Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Cyfarwyddydau o dan baragraff 1: atodolLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan baragraff 1.

(2)Caiff person a bennir yn y cyfarwyddyd yn berson y mae’n ofynnol cael ei farn neu ei gydsyniad fod yn unrhyw awdurdod neu berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol, a chaiff hynny gynnwys Gweinidogion Cymru, unrhyw bwyllgor pontio (gweler Atodlen 11 ynglŷn â hynny) ac unrhyw gyngor cysgodol.

(3)Caiff cyfarwyddyd bennu personau gwahanol—

(a)mewn perthynas â materion gwahanol y mae’n ofynnol cael barn neu gydsyniad yn eu cylch;

(b)mewn perthynas â chynghorau gwahanol sy’n uno neu gynghorau gwahanol sy’n cael eu hailstrwythuro.

(4)Caiff cyfarwyddyd bennu, mewn perthynas â’r un gweithgaredd cyfyngedig, ofynion gwahanol mewn cysylltiad â thrafodiadau o werthoedd gwahanol ac mewn cysylltiad â chyfnodau gwahanol.

(5)Caiff cyfarwyddyd bennu, mewn perthynas â recriwtio prif swyddog anstatudol neu ddirprwy brif swyddog—

(a)gofynion gwahanol mewn cysylltiad â lefelau gwahanol o gydnabyddiaeth ariannol arfaethedig;

(b)gofynion gwahanol mewn cysylltiad â swyddogion o ddisgrifiadau gwahanol.

(6)Caniateir rhoi barn neu gydsyniad at ddibenion cyfarwyddyd mewn cysylltiad â thrafodiad penodol neu drafodiadau o unrhyw ddisgrifiad.

(7)Caniateir i unrhyw gydsyniad at ddibenion cyfarwyddyd gael ei roi yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau.

(8)At ddibenion cyfarwyddyd sy’n ymwneud â recriwtio prif swyddog anstatudol neu ddirprwy brif swyddog, caiff barn a roddir, neu amodau y mae cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt, ymwneud yn benodol—

(a)â’r gydnabyddiaeth ariannol sydd i’w darparu i berson sy’n cael ei recriwtio;

(b)â hyd penodiad.

(9)Mae unrhyw ddeddfiadau sy’n ymwneud â chaffaeliadau neu warediadau, ymrwymo i gontractau neu gytundebau, rhoi grantiau neu gymorth ariannol arall, rhoi benthyciadau, neu recriwtio neu benodi personau gan gynghorau sy’n uno neu gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd.

(10)Mae cydsyniad sy’n ofynnol gan gyfarwyddyd yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy’n ofynnol gan unrhyw un neu ragor o’r deddfiadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(b)(ii)