Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 24

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, Adran 24. Help about Changes to Legislation

24Diogelu gwybodaeth am bersonau o dan 16 oedLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Ni chaiff swyddog cofrestru gyhoeddi, cyflenwi neu ddatgelu fel arall wybodaeth person ifanc, heblaw yn unol â’r canlynol—

(a)adran 25, neu

(b)rheoliadau o dan adran 26.

(2)Yn yr adran hon ac adrannau 25 a 26—

  • ystyr “cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol” (“absent voters record or list”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    (a)

    cofnod a gedwir o dan erthygl 8(3), 9(6) neu 12(6) o Orchymyn 2007;

    (b)

    rhestr a gedwir o dan erthygl 10 neu 12(8) o Orchymyn 2007;

    (c)

    [F1i’r graddau y mae’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol, cofnod a gedwir o dan baragraff 3(4) neu 7(6) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2) (pleidleisio absennol);;

    (d)

    i’r graddau y mae’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol, rhestr a gedwir o dan baragraff 5 neu 7(8) o’r Atodlen honno; ]

  • mae “cofrestr o etholwyr llywodraeth leol” (“register of local government electors”) yn cynnwys unrhyw hysbysiad o addasiad yn y gofrestr o dan adran 13A(2), 13AB(2) neu 13B(3), (3B) neu (3D) o Ddeddf 1983;

  • ystyr “gwybodaeth person ifanc” (“a young person’s information”) yw unrhyw—

    (a)

    cofnod yn y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, neu

    (b)

    eitem mewn cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol,

    sy’n ymwneud â pherson sydd, adeg cyhoeddi neu gyflenwi’r wybodaeth neu ei datgelu fel arall, o dan 16 oed, ac mae “person ifanc” i’w ddehongli yn unol â hynny;

  • mae “swyddog cofrestru” (“registration officer”) yn cynnwys—

    (a)

    dirprwy i swyddog cofrestru;

    (b)

    person a benodir i gynorthwyo swyddog cofrestru i gyflawni swyddogaethau’r swyddog cofrestru;

    (c)

    person, yng nghwrs cyflogaeth y person, sy’n cynorthwyo swyddog cofrestru i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

[F2(3)Yn adrannau 25 a 26, ystyr “etholiad llywodraeth leol” yw—

(a)etholiad ar gyfer cynghorwyr dros unrhyw ward etholiadol neu ward gymunedol yng Nghymru neu, yn achos cymuned yng Nghymru lle nad oes unrhyw wardiau, y gymuned, y cynhelir yr etholiad ar gyfer cynghorwyr ar ei chyfer o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70), neu

(b)etholiad i ethol maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)) ar gyfer awdurdod lleol yng Nghymru.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 mewn grym ar 1.6.2020, gweler a. 42(3)(a)

Yn ôl i’r brig

Options/Help