Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: RHAN 7

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, RHAN 7. Help about Changes to Legislation

RHAN 7LL+CGofynion Adrodd etc.

Cynllun blynyddolLL+C

22(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gyhoeddi cynllun sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i gynllun o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad o amcanion a blaenoriaethau’r Corff am y flwyddyn.

(3)Cyn cyhoeddi cynllun o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Corff ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ystyried eu bod yn briodol ynghylch ei amcanion a blaenoriaethau arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.10.2022 gan O.S. 2022/996, ergl. 2

Adroddiadau blynyddolLL+C

23(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i’r Corff—

(a)anfon copi o’i adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru;

(b)gosod copi o’i adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I4Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Darparu gwybodaeth i Weinidogion CymruLL+C

24Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau sy’n ofynnol ganddynt o bryd i’w gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I6Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth