[ATODLEN 10ALL+C(a gyflwynir gan adran 115A)
This
Atodlen has no associated
Nodiadau Esboniadol
CYMHWYSO PENNOD 1 O RAN 6 I GYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIGLL+C
1.LL+CMae Pennod 1 o Ran 6, ac eithrio adrannau 113, 114 a 115, yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig gyda’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen hon.
Addasiad cyffredinol i gyfeiriadauLL+C
2.LL+CYm Mhennod 1 o Ran 6—
(a)mae’r cyfeiriadau at brif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at gyd-bwyllgor corfforedig ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau 3 i 17 o’r Atodlen hon (sy’n gwneud addasiadau ychwanegol i ddarpariaethau penodol ym Mhennod 1 o Ran 6);
(b)mae’r cyfeiriadau at bwyllgor llywodraethu ac archwilio prif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig;
(c)mae’r cyfeiriadau at ardal prif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal a bennir yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig.
Cyd-bwyllgor corfforedig i ymgynghori â phobl leol etc. ar berfformiadLL+C
3.LL+CMae adran 90 i’w darllen fel pe bai—
(a)ym mharagraff (a) “pobl leol” yn golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardal a bennir yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;
(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—
“(ca)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
(cb)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,”.
Adroddiad hunanasesu gan gyd-bwyllgor corfforedigLL+C
4.LL+CMae adran 91(10)(c) i’w darllen fel pe bai—
(a)yn is-baragraff (ii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;
(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—
“(iia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
(iib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,”.
Asesiadau panel o berfformiadLL+C
5.LL+CMae adran 92 i’w darllen fel pe bai—
(a)yn is-adran (1), “i brif gynghorau yng Nghymru (“y cyfnod rhyngetholiadol”)” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”;
(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (1)—
“(1A)At ddibenion is-adran (1), y cyfnod rhyngetholiadol cyntaf yw’r cyfnod yn union ar ôl yr etholiad a grybwyllir yn is-adran (1B).
(1B)Yr etholiad a grybwyllir yn yr is-adran hon yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a ddigwyddodd ar 5 Mai 2022.”;
(c)yn is-adran (3)—
(i)ym mharagraff (a) “pobl leol” yn golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardal a bennir yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—
“(ca)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
(cb)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,”;
(d)yn is-adran (5)—
(i)ym mharagraff (c), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;
(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—
“(ca)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
(cb)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,”;
(e)yn is-adran (7), “i brif gynghorau yng Nghymru” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”.
(f)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (7)—
“(7A)Y cyntaf o’r etholiadau a grybwyllir yn is-adran (7) yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a grybwyllir yn is-adran (1B).”
Ymateb cyd-bwyllgor corfforedig i adroddiad gan banelLL+C
6.LL+CMae adran 93 i’w darllen fel pe bai—
(a)yn is-adran (6)(b)—
(i)yn is-baragraff (iii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;
(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (iii) (ac o flaen “a”)—
“(iiia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
(iiib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,”;
(b)yn is-adran (7), “i brif gynghorau yng Nghymru” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”.
(c)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (7)—
“(7A)Y cyntaf o’r etholiadau a grybwyllir yn is-adran (7) yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a grybwyllir yn adran 92(1B).”
Arolygiad arbennig gan Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C
7.LL+CMae adran 95 i’w darllen fel pe bai—
(a)yn is-adran (7)(b)—
(i)yn is-baragraff (ii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;
(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—
“(iia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
(iib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,”;
(b)is-adran (9) wedi ei hepgor.
Ymateb cyd-bwyllgor corfforedig i argymhellion yr Archwilydd CyffredinolLL+C
8.LL+CMae adran 96(7)(b) i’w darllen fel pe bai—
(a)yn is-baragraff (i), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod,
(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (i) (ac o flaen “a”)—
“(ia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,
(ib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,”.
Ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion yr Archwilydd CyffredinolLL+C
9.LL+CMae adran 97(2)(b) i’w darllen fel pe bai—
(a)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—
“(iia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,
(iib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,”;
(b)yn is-baragraff (iii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod.
Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd CyffredinolLL+C
10.LL+CMae adran 98 i’w darllen fel pe bai—
(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—
“(1)Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg resymol, fynd i unrhyw fangre—
(a)cyd-bwyllgor corfforedig;
(b)cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;
(c)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o gyd-bwyllgor corfforedig,
a gwneud unrhyw beth y mae’r arolygydd yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys arolygu dogfen a ddelir gan yr awdurdod y mae’r arolygydd wedi mynd i’w fangre.”;
(b)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (2)—
“(2)Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) ddarparu i’r arolygydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyd-bwyllgor corfforedig—
(a)dogfen y mae’r awdurdod yn ei dal;
(b)cyfleusterau a chymorth.”;
(c)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (b) o is-adran (4)—
“(b)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) ddarparu i’r arolygydd gopi darllenadwy, gan gynnwys copi electronig darllenadwy, o ddogfen a arolygir yn ei fangre o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd ganddo o dan is-adran (2)(a);”.
Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: rhybudd a thystiolaeth adnabodLL+C
11.LL+CMae adran 99 i’w darllen fel pe bai—
(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—
“(1)Caiff arolygydd fynd i fangre awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o adran 98(1) wrth arfer y pwerau o dan yr is-adran honno o dan yr amgylchiadau a ganlyn yn unig —
(a)pan fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r awdurdod, a
(b)pan fo o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’r arolygydd yn mynd i’r fangre.”;
(b)yn is-adran (2), “awdurdod” wedi ei roi yn lle “cyngor”, yn y ddau le y mae’n digwydd;
(c)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (3)—
“(3)Nid yw’r gofyniad yn is-adran (1) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i awdurdod o arfer pŵer o dan adran 98(1) yn ei erbyn yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arfer y pŵer hwnnw.
(3A)Nid yw’r gofyniad yn is-adran (2) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i awdurdod o arfer pŵer o dan adran 98(2) yn ei erbyn yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arfer y pŵer hwnnw.”;
(d)yn is-adran (4)(b)(i), “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu’n aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol (pa un a yw’r person hwnnw hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig ai peidio)” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu’n aelod o staff prif gyngor”;
(e)yn is-adran (5)—
(i)“awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o adran 98(1)” wedi ei roi yn lle “brif gyngor”;
(ii)“awdurdod” wedi ei roi yn lle “cyngor”, ym mhob lle y mae’n digwydd ym mharagraffau (a), (b) ac (c);
(iii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c)—
“(d)os yw’r awdurdod y mae’r rhybudd i’w roi iddo yn gyd-bwyllgor corfforedig—
(i)gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;
(ii)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig.”;
(f)yn is-adran (6)—
(i)“aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol (pa un a yw’r person hwnnw hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig ai peidio)” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor”;
(ii)ym mharagraffau (a) a (b), “prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol” wedi ei roi yn lle “cyngor”;
(g)yn is-adran (7), “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor”.
Ymgynghori ar ffioedd yr Archwilydd CyffredinolLL+C
12.LL+CMae adran 101(5)(b) i’w darllen fel pe bai “cyd-bwyllgorau corfforedig” wedi ei roi yn lle “prif gynghorau”.
Cyfarwyddyd i ddarparu cefnogaeth a chymorthLL+C
13.LL+CMae adran 103 i’w darllen fel pe bai—
(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—
“(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod a grybwyllir yn is-adran (1A) i ddarparu i gyd-bwyllgor corfforedig (“y cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir”) unrhyw gefnogaeth a chymorth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir yn bodloni’r gofynion perfformiad.
(1A)Yr awdurdodau a grybwyllir yn yr is-adran hon yw—
(a)cyd-bwyllgor corfforedig;
(b)prif gyngor.”;
(b)yn is-adran (3), “awdurdod y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi’r cyfarwyddyd iddo a’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “ddau gyngor”;
(c)yn is-adran (4)—
(i)“awdurdod” wedi ei roi yn lle “prif gyngor”;
(ii)“cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “cyngor a gefnogir”, ym mhob lle y mae’n digwydd.”
Pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrrydLL+C
14.LL+CMae adran 104(2)(a) i’w darllen fel pe bai “awdurdod arall” wedi ei roi yn lle “cyngor arall”.
Cyfarwyddyd i gydweithredu â darparu cefnogaeth a chymorthLL+C
15.LL+CMae adran 105 i’w darllen fel pe bai—
(a)yn is-adran (1)—
(i)“cyd-bwyllgor corfforedig (“y cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir”)” wedi ei roi yn lle “prif gyngor (“y cyngor a gefnogir”)”;
(ii)ym mharagraff (b), “awdurdod” wedi ei roi yn lle “prif gyngor”;
(iii)“i’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor a gefnogir”;
(b)yn is-adrannau (2), (3) a (4), “cyd-bwyllgor corfforedig” wedi ei roi yn lle “cyngor”, ym mhob lle y mae’n digwydd;
(c)yn is-adran (5), “ac awdurdod” wedi ei roi yn lle “a phrif gyngor”.
Arfer swyddogaethauLL+C
16.LL+CMae adran 108 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adrannau (1) i (3)—
“(1)Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig a grybwyllir yn is-adran (4).”
DehongliLL+C
17.LL+CMae adran 112 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—
“ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”), mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig penodol, yw cyngor cyfansoddol fel y nodir yn y rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;”.]