Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 110

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn cael effaith mwyach. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 110. Help about Changes to Legislation

110Pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio etc. ddeddfiadau a rhoi pwerau newyddLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod deddfiad (ac eithrio darpariaeth yn y Bennod hon) yn atal neu’n rhwystro prif gyngor rhag cydymffurfio â’r Bennod hon, caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio, addasu, ddiddymu, ddirymu neu ddatgymhwyso’r deddfiad hwnnw mewn perthynas ag—

(a)pob prif gyngor,

(b)prif gynghorau penodol, neu

(c)prif gynghorau o ddisgrifiadau penodol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy’n rhoi i—

(a)pob prif gyngor,

(b)prif gynghorau penodol, neu

(c)prif gynghorau o ddisgrifiadau penodol,

unrhyw bŵer y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn caniatáu i brif gyngor gydymffurfio â’r Bennod hon, neu sy’n hwyluso hynny.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) osod amodau ar arfer unrhyw bŵer a roddir gan y rheoliadau (gan gynnwys amodau ynglŷn ag ymgynghori neu gymeradwyo).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth