Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Pwyllgorau trosolwg a chraffu

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Pwyllgorau trosolwg a chraffu. Help about Changes to Legislation

Pwyllgorau trosolwg a chraffuLL+C

65Sicrhau bod gwybodaeth ar gael i bwyllgorau trosolwg a chraffuLL+C

Yn adran 22(10) o Ddeddf 2000 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth am benderfyniadau ar gael), yn lle “or members of the authority” rhodder “, members of the authority, an overview and scrutiny committee of the authority or a sub-committee of such a committee”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 65 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(n)

66Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau benodi cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffuLL+C

(1)Mae adran 58 o Fesur 2011 (cyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (1), ar ôl “i ganiatáu” mewnosoder “neu i’w gwneud yn ofynnol”.

(3)Yn is-adran (3), yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir gwneud trefniadau;

(aa)darpariaeth sy’n rhagnodi amgylchiadau pan fo rhaid gwneud trefniadau;

(ab)darpariaeth i drefniadau gael eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau neu gyfyngiadau rhagnodedig;.

(4)Yn is-adran (4)—

(a)hepgorer “, wrth arfer unrhyw swyddogaeth a roddir iddynt gan yr adran hon neu oddi tani, neu wrth benderfynu ai i’w harfer,”;

(b)ar ôl “Weinidogion Cymru” mewnosoder “mewn perthynas ag arfer unrhyw swyddogaeth sydd ganddo o dan neu yn rhinwedd yr adran hon”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I4A. 66 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(n)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth