Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(a gyflwynir gan adran 12(2))

ATODLEN 1LL+CCorff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru

RHAN 1LL+CStatws

StatwsLL+C

1(1)Nid yw Corff Llais y Dinesydd i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo’r Corff i’w ystyried yn eiddo i’r Goron, nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 2LL+CAelodau

AelodaethLL+C

2(1)Aelodau Corff Llais y Dinesydd yw—

(a)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn aelod-gadeirydd iddo,

(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn ddirprwy i’r aelod-gadeirydd,

(c)o leiaf 6 ond dim mwy nag 8 person arall a benodir gan Weinidogion Cymru,

(d)ei brif weithredwr (gweler paragraff 9), ac

(e)pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Corff, berson a benodir yn aelod cyswllt iddo (gweler paragraff 6).

(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir ar y cyd at yr aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru fel “aelodau anweithredol”; ac mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at arfer swyddogaeth gan yr aelodau anweithredol yn gyfeiriad at yr aelodau anweithredol yn arfer y swyddogaeth fel pwyllgor o’r Corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredolLL+C

3Caiff person ei anghymhwyso rhag cael ei benodi’n aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd, os yw’r person yn aelod o staff y Corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Telerau aelodaeth anweithredolLL+C

4(1)Mae aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (4) a pharagraff 5.

(2)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 4 blynedd.

(3)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod anweithredol gael ei ailbenodi’n aelod anweithredol unwaith yn unig (ac mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).

(4)Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(5)Caiff Corff Llais y Dinesydd, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a)talu tâl, treuliau a lwfansau i’w aelodau anweithredol;

(b)talu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Corff, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath, a symiau am ddarparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Corff, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Diswyddo aelodau anweithredolLL+C

5(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd ddiswyddo’r person hwnnw os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod anweithredol o’r Corff atal y person hwnnw dros dro o’i swydd os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol o’r Corff os daw’r person yn aelod o staff y Corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Penodi’r aelod cyswlltLL+C

6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)bo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan Gorff Llais y Dinesydd, a

(b)bo swydd yr aelod cyswllt yn wag.

(2)Rhaid i’r aelodau anweithredol wahodd pob un o’r undebau llafur a gydnabyddir gan y Corff i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y Corff.

(3)Rhaid i’r gwahoddiad bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo.

(4)Rhaid i’r aelodau anweithredol benodi person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3), fel aelod cyswllt y Corff.

(5)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y Corff, ond os yw’r person—

(a)yn aelod o staff y Corff, a

(b)yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y Corff.

(6)Yn y Rhan hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(s)

Telerau aelodaeth gyswllt etc.LL+C

7(1)Nid yw aelod cyswllt o Gorff Llais y Dinesydd yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan y Corff.

(2)Mae aelod cyswllt o’r Corff yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir gan yr aelodau anweithredol yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (5) a pharagraff 8.

(3)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod cyswllt fod yn hwy na 4 blynedd.

(4)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt gael ei ailbenodi o dan baragraff 6 yn aelod cyswllt (ac mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).

(5)Caiff aelod cyswllt o’r Corff ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau anweithredol.

(6)Caiff Corff Llais y Dinesydd dalu treuliau i aelod cyswllt.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(s)

Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredolLL+C

8(1)Caiff yr aelodau anweithredol drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod cyswllt Corff Llais y Dinesydd ddiswyddo’r person hwnnw fel yr aelod cyswllt os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Caiff yr aelodau anweithredol drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod cyswllt y Corff atal y person hwnnw dros dro o’i swydd fel yr aelod cyswllt, os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae aelod cyswllt yn peidio â dal swydd os yw’r aelod yn peidio â bod yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt (gweler paragraff 6(5)).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(s)

RHAN 3LL+CStaff

Prif weithredwrLL+C

9(1)Rhaid i aelodau anweithredol Corff Llais y Dinesydd benodi person yn brif weithredwr iddo.

(2)Penodir y prif weithredwr ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) a bennir gan yr aelodau anweithredol yn nhelerau’r penodiad.

(3)Ni chaniateir gwneud penodiad o dan y paragraff hwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Staff eraillLL+C

10(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd benodi aelodau eraill o staff, yn ogystal â phrif weithredwr.

(2)Penodir aelod o staff o dan y paragraff hwn ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) a bennir gan y Corff yn nhelerau’r penodiad.

(3)Ni chaiff y Corff gytuno ar delerau ac amodau o ran tâl, lwfansau neu bensiwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 4LL+CSwyddogaethau Ategol etc.

PwyllgorauLL+C

11(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau.

(2)Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Corff neu fod â phersonau o’r fath yn unig.

(3)Caiff y Corff dalu treuliau a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a

(b)nad yw’n aelod o’r Corff, nac yn aelod o’i staff.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

DirprwyoLL+C

12(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—

(a)o’i bwyllgorau,

(b)o’i is-bwyllgorau,

(c)o’i aelodau, neu

(d)o’i staff.

(2)Nid yw trefniant o dan is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb y Corff am arfer swyddogaeth ddirprwyedig, nac ar ei allu i arfer swyddogaeth ddirprwyedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Pwerau atodolLL+C

13(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.

(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i’r Corff fenthyca arian.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I26Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 5LL+CGweithdrefn etc.

GweithdrefnLL+C

14(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd wneud rheolau i reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm).

(2)Rhaid i’r Corff wneud rheolau i reoleiddio gweithdrefn ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau (gan gynnwys cworwm).

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I28Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Dilysrwydd trafodion a gweithredoeddLL+C

15Nid yw’r materion a ganlyn yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd Corff Llais y Dinesydd (nac ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau)—

(a)unrhyw swydd wag ymhlith aelodaeth y Corff, neu

(b)unrhyw ddiffyg o ran penodiad aelod.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I30Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

SêlLL+C

16(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd fod â sêl.

(2)Rhaid i’r weithred o osod y sêl gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)unrhyw aelod o’r Corff, neu

(b)unrhyw berson arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Corff at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I32Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

TystiolaethLL+C

17Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl Corff Llais y Dinesydd neu wedi ei llofnodi ar ei ran i’w derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, i’w chymryd fel pe bai wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I34Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 6LL+CMaterion Ariannol

CyllidLL+C

18Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i Gorff Llais y Dinesydd o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau, ac yn unol ag unrhyw amodau, y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I36Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Swyddog cyfrifydduLL+C

19(1)Prif weithredwr Corff Llais y Dinesydd yw ei swyddog cyfrifyddu.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Corff, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Corff;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd y Corff o’i adnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ei Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I38Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

CyfrifonLL+C

20(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, ar gyfer pob blwyddyn ariannol—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Corff gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I40Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

ArchwilioLL+C

21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob datganiad o gyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Gorff Llais y Dinesydd o dan baragraff 20(3)(b).

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod pan gyflwynir y datganiad o gyfrifon (“y cyfnod o 4 mis”), osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad, neu

(b)os nad yw’n rhesymol ymarferol cydymffurfio â pharagraff (a), ddatganiad i’r perwyl hwnnw, y mae rhaid iddo gynnwys rhesymau o ran pam mae hyn yn wir.

(4)Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gosod datganiad o dan is-baragraff (3)(b) mewn perthynas â datganiad o gyfrifon, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 4 mis.

(5)Wrth gydymffurfio ag is-baragraff (2) rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn benodol, archwilio a aed, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol, i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef, yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n llywodraethu’r gwariant hwnnw, ac adrodd ar hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I42Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 7LL+CGofynion Adrodd etc.

Cynllun blynyddolLL+C

22(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gyhoeddi cynllun sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i gynllun o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad o amcanion a blaenoriaethau’r Corff am y flwyddyn.

(3)Cyn cyhoeddi cynllun o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Corff ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ystyried eu bod yn briodol ynghylch ei amcanion a blaenoriaethau arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 1 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I44Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.10.2022 gan O.S. 2022/996, ergl. 2

Adroddiadau blynyddolLL+C

23(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i’r Corff—

(a)anfon copi o’i adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru;

(b)gosod copi o’i adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 1 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I46Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

Darparu gwybodaeth i Weinidogion CymruLL+C

24Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau sy’n ofynnol ganddynt o bryd i’w gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 1 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I48Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

RHAN 8LL+CDehongli

Dehongli cyffredinolLL+C

25Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “aelod anweithredol” yr ystyr a roddir gan baragraff 2(2);

  • ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 1 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I50Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(e)

(a gyflwynir gan adran 23(3))

ATODLEN 2LL+CTrosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau

Cynlluniau trosglwyddoLL+C

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, wneud un neu ragor o gynlluniau trosglwyddo.

(2)Mae cynllun trosglwyddo yn gynllun sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a grybwyllir yn is-baragraff (3).

(3)Mae’r eiddo, yr hawliau a’r rhwymedigaethau yn eiddo ac yn hawliau a gaffaelir, neu’n rhwymedigaethau yr eir iddynt, gan—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)ymddiriedolaeth GIG.

(4)Ymhlith y pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun trosglwyddo mae—

(a)eiddo, hawliau a rhwymedigaethau na ellid eu trosglwyddo fel arall;

(b)eiddo a gaffaelir, a hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud.

(5)Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, atodol, gysylltiedig, drosiannol neu ddarfodol.

(6)Yn rhinwedd is-baragraff (5), caiff cynllun trosglwyddo, er enghraifft—

(a)creu hawliau, neu osod rhwymedigaethau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;

(b)gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(c)gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd wrthi’n cael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;

(d)gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchnogaeth ar eiddo neu ddefnydd o eiddo;

(e)gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Lywodraeth Cymru neu Weinidogion Cymru, neu gyfeiriadau at Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG, mewn offeryn neu mewn dogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir, gael eu trin fel cyfeiriadau at Gorff Llais y Dinesydd;

(f)gwneud yr un ddarpariaeth â darpariaeth a wneir gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), neu ddarpariaeth sy’n debyg i’r ddarpariaeth honno, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad.

(7)Caiff cynllun trosglwyddo ddarparu—

(a)ar gyfer ei addasu drwy gytundeb;

(b)i addasiadau gael effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun yn effeithiol.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw gynllun trosglwyddo gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(9)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi mewn perthynas â chontract cyflogaeth;

(b)mae cyfeiriadau at drosglwyddo eiddo yn cynnwys cyfeiriadau at roi les.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I52Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 29.3.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 2(b)

(a gyflwynir gan adran 27)

ATODLEN 3LL+CMân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol

RHAN 1LL+CDiwygiadau a diddymiadau sy’n ymwneud â Rhan 2

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43)LL+C

1Mae Rhan 2 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (safonau mewn perthynas â’r gofal iechyd a ddarperir gan neu ar gyfer cyrff GIG Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I54Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

2Mae adran 45(1) wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I56Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

3Yn adran 47 (pŵer i lunio a chyhoeddi safonau mewn perthynas â darparu gofal iechyd), yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “every” hyd at y diwedd rhodder “a Welsh NHS body in discharging a duty under section 12A(1), 20A(1) or 24A(1) of the National Health Service (Wales) Act 2006 (duties to secure quality in the provision of health services).”

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I58Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

4Yn adran 70 (adolygiadau ac ymchwiliadau sy’n ymwneud â Chymru), yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “arrangements” hyd at y diwedd rhodder “steps taken by a Welsh NHS body for the purpose of discharging a duty under section 12A(1), 20A(1) or 24A(1) of the National Health Service (Wales) Act 2006 (duties to secure quality in the provision of health services).”

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I60Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

RHAN 2LL+CDiwygiadau a diddymiadau sy’n ymwneud â Rhan 4

Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (p. 67)LL+C

5Yn Atodlen 1 i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 (cyrff y mae’r Ddeddf yn gymwys iddynt), ym mharagraff 1, ar ôl is-baragraff (bj) mewnosoder—

(bja)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales;.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I62Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p. 20)LL+C

6Yn adran 134 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (gohebiaeth cleifion)—

(a)ar ôl is-adran (3)(ca) mewnosoder—

(cb)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales;;

(b)yn is-adran (3)(e), hepgorer “, a Community Health Council”.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I64Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 (p. 24)LL+C

7Mae Deddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988 wedi ei diddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I66Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36)LL+C

8Yn Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (awdurdodau cyhoeddus)—

(a)yn Rhan 3 (y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru a Lloegr), hepgorer paragraff 41;

(b)yn Rhan 6 (cyrff a swyddi cyhoeddus eraill: cyffredinol), ar ôl y cofnod ar gyfer Comisiynydd Plant Cymru mewnosoder—

  • The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I68Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

9Yn adran 148 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (ystyr “cofnodion cyhoeddus Cymru”), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales,.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I70Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15)LL+C

10Yn Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (awdurdodau cyhoeddus), yn Rhan 2 (awdurdodau Cymreig perthnasol)—

(a)o dan y pennawd “National Health Service”—

(i)hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”;

(ii)hepgorer y geiriau “The Board of Community Health Councils in Wales or Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;

(b)o dan y pennawd “other public authorities”, ar ôl y cofnod ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru mewnosoder—

  • The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales or Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I72Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1)LL+C

11Yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc.: safonau), yn y tabl —

(a)hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;

(c)o dan y pennawd “Cyffredinol”, ar ôl y cofnod ar gyfer Comisiynydd y Gronfa Gymdeithasol mewnosoder—

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”)Safonau cyflenwi gwasanaethau
Safonau llunio polisi
Safonau gweithredu
Safonau cadw cofnodion.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I74Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)LL+C

12Yn adran 32 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (partneriaid eraill byrddau gwasanaethau cyhoeddus)—

(a)hepgorer is-adran (1)(c);

(b)ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—

(ba)Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I76Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (p. 6)LL+C

13Yn Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (awdurdodau penodedig), yn Rhan 1 (Cyffredinol: Cymru a Lloegr), o dan y pennawd “Health and social care”, hepgorer y geiriau “A Community Health Council in Wales.”

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I78Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2)LL+C

14Yn adran 177 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (ystyr awdurdod perthnasol yn Rhan 9 o’r Ddeddf)—

(a)hepgorer is-adran (1)(g), a

(b)hepgorer is-adran (2)(c).

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I80Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf yr Economi Ddigidol 2017 (p. 30)LL+C

15Yn Atodlen 4 i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (personau penodedig at ddibenion datgelu gwybodaeth i wella cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus), yn Rhan 2 (cyrff Cymreig)—

(a)ym mharagraff 35, yn lle “A Community Health Council in Wales.” rhodder “The Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales.”;

(b)hepgorer paragraff 38.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I82Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 (O.S. 2018/441)LL+C

16(1)Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn rheoliad 3(2)(b) yn lle “Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt” rhodder “Corff Llais y Dinesydd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo”.

(3)Yn Atodlen 6—

(a)hepgorer y cofnod ar gyfer Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned;

(c)yn y lle priodol mewnosoder—

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (“the Citizen Voice Body for Health and Social Care, Wales”).

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I84Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3)LL+C

17(1)Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 16 (pŵer i ymchwilio i wasanaethau eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd), yn y diffiniad o “awdurdod rhestredig perthnasol” yn is-adran (4)—

(a)hepgorer paragraff (a);

(b)hepgorer paragraff (e);

(c)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ia)Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;.

(3)Yn Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig), o dan y pennawd “Iechyd a gofal cymdeithasol”—

(a)hepgorer y geiriau “Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.”;

(b)hepgorer y geiriau “Cyngor Iechyd Cymuned.”;

(c)ar ôl y cofnod olaf mewnosoder—

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 3 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I86Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

RHAN 3LL+CDiwygio Deddf 2006: Gwasanaethau Eirioli Annibynnol

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)LL+C

18Yn adran 187 o Ddeddf 2006 (dyletswydd Gweinidogion Cymru i drefnu i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu darparu)—

(a)yn is-adran (2)(ca), ar ôl “health service body” mewnosoder “, family health service provider in Wales, independent provider”;

(b)yn is-adran (3), yn y lle priodol, mewnosoder—

  • family health service provider in Wales” has the same meaning as it has in the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2019 (see, in particular, section 78 of that Act),”..

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 3 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I88Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill