xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CCORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned etc.LL+C

23Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedigLL+C

(1)Mae adran 182 o Ddeddf 2006, sy’n darparu ar gyfer parhau â Chynghorau Iechyd Cymuned neu eu sefydlu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, wedi ei diddymu, ac mae’r Cynghorau Iechyd Cymuned hynny wedi eu dileu.

(2)Mae Atodlen 10 i Ddeddf 2006, sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch Cynghorau Iechyd Cymuned, wedi ei diddymu hefyd.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, mewn cysylltiad â dileu Cynghorau Iechyd Cymuned.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 23(1)(2) mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(q)

I3A. 23(3) mewn grym ar 29.3.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 2(a)