
Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Schedule
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/06/2024.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Paragraff 7.

Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Pwyllgorau pontio ar gyfer cynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro: darpariaeth bellachLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
7(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo pwyllgor pontio i arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cyfarwyddyd.
(2)Ni chaiff pwyllgor llywodraethu ac archwilio na phwyllgor trosolwg a chraffu cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro arfer unrhyw un o’i swyddogaethau mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan bwyllgor pontio; ac at y diben hwn—
mae i “pwyllgor llywodraethu ac archwilio” (“governance and audit committee”) yr ystyr a roddir gan adran 81 o Fesur 2011;
mae i “pwyllgor trosolwg a chraffu” yr ystyr a roddir i “overview and scrutiny committee” gan adran 21(1) o Ddeddf 2000.
(3)Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—
(a)ystyr “pwyllgor pontio” yw pwyllgor pontio a sefydlir yn unol â pharagraff 1 neu yn rhinwedd paragraff 4;
(b)mae cyfeiriad at gyngor sy’n uno mewn perthynas â phwyllgor pontio yn gyfeiriad at gyngor sy’n uno sy’n sefydlu’r pwyllgor pontio;
(c)mae cyfeiriad at gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro mewn perthynas â phwyllgor pontio yn gyfeiriad at gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro sy’n sefydlu’r pwyllgor pontio.
(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Yn ôl i’r brig