xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CAMRYWIOL

Pennaeth gwasanaethau democrataiddLL+C

161Pennaeth gwasanaethau democrataiddLL+C

(1)Yn adran 8 o Fesur 2011, ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch swyddogaeth yr awdurdod lleol o dan is-adran (1)(b).

(2)Yn is-adran (4) o’r adran honno—

(a)hepgorer paragraff (b);

(b)ym mharagraff (c), yn lle “yr adran honno” rhodder “adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989”.

(3)Yn adran 43(2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) (ystyr “chief officer” at ddibenion datganiadau ar bolisïau tâl), ar ddiwedd paragraff (e) mewnosoder ;

(f)its head of democratic services designated under section 8(1) of the Local Government (Wales) Measure 2011 (designation by council of a county or county borough in Wales).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 161 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 161(1) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(h)