Nodiadau Esboniadol i Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020 Nodiadau Esboniadol

CYFLWYNIAD

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 14 Ionawr 2020 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 26 Chwefror 2020. Fe’u lluniwyd gan Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

2.Mae’r Ddeddf yn diwygio adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”). Mae’n gwneud darpariaeth ynghylch indemnio personau a chyrff am dreuliau ac atebolrwyddau sy’n codi mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac yn creu pŵer newydd i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â chynlluniau indemniad uniongyrchol.

Back to top