Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 21

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, Adran 21. Help about Changes to Legislation

21Ystyr “gwasanaethau iechyd” a “gwasanaethau cymdeithasol”LL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at wasanaethau iechyd yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir (pa un ai yng Nghymru neu mewn man arall) o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006, ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(2)Yn is-adran (1), mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at wasanaethau cymdeithasol yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol.

(4)Yn is-adran (3), mae i “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yr un ystyr ag sydd iddo at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (gweler, yn benodol, adran 143 o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 21 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(c)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth