Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 1

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Paragraff 1 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 26 Chwefror 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Cyfyngu ar drafodiadau a recriwtio etc. drwy gyfarwyddydLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

1(1)Ar ôl cael cais i uno neu ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro—

(a)na chaiff y cyngor gyflawni gweithgaredd cyfyngedig oni fo wedi ystyried barn person neu bersonau penodedig ynglŷn â phriodoldeb cyflawni’r gweithgaredd;

(b)na chaiff y cyngor gyflawni gweithgaredd cyfyngedig oni fo person neu bersonau penodedig wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i gyflawni’r gweithgaredd.

(2)Y gweithgareddau cyfyngedig yw—

(a)gwneud caffaeliad neu warediad tir perthnasol;

(b)ymrwymo i gontract neu gytundeb perthnasol;

(c)gwneud caffaeliad cyfalaf perthnasol;

(d)rhoi grant neu gymorth ariannol arall perthnasol;

(e)rhoi benthyciad perthnasol;

(f)cynnwys swm o gronfeydd ariannol wrth gefn mewn cyfrifiad o dan adran 32 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14);

(g)dechrau’r broses o recriwtio (gan gynnwys drwy recriwtio mewnol)—

(i)prif swyddog anstatudol a grybwyllir yn adran 2(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42);

(ii)dirprwy brif swyddog a grybwyllir yn adran 2(8) o’r Ddeddf honno.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro sy’n ceisio penodi neu ddynodi person i swydd gyfyngedig (gan gynnwys o blith ei swyddogion presennol) i gydymffurfio â gofynion penodedig ynglŷn â’r penodiad neu’r dynodiad.

(4)Ystyr “swydd gyfyngedig”, mewn perthynas â chyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro, yw—

(a)ei brif weithredwr a benodir o dan adran 54;

(b)ei swyddog monitro a ddynodir o dan adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

(c)prif swyddog statudol a grybwyllir yn adran 2(6) o’r Ddeddf honno;

(d)ei bennaeth gwasanaethau democrataidd a ddynodir o dan adran 8(1) o Fesur 2011.

(5)Rhaid i gyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan is-baragraff (1)—

(a)darparu manylion ynglŷn ag unrhyw gynnig i gyflawni gweithgaredd cyfyngedig i unrhyw berson neu bersonau a bennir at ddiben is-baragraff (1)(a) neu (b) mewn cysylltiad â’r gweithgaredd hwnnw;

(b)darparu manylion i Weinidogion Cymru ynglŷn â chynnig i benodi neu ddynodi person i swydd gyfyngedig pan fo unrhyw ofynion yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad neu’r dynodiad yn rhinwedd cyfarwyddyd o dan is-baragraff (3).

(6)Os rhoddir barn at ddibenion is-baragraff (1)(a) na fyddai’n briodol i gyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro gyflawni gweithgaredd cyfyngedig ond bod y cyngor yn penderfynu ei gyflawni, rhaid i’r cyngor gyhoeddi ei resymau dros wneud y penderfyniad hwnnw.

(7)Pan fo cyfarwyddyd wedi ei roi o dan is-baragraff (3), nid yw adran 143A(1)(b) a (3) o Fesur 2011 (argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gydnabyddiaeth ariannol) yn gymwys i gynnig i ddarparu cydnabyddiaeth ariannol i brif weithredwr cyngor sy’n uno neu gyngor sy’n cael ei ailstrwythuro sy’n wahanol i’r hyn a ddarparwyd i ragflaenydd y prif weithredwr.

(8)Mae cyfarwyddyd a roddir o dan y paragraff hwn yn cael effaith o’r dyddiad penodedig.

(9)Yn y paragraff hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd a roddir o dan y paragraff hwn.

(10)Hyd nes y bo adran 54 yn dod i rym—

(a)mae’r cyfeiriad yn is-baragraff (4)(a) at brif weithredwr cyngor a benodir o dan adran 54 i’w ddarllen fel cyfeiriad at bennaeth gwasanaeth taledig y cyngor a ddynodir o dan adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), a

(b)mae’r cyfeiriadau yn is-baragraff (7) at brif weithredwr cyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at bennaeth gwasanaeth taledig y cyngor.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 1 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)(m)(i)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth