Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 07/03/2023
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 08/03/2022. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, RHAN 5.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Mae Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 2006 (cyfansoddiad, sefydlu etc. ymddiriedolaethau’r GIG) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ym mharagraff 3 (bwrdd cyfarwyddwyr)—
(a)ar ôl is-baragraff (1)(a) mewnosoder—
“(aa)if the Welsh Ministers consider it appropriate, a vice-chair appointed by them, and”, a
(b)hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (1)(a).
(3)Ym mharagraff 4 (rheoliadau sy’n ymwneud â phenodi etc. y bwrdd cyfarwyddwyr), yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair”.
(4)Ym mharagraff 11 (tâl a lwfansau’r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—
(a)yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”, a
(b)yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2A. 24 mewn grym ar 8.3.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 2(a)
Yn ddilys o 07/03/2023
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 28 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(5)Yn is-adran (3), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—
(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf 2006;
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42);
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “ymddiriedolaeth GIG” (“NHS trust”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf 2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I5A. 26 mewn grym ar 8.3.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 2(b)
Yn ddilys o 01/04/2023
Mae Atodlen 3 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
Yn ddilys o 07/03/2023
(1)Caiff rheoliadau, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, wneud—
(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.
(3)Ystyr “deddfiad” yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn unrhyw un o’r canlynol, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir—
(a)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;
(c)is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan Ddeddf neu Fesur y cyfeirir ati neu ato ym mharagraff (a) neu (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
(1)Daw’r adran hon ac adran 30 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a benodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
(b)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 29 mewn grym ar 2.6.2020, gweler a. 29(1)
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 30 mewn grym ar 2.6.2020, gweler a. 29(1)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys