xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CHYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 1LL+CTROSOLWG O’R RHAN

38TrosolwgLL+C

Yn y Rhan hon—

(a)mae Pennod 2 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor—

(i)annog pobl leol i gyfranogi pan fo’r cyngor yn gwneud penderfyniadau;

(ii)llunio a chyhoeddi strategaeth sy’n nodi sut y bydd yn cydymffurfio â’i ddyletswydd i annog cyfranogiad pan wneir penderfyniadau;

(iii)gwneud cynllun deisebau;

(iv)cyhoeddi cyfeiriad electronig a chyfeiriad post ar gyfer pob un o’i aelodau;

(b)mae Pennod 3 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor gyhoeddi arweiniad i gyd-fynd â’i gyfansoddiad a sicrhau bod copïau o’r arweiniad ar gael ar gais;

(c)mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth—

(i)ar gyfer darlledu trafodion cyfarfodydd prif gynghorau ac awdurdodau lleol eraill sy’n agored i’r cyhoedd;

(ii)sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau sy’n galluogi mynychu cyfarfodydd o bell;

(iii)sy’n rhoi’r cyfle i aelodau o’r cyhoedd siarad yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned sy’n agored i’r cyhoedd;

(iv)ynglŷn â rhoi hysbysiadau, a mynediad at ddogfennau, sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol;

(v)ar gyfer gwneud rheoliadau ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleol, cyhoeddi gwybodaeth a chyfarfodydd cymunedol;

(d)mae Pennod 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned gyhoeddi adroddiad blynyddol ynglŷn â’u blaenoriaethau, eu gweithgareddau a’u cyflawniadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 38 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(g)

PENNOD 2LL+CCYFRANOGIAD Y CYHOEDD PAN FO PRIF GYNGHORAU YN GWNEUD PENDERFYNIADAU

Dyletswydd ar brif gynghorau i annog cyfranogiad o fewn llywodraeth leolLL+C

39Dyletswydd i annog pobl leol i gyfranogi pan fo prif gynghorau yn gwneud penderfyniadauLL+C

(1)Rhaid i brif gyngor annog pobl leol i gyfranogi pan fo’r cyngor yn gwneud penderfyniadau (gan gynnwys penderfyniadau a wneir mewn partneriaeth neu ar y cyd ag unrhyw berson arall).

(2)Yn is-adran (1), mae cyfeiriad at wneud penderfyniadau yn cynnwys cyfeiriad at wneud penderfyniadau gan berson mewn perthynas ag arfer swyddogaeth a ddirprwywyd i’r person hwnnw gan brif gyngor.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I3A. 39 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(d)

40Strategaeth ar annog cyfranogiadLL+C

(1)Rhaid i brif gyngor lunio a chyhoeddi strategaeth (“strategaeth cyfranogiad y cyhoedd”) sy’n pennu sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 39.

(2)Rhaid i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd ymdrin â’r canlynol, yn benodol—

(a)dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o swyddogaethau’r prif gyngor;

(b)dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o’r modd y deuir yn aelod o’r prif gyngor, a’r hyn y mae aelodaeth yn ei olygu;

(c)dulliau o’i gwneud yn fwy hwylus i bobl leol gael gwybodaeth am benderfyniadau a wnaed, neu sydd i’w gwneud, gan y prif gyngor;

(d)dulliau o hybu a hwyluso prosesau lle gall pobl leol gyflwyno sylwadau i’r prif gyngor am benderfyniad cyn, ac ar ôl, iddo gael ei wneud;

(e)y trefniadau a wnaed, neu sydd i’w gwneud, at ddiben y ddyletswydd ar y cyngor yn adran 62 o Fesur 2011 (dwyn safbwyntiau’r cyhoedd i sylw pwyllgorau trosolwg a chraffu);

(f)dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith aelodau o’r prif gyngor o fanteision defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol.

(3)Caiff strategaeth cyfranogiad y cyhoedd ymdrin â’r modd y mae prif gyngor yn bwriadu cydymffurfio â dyletswydd a osodir gan unrhyw ddeddfiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I5A. 40 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(d)

41Strategaeth cyfranogiad y cyhoedd: ymgynghori ac adolyguLL+C

(1)Rhaid i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd gyntaf prif gyngor gael ei chyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i adran 40 ddod i rym.

(2)Wrth lunio’r strategaeth honno rhaid i’r cyngor ymgynghori ag—

(a)pobl leol, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(3)Mewn perthynas â phrif gyngor—

(a)rhaid iddo adolygu ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn pob etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i’r cyngor, a

(b)caiff adolygu ei strategaeth ar unrhyw adeg arall.

(4)Wrth gynnal adolygiad o strategaeth cyfranogiad y cyhoedd o dan is-adran (3)(a) rhaid i brif gyngor ymgynghori ag—

(a)pobl leol, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(5)Yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3) caiff prif gyngor ddiwygio ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, neu roi strategaeth newydd yn ei lle.

(6)Ond cyn diwygio ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd neu roi un newydd yn ei lle yn dilyn adolygiad o dan is-adran (3)(b) rhaid i brif gyngor ymgynghori ag—

(a)pobl leol, a

(b)unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

(7)Os yw prif gyngor yn diwygio strategaeth cyfranogiad y cyhoedd neu’n rhoi un newydd yn ei lle, rhaid iddo gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig neu’r strategaeth newydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I7A. 41 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(d)

Cynllun deisebau prif gyngorLL+C

42Dyletswydd i wneud cynllun deisebauLL+C

(1)Rhaid i brif gyngor wneud a chyhoeddi cynllun (“cynllun deisebau”) sy’n nodi sut y mae’r cyngor yn bwriadu ymdrin â deisebau (gan gynnwys deisebau electronig) ac ymateb iddynt.

(2)Rhaid i gynllun deisebau nodi, yn benodol—

(a)sut i gyflwyno deiseb i’r cyngor;

(b)sut ac erbyn pryd y bydd y cyngor yn cydnabod ei fod wedi cael deiseb;

(c)y camau y gall y cyngor eu cymryd mewn ymateb i ddeiseb y mae’n ei chael;

(d)yr amgylchiadau (os oes rhai) pan allai’r cyngor beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn ymateb i ddeiseb;

(e)sut ac erbyn pryd y bydd y cyngor yn sicrhau bod ei ymateb i ddeiseb ar gael i’r person a gyflwynodd y ddeiseb ac i’r cyhoedd.

(3)Rhaid i brif gyngor adolygu ei gynllun deisebau o dro i dro, a diwygio’r cynllun os yw’r cyngor yn ystyried bod hynny’n briodol.

(4)Os yw prif gyngor yn diwygio cynllun deisebau neu’n rhoi un newydd yn ei le, rhaid iddo gyhoeddi’r cynllun diwygiedig neu’r cynllun newydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I9A. 42 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(d)

Cyfeiriadau aelodau o brif gynghorauLL+C

43Dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriadau swyddogolLL+C

Rhaid i brif gyngor gyhoeddi cyfeiriad electronig a chyfeiriad post ar gyfer pob aelod o’r cyngor, y gellir anfon gohebiaeth ar gyfer yr aelod iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I11A. 43 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(d)

CanllawiauLL+C

44Canllawiau ar arfer swyddogaethau o dan y Bennod honLL+C

Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan y Bennod hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I13A. 44 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(d)

PENNOD 3LL+CARWEINIADAU I’R CYFANSODDIAD

45Dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfansoddiad ac arweiniad i’r cyfansoddiadLL+C

(1)Mae adran 37 o Ddeddf 2000 (cyfansoddiad awdurdod lleol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)A local authority must prepare and keep up to date a document (referred to in this section as their constitution guide) which explains, in ordinary language, the content of their constitution.

(3)Yn is-adran (2)—

(a)ar ôl “must” mewnosoder

(a)publish their constitution and their constitution guide electronically and in such other manner as they consider appropriate, and

(b)”;

(b)ar ôl “copies of their constitution” mewnosoder “and their constitution guide”.

(4)Yn is-adran (3)—

(a)ar ôl “constitution” mewnosoder “or, as the case may be, their constitution guide”;

(b)yn lle’r geiriau o “who requests” hyd at ddiwedd yr is-adran, rhodder “on request, either free of charge or at a charge representing no more than the cost of providing the copy”.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I15A. 45 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(e)

PENNOD 4LL+CCYFARFODYDD LLYWODRAETH LEOL

46Darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodolLL+C

(1)Rhaid i brif gyngor wneud a chyhoeddi trefniadau at ddiben sicrhau bod—

(a)darllediad o drafodion cyfarfod y mae is-adran (2) yn gymwys iddo ar gael ar ffurf electronig fel bod aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn mynychu’r cyfarfod yn gallu gweld a chlywed y trafodion;

(b)y trafodion yn cael eu darlledu wrth iddynt gael eu cynnal, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau penodedig;

(c)y darllediad ar gael ar ffurf electronig am gyfnod penodedig ar ôl y cyfarfod.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i drafodion cyfarfod, neu unrhyw ran o gyfarfod, o’r canlynol sy’n agored i’r cyhoedd—

(a)prif gyngor;

(b)unrhyw un neu ragor o’r cyrff penodedig a ganlyn—

(i)gweithrediaeth prif gyngor;

(ii)pwyllgor neu is-bwyllgor i weithrediaeth prif gyngor;

(iii)pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor;

(iv)cyd-bwyllgor, neu is-bwyllgor i gyd-bwyllgor, o ddau brif gyngor neu ragor.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â darlledu trafodion mewn cyfarfod y mae is-adran (2) yn gymwys iddo.

(4)Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

(5)Os yw prif gyngor yn diwygio trefniadau a wnaed o dan is-adran (1) neu’n rhoi rhai newydd yn eu lle, rhaid iddo gyhoeddi’r trefniadau diwygiedig neu’r trefniadau newydd.

(6)Rhaid i brif gyngor sy’n gwneud trefniadau sy’n ofynnol gan is-adran (1) roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(7)Nid yw’r ffaith bod darllediad ar gael neu nad yw ar gael (boed hynny wrth i’r trafodion gael eu cynnal neu wedi hynny) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw drafodion y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau er mwyn sicrhau bod trafodion cyfarfod awdurdod a restrir yn is-adran (9), neu gyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod o’r fath, yn cael eu darlledu ar ffurf electronig, ac mewn cysylltiad â hynny.

(9)Yr awdurdodau yw—

(a)awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;

(b)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(c)cyd-bwyllgor o un prif gyngor neu ragor ac un neu ragor o’r awdurdodau a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b);

(d)cyd-fwrdd—

(i)a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a

(ii)sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor.

(10)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) neu (8) gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn addasu, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I17A. 46(1)(a)(2)(a), (5)-(7) mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(f)

I18A. 46(1)(b)(c)(2)(b) mewn grym ar 4.3.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/231, ergl. 2(d)

I19A. 46(1)(b)(c)(2)(b) mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/231, ergl. 6(f)

I20A. 46(3)(4), (8)-(10) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(e)

47Mynychu cyfarfodydd awdurdod lleolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud a chyhoeddi trefniadau at ddiben sicrhau y gellir cynnal cyfarfodydd awdurdod lleol drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall—

(a)sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i fynychu’r cyfarfodydd, a

(b)sy’n bodloni’r amodau yn is-adran (2).

(2)Yr amodau yw bod y cyfarpar neu’r cyfleuster arall yn galluogi personau—

(a)yn achos cyfarfodydd awdurdod lleol nad ydynt yn dod o fewn paragraff (b), i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio), a

(b)yn achos cyfarfodydd prif gyngor y mae’n ofynnol eu darlledu o dan adran 46 (darllediadau electronig), neu unrhyw gyfarfodydd awdurdod lleol eraill y mae’n ofynnol iddynt gael eu darlledu gan reoliadau a wneir o dan yr adran honno, i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd ac i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd.

(3)Yn achos cyfarfodydd cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor, rhaid i’r awdurdodau wneud a chyhoeddi trefniadau o dan is-adran (1) ar y cyd.

(4)Os yw awdurdod lleol yn diwygio trefniadau a wnaed o dan is-adran (1) neu’n rhoi rhai newydd yn eu lle, rhaid iddo gyhoeddi’r trefniadau diwygiedig neu’r trefniadau newydd.

(5)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau sy’n ofynnol gan is-adran (1) roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(6)Yn yr adran hon—

(7)Mewn perthynas â chyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad at—

(a)y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod awdurdod lleol, yn bresennol ynddo neu’n ymddangos ger ei fron, mae’r cyfeiriad hwnnw yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir yn is-adran (1), mynychu, bod yn bresennol neu ymddangos drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw;

(b)y lle y mae cyfarfod awdurdod lleol i’w gynnal, nid yw’r cyfeiriad hwnnw i’w ddarllen fel pe bai wedi ei gyfyngu i un lleoliad ffisegol.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau er mwyn—

(a)ychwanegu at yr amodau yn is-adran (2), eu diwygio neu eu hepgor;

(b)ychwanegu at y diffiniad o “awdurdod lleol” yn is-adran (6) cyd-fwrdd—

(i)a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a

(ii)sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor.

(9)Mae Rhan 2 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I22A. 47(1)-(7), (9) mewn grym ar 1.5.2021 gan O.S. 2021/354, ergl. 2(a)

I23A. 47(8) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(f)

48Cyfranogi yng nghyfarfodydd cynghorau cymunedLL+C

Yn Rhan 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd a thrafodion cynghorau cymuned), ar ôl paragraff 27 mewnosoder—

27A(1)This paragraph applies in respect of a meeting or part of a meeting of a community council which is open to the public.

(2)The person presiding over the meeting must give members of the public in attendance a reasonable opportunity to make representations about any business to be transacted at the meeting, unless that person considers that doing so is likely to prejudice the effective conduct of the meeting.

(3)In complying with sub-paragraph (2), the person presiding over the meeting must have regard to any guidance issued by the Welsh Ministers about the function in that sub-paragraph.

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I25A. 48 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(g)

49Hysbysiadau etc. ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleolLL+C

[F2(1)] Mae Rhan 1 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1972 a Deddfau eraill, ynglŷn â hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol.

[F3(2)Mae unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sy’n ymwneud â chyfarfod awdurdod lleol y mae’n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad iddynt gael eu cyhoeddi’n electronig, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Difenwi 1996 (p. 31), i’w trin fel dogfen y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddi fod yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd.

(3)Yn is-adran (2) mae i “cyfarfod awdurdod lleol” yr un ystyr ag yn adran 50(5).]

Diwygiadau Testunol

F2A. 49(1): a. 49 wedi ei ailrifo fel a. 49(1) (dod i rym yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (O.S. 2021/356), rhlau. 1(2), 5(2) (ynghyd â rhlau. 10, 11)

F3A. 49(2)(3) wedi ei fewnosod (dod i rym yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (O.S. 2021/356), rhlau. 1(2), 5(3) (ynghyd â rhlau. 10, 11)

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 49 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(c)

I27A. 49 mewn grym ar 1.5.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/354, ergl. 2(b)

50Rheoliadau ynglŷn â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, dogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd a chyhoeddi gwybodaethLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â gofynion sy’n ymwneud â hysbysiadau a dogfennau eraill mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol ac sy’n ymwneud â chynnal y cyfarfodydd hynny.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynglŷn ag—

(a)llunio hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol;

(b)cyhoeddi a dosbarthu’r hysbysiadau a’r dogfennau hynny;

(c)cynnwys yr hysbysiadau a’r dogfennau hynny;

(d)hawliau i gael mynediad at yr hysbysiadau a’r dogfennau hynny;

(e)cadw dogfennau sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol;

(f)trefniadau sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol;

(g)cofnodi penderfyniadau a wneir yn y cyfarfodydd hynny.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi gan awdurdodau lleol, ac mewn cysylltiad â chyhoeddi gan awdurdodau lleol, wybodaeth sy’n nodi manylion ynglŷn ag—

(a)aelodau o’r awdurdod a’i bwyllgorau a’i is-bwyllgorau;

(b)hawliau i fynychu cyfarfodydd awdurdod lleol a chael mynediad at ddogfennau;

(c)arfer pwerau awdurdod lleol gan ei swyddogion,

a gwneud darpariaeth ar gyfer hawliau i gael mynediad at yr wybodaeth honno, ac mewn cysylltiad â hynny.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(5)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 50 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(a)

51Rheoliadau ynglŷn â chyfarfodydd cymunedolLL+C

Yn Rhan 5 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd cymunedol), ar ôl paragraff 36 mewnosoder—

36A(1)The Welsh Ministers may by regulations make provision for and in connection with requirements concerning notices and other documents relating to community meetings and concerning the holding of such meetings and their conduct.

(2)Regulations under sub-paragraph (1) may, in particular, include provision about—

(a)arrangements relating to the holding of community meetings attended by persons who are not in the same place;

(b)the convening of community meetings;

(c)the production, publication, dissemination and content of notices of community meetings;

(d)the recording of decisions made at community meetings;

(e)the functions of principal councils and community councils in relation to community meetings;

(f)eligibility to attend and to vote at community meetings.

(3)Regulations under sub-paragraph (1) may include supplementary, incidental, consequential, transitional, transitory or saving provision (including provision amending, modifying, repealing or revoking any enactment (including this Act)).

(4)A statutory instrument containing regulations under sub-paragraph (1) must not be made unless a draft of the instrument has been laid before and approved by resolution of Senedd Cymru.

36BA principal council and a community council exercising functions in relation to community meetings must have regard to any guidance about the exercise of those functions issued by the Welsh Ministers.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 51 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(b)

PENNOD 5LL+CADRODDIADAU BLYNYDDOL GAN GYNGHORAU CYMUNED

52Adroddiadau blynyddol gan gynghorau cymunedLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i gyngor cymuned lunio a chyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ynglŷn â blaenoriaethau, gweithgareddau a chyflawniadau’r cyngor yn ystod y flwyddyn honno.

(2)Rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag adroddiadau blynyddol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i swyddogaeth cyngor cymuned o benderfynu ar gynnwys adroddiad blynyddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 52 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(7)

I31A. 52 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 5