amrywiol o ran y Senedd a’r etholiadau iddi sydd—
(a)yn estyn yr amser pryd y mae’n rhaid cynnal cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad cyffredinol;
(b)yn egluro pwerau Comisiwn y Senedd i godi tâl am ddarparu nwyddau a gwasanaethau;
(c)yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd ar weithrediad y darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n estyn yr hawl i bleidleisio ac sy’n newid cymhwystra i fod yn Aelod o’r Senedd.
(5)Mae Rhan 6 o’r Ddeddf hon yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli’r Ddeddf hon, dod â darpariaethau’r Ddeddf i rym, a’r enw byr.