Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Hyfforddi aelodau a staff cynghorau cymuned

 Help about opening options

No versions valid at: 21/01/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) croes bennawd yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Hyfforddi aelodau a staff cynghorau cymuned. Help about Changes to Legislation

Yn ddilys o 05/05/2022

Hyfforddi aelodau a staff cynghorau cymunedLL+C

67Cynlluniau hyfforddi cynghorau cymunedLL+C

(1)Rhaid i gyngor cymuned wneud a chyhoeddi cynllun (“cynllun hyfforddi”) sy’n nodi ei gynigion mewn perthynas â darparu hyfforddiant ar gyfer—

(a)cynghorwyr y cyngor cymuned, a

(b)staff y cyngor cymuned.

(2)Rhaid i gyngor cymuned wneud ei gynllun hyfforddi cyntaf yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad y mae is-adran (1) yn dod i rym.

(3)Rhaid i gyngor cymuned wneud cynllun hyfforddi newydd yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl pob etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr cymuned i’r cyngor.

(4)Rhaid i gyngor cymuned adolygu ei gynllun hyfforddi o bryd i’w gilydd.

(5)Os yw cyngor cymuned yn diwygio ei gynllun hyfforddi, neu’n rhoi un newydd yn ei le, rhaid iddo gyhoeddi’r cynllun diwygiedig neu’r cynllun newydd.

(6)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i swyddogaethau cyngor cymuned o ran—

(a)penderfynu ar gynnwys cynllun hyfforddi neu unrhyw gynllun diwygiedig, a

(b)adolygu’r cynllun hyfforddi.

(7)Rhaid i gyngor cymuned roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer swyddogaethau o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth