Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

RHAN 2Diwygiadau mewn perthynas â Phennod 2 o Ran 2: cynghorau cymuned cymwys

Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)

9Yn Neddf 1972, yn adran 137(9) (pŵer awdurdodau lleol i fynd i wariant at ddibenion penodol nad ydynt wedi eu hawdurdodi fel arall), ym mharagraff (b) ar ôl “community council” mewnosoder “which is not an eligible community council for the purposes of Part 2 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (general power of competence)”.

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)

10Yn Neddf 2000, hepgorer adrannau 2 a 3 (pŵer cynghorau cymuned i hybu llesiant).

Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 (p. 41)

11(1)Mae Deddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 55 (hawliadau hwyr: gwrthod rhoi cymorth), yn is-adran (4) hepgorer paragraff (c) (ond nid yr “and” sy’n ei ddilyn).

(3)Yn Atodlen 3 (cadw cymorth yn ôl a’i dynnu’n ôl), ym mharagraff 1(1) hepgorer paragraff (k).

Deddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26)

12(1)Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 93 (pŵer i godi ffi am wasanaethau disgresiynol), yn is-adran (7) hepgorer paragraff (c).

(3)Yn Atodlen 3 (diwygio pwerau penodol), hepgorer paragraff 12.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)

13(1)Mae Mesur 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 127 (deddfiadau sy’n atal cyngor cymuned rhag arfer ei bŵer llesiant).

(3)Hepgorer Pennod 9 o Ran 7 (achredu ansawdd mewn llywodraeth gymunedol).

(4)Yn adran 172 (gorchmynion a rheoliadau)—

(a)yn is-adran (2)(a), hepgorer “neu 140”;

(b)yn is-adran (2)(b) hepgorer “127 neu”.

(5)Hepgorer adran 173 (y weithdrefn sy’n gymwys i orchmynion penodol o dan adran 127).

Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20)

14Yn Neddf Lleoliaeth 2011, yn Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraffau 2 a 4 a’r croesbennawd sy’n dod o flaen paragraff 2.

Y Ddeddf hon

15Yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ym mharagraff 1 hepgorer is-baragraffau (2) a (3).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth