Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Perfformiad

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 09/11/2024.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Croes Bennawd: Perfformiad. Help about Changes to Legislation

PerfformiadLL+C

89Dyletswydd ar brif gyngor i adolygu ei berfformiad yn barhausLL+C

(1)Rhaid i brif gyngor adolygu’n barhaus i ba raddau—

(a)y mae’n arfer ei swyddogaethau yn effeithiol,

(b)y mae’n defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol, ac

(c)y mae ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol o ran cyflawni’r materion a nodir ym mharagraffau (a) a (b).

(2)Yn y Bennod hon, cyfeirir at y materion a nodir ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (1) fel “y gofynion perfformiad”.

(3)Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag—

(a)y gofynion perfformiad;

(b)y modd y mae’n arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon.

90Dyletswydd i ymgynghori â phobl leol etc. ar berfformiadLL+C

Rhaid i brif gyngor ymgynghori â’r canlynol o bryd i’w gilydd, ac o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ariannol, ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad—

(a)pobl leol,

(b)personau eraill sy’n cynnal busnes yn ardal y cyngor,

(c)staff y cyngor, a

(d)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p. 52)) gan y cyngor.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth