13Amcan cyffredinolLL+C
(1)Amcan cyffredinol Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yw cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
(2)At ddibenion cyflawni’r amcan hwnnw, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd geisio barn y cyhoedd, ym mha ffordd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol, mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
(3)Wrth wneud trefniadau i gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw’n benodol i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y ceisir barn oddi wrthynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2A. 13 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(j)