Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: PENNOD 4

 Help about opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/05/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, PENNOD 4. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

PENNOD 4LL+CCYFARFODYDD LLYWODRAETH LEOL

46Darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodolLL+C

(1)Rhaid i brif gyngor wneud a chyhoeddi trefniadau at ddiben sicrhau bod—

(a)darllediad o drafodion cyfarfod y mae is-adran (2) yn gymwys iddo ar gael ar ffurf electronig fel bod aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn mynychu’r cyfarfod yn gallu gweld a chlywed y trafodion;

(b)y trafodion yn cael eu darlledu wrth iddynt gael eu cynnal, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau penodedig;

(c)y darllediad ar gael ar ffurf electronig am gyfnod penodedig ar ôl y cyfarfod.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i drafodion cyfarfod, neu unrhyw ran o gyfarfod, o’r canlynol sy’n agored i’r cyhoedd—

(a)prif gyngor;

(b)unrhyw un neu ragor o’r cyrff penodedig a ganlyn—

(i)gweithrediaeth prif gyngor;

(ii)pwyllgor neu is-bwyllgor i weithrediaeth prif gyngor;

(iii)pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor;

(iv)cyd-bwyllgor, neu is-bwyllgor i gyd-bwyllgor, o ddau brif gyngor neu ragor.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â darlledu trafodion mewn cyfarfod y mae is-adran (2) yn gymwys iddo.

(4)Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

(5)Os yw prif gyngor yn diwygio trefniadau a wnaed o dan is-adran (1) neu’n rhoi rhai newydd yn eu lle, rhaid iddo gyhoeddi’r trefniadau diwygiedig neu’r trefniadau newydd.

(6)Rhaid i brif gyngor sy’n gwneud trefniadau sy’n ofynnol gan is-adran (1) roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(7)Nid yw’r ffaith bod darllediad ar gael neu nad yw ar gael (boed hynny wrth i’r trafodion gael eu cynnal neu wedi hynny) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw drafodion y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt.

[F1(7A)Mae’r adran hon yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig fel y mae’n gymwys i brif gyngor yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—

(a)mae’r cyfeiriadau at brif gyngor yn is-adrannau (1), (2)(a), (5) a (6) i’w darllen fel cyfeiriadau at gyd-bwyllgor corfforedig, a

(b)mae is-adran (2)(b) i’w thrin fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei lle—

(b)is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig.]

(8)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau er mwyn sicrhau bod trafodion cyfarfod awdurdod a restrir yn is-adran (9), neu gyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod o’r fath, yn cael eu darlledu ar ffurf electronig, ac mewn cysylltiad â hynny.

(9)Yr awdurdodau yw—

(a)awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;

(b)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(c)cyd-bwyllgor o un prif gyngor neu ragor ac un neu ragor o’r awdurdodau a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b);

(d)cyd-fwrdd—

(i)a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a

(ii)sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor.

(10)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) neu (8) gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn addasu, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 46(1)(a)(2)(a)(5)-(7) mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(f)

I3A. 46(1)(b)(c)(2)(b) mewn grym ar 4.3.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/231, ergl. 2(d)

I4A. 46(1)(b)(c)(2)(b) mewn grym ar 5.5.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/231, ergl. 6(f)

I5A. 46(3)(4)(8)-(10) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(e)

47Mynychu cyfarfodydd awdurdod lleolLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud a chyhoeddi trefniadau at ddiben sicrhau y gellir cynnal cyfarfodydd awdurdod lleol drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall—

(a)sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i fynychu’r cyfarfodydd, a

(b)sy’n bodloni’r amodau yn is-adran (2).

(2)Yr amodau yw bod y cyfarpar neu’r cyfleuster arall yn galluogi personau—

(a)yn achos cyfarfodydd awdurdod lleol nad ydynt yn dod o fewn paragraff (b), i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio), a

(b)yn achos cyfarfodydd prif gyngor y mae’n ofynnol eu darlledu o dan adran 46 (darllediadau electronig), neu unrhyw gyfarfodydd awdurdod lleol eraill y mae’n ofynnol iddynt gael eu darlledu gan reoliadau a wneir o dan yr adran honno, i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd ac i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd.

(3)Yn achos cyfarfodydd cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor, rhaid i’r awdurdodau wneud a chyhoeddi trefniadau o dan is-adran (1) ar y cyd.

(4)Os yw awdurdod lleol yn diwygio trefniadau a wnaed o dan is-adran (1) neu’n rhoi rhai newydd yn eu lle, rhaid iddo gyhoeddi’r trefniadau diwygiedig neu’r trefniadau newydd.

(5)Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau sy’n ofynnol gan is-adran (1) roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

    (a)

    prif gyngor;

    (aa)

    [F2cyd-bwyllgor corfforedig;]

    (c)

    cyngor cymuned;

    (d)

    awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;

    (e)

    awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

    (f)

    awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22);

  • ystyr “cyfarfod awdurdod lleol” (“local authority meeting”) yw cyfarfod—

    (a)

    awdurdod lleol;

    (b)

    pan fo’r awdurdod lleol yn brif gyngor, ei weithrediaeth;

    (c)

    cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor;

    (d)

    pwyllgor neu is-bwyllgor i unrhyw beth sydd o fewn paragraffau (a) i (c),

    ac, er mwyn osgoi amheuaeth, mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir gan bwyllgor trwyddedu prif gyngor a sefydlwyd o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p. 17) neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan bwyllgor trwyddedu.

(7)Mewn perthynas â chyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad at—

(a)y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod awdurdod lleol, yn bresennol ynddo neu’n ymddangos ger ei fron, mae’r cyfeiriad hwnnw yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir yn is-adran (1), mynychu, bod yn bresennol neu ymddangos drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw;

(b)y lle y mae cyfarfod awdurdod lleol i’w gynnal, nid yw’r cyfeiriad hwnnw i’w ddarllen fel pe bai wedi ei gyfyngu i un lleoliad ffisegol.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r adran hon drwy reoliadau er mwyn—

(a)ychwanegu at yr amodau yn is-adran (2), eu diwygio neu eu hepgor;

(b)ychwanegu at y diffiniad o “awdurdod lleol” yn is-adran (6) cyd-fwrdd—

(i)a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a

(ii)sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor.

(9)Mae Rhan 2 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I7A. 47(1)-(7), (9) mewn grym ar 1.5.2021 gan O.S. 2021/354, ergl. 2(a)

I8A. 47(8) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(f)

48Cyfranogi yng nghyfarfodydd cynghorau cymunedLL+C

Yn Rhan 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd a thrafodion cynghorau cymuned), ar ôl paragraff 27 mewnosoder—

27A(1)This paragraph applies in respect of a meeting or part of a meeting of a community council which is open to the public.

(2)The person presiding over the meeting must give members of the public in attendance a reasonable opportunity to make representations about any business to be transacted at the meeting, unless that person considers that doing so is likely to prejudice the effective conduct of the meeting.

(3)In complying with sub-paragraph (2), the person presiding over the meeting must have regard to any guidance issued by the Welsh Ministers about the function in that sub-paragraph.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I10A. 48 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(g)

49Hysbysiadau etc. ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleolLL+C

[F3(1)] Mae Rhan 1 o Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1972 a Deddfau eraill, ynglŷn â hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol.

[F4(2)Mae unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall sy’n ymwneud â chyfarfod awdurdod lleol y mae’n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad iddynt gael eu cyhoeddi’n electronig, at ddibenion paragraff 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Difenwi 1996 (p. 31), i’w trin fel dogfen y mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddi fod yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd.

(3)Yn is-adran (2) mae i “cyfarfod awdurdod lleol” yr un ystyr ag yn adran 50(5).]

Diwygiadau Testunol

F3A. 49(1): a. 49 wedi ei ailrifo fel a. 49(1) (dod i rym yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (O.S. 2021/356), rhlau. 1(2), 5(2) (ynghyd â rhlau. 10, 11)

F4A. 49(2)(3) wedi ei fewnosod (dod i rym yn unol â rhl. 1(2) o'r O.S. sy'n diwygio) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaethau Amrywiol) 2021 (O.S. 2021/356), rhlau. 1(2), 5(3) (ynghyd â rhlau. 10, 11)

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 49 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(c)

I12A. 49 mewn grym ar 1.5.2021 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2021/354, ergl. 2(b)

50Rheoliadau ynglŷn â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol, dogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd a chyhoeddi gwybodaethLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad â gofynion sy’n ymwneud â hysbysiadau a dogfennau eraill mewn perthynas â chyfarfodydd awdurdodau lleol ac sy’n ymwneud â chynnal y cyfarfodydd hynny.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynglŷn ag—

(a)llunio hysbysiadau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chyfarfodydd awdurdodau lleol;

(b)cyhoeddi a dosbarthu’r hysbysiadau a’r dogfennau hynny;

(c)cynnwys yr hysbysiadau a’r dogfennau hynny;

(d)hawliau i gael mynediad at yr hysbysiadau a’r dogfennau hynny;

(e)cadw dogfennau sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol;

(f)trefniadau sy’n ymwneud â chynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol;

(g)cofnodi penderfyniadau a wneir yn y cyfarfodydd hynny.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru hefyd, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi gan awdurdodau lleol, ac mewn cysylltiad â chyhoeddi gan awdurdodau lleol, wybodaeth sy’n nodi manylion ynglŷn ag—

(a)aelodau o’r awdurdod a’i bwyllgorau a’i is-bwyllgorau;

(b)hawliau i fynychu cyfarfodydd awdurdod lleol a chael mynediad at ddogfennau;

(c)arfer pwerau awdurdod lleol gan ei swyddogion,

a gwneud darpariaeth ar gyfer hawliau i gael mynediad at yr wybodaeth honno, ac mewn cysylltiad â hynny.

(4)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, addasu, ddiddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(5)Yn yr adran hon—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—

    (a)

    prif gyngor;

    (b)

    cyngor cymuned;

    (c)

    awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;

    (d)

    awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

    (e)

    cyd-fwrdd—

    (i)

    a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a

    (ii)

    sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor;

    (f)

    awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd yng Nghymru a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22);

  • ystyr “cyfarfod awdurdod lleol” (“local authority meeting”) yw cyfarfod—

    (a)

    awdurdod lleol;

    (b)

    pan fo’r awdurdod lleol yn brif gyngor, ei weithrediaeth;

    (c)

    cyd-bwyllgor o ddau awdurdod lleol neu ragor;

    (d)

    pwyllgor neu is-bwyllgor i unrhyw beth sydd o fewn paragraffau (a) i (c).

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 50 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(a)

51Rheoliadau ynglŷn â chyfarfodydd cymunedolLL+C

Yn Rhan 5 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 (cyfarfodydd cymunedol), ar ôl paragraff 36 mewnosoder—

36A(1)The Welsh Ministers may by regulations make provision for and in connection with requirements concerning notices and other documents relating to community meetings and concerning the holding of such meetings and their conduct.

(2)Regulations under sub-paragraph (1) may, in particular, include provision about—

(a)arrangements relating to the holding of community meetings attended by persons who are not in the same place;

(b)the convening of community meetings;

(c)the production, publication, dissemination and content of notices of community meetings;

(d)the recording of decisions made at community meetings;

(e)the functions of principal councils and community councils in relation to community meetings;

(f)eligibility to attend and to vote at community meetings.

(3)Regulations under sub-paragraph (1) may include supplementary, incidental, consequential, transitional, transitory or saving provision (including provision amending, modifying, repealing or revoking any enactment (including this Act)).

(4)A statutory instrument containing regulations under sub-paragraph (1) must not be made unless a draft of the instrument has been laid before and approved by resolution of Senedd Cymru.

36BA principal council and a community council exercising functions in relation to community meetings must have regard to any guidance about the exercise of those functions issued by the Welsh Ministers.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 51 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(b)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Testun a grëwyd gan yr adran o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bwnc y Ddeddf i esbonio beth mae’r Ddeddf yn ceisio ei wneud ac i wneud y Ddeddf yn hygyrch i ddarllenwyr nad oes ganddynt gymhwyster cyfreithiol. Mae Nodiadau Esboniadol yn cyd-fynd â holl Ddeddfau Senedd Cymru.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill