
Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Chapter
PrintThis
Section
only
Newidiadau dros amser i: Adran 119


Llinell Amser Newidiadau
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn cael effaith mwyach.

Statws
Yn gyffredinol, mae ddim yn cael effaith mwyach yn golygu bod y ddarpariaeth hon wedi'i diddymu Edrychwch ar yr anodiadau ar ddiwedd y ddarpariaeth am ragor o wybodaeth.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 119.

Changes to Legislation
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
119Cydgysylltu rhwng rheoleiddwyrLL+C
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r rheoleiddwyr perthnasol roi sylw i’r angen am gydgysylltu wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol.
(2)Mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru lunio amserlen mewn perthynas â phob prif gyngor sy’n nodi barn yr Archwilydd Cyffredinol ynglŷn ag ar ba ddyddiadau neu yn ystod pa gyfnodau yn y flwyddyn honno—
(a)y dylai’r rheoleiddwyr perthnasol arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â’r cyngor, a
(b)y dylai’r Archwilydd Cyffredinol arfer swyddogaethau perthnasol yr Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â’r cyngor hwnnw.
(3)Cyn llunio amserlen o dan is-adran (2) rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru ymgynghori â’r rheoleiddwyr perthnasol.
(4)Caniateir i’r ddyletswydd o dan is-adran (2) gael ei chyflawni drwy lunio amserlen sy’n ymwneud â mwy nag un flwyddyn ariannol.
(5)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r rheoleiddwyr perthnasol, wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol mewn perthynas â phrif gyngor, gymryd pob cam rhesymol i gadw at yr amserlen a lunnir mewn perthynas â’r cyngor hwnnw o dan is-adran (2).
(6)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynorthwyo’r rheoleiddwyr perthnasol i gydymffurfio â’u dyletswyddau o dan is-adrannau (1) a (5).
(7)Yn yr adran hon, mae i “rheoleiddwyr perthnasol” a “swyddogaethau perthnasol” yr ystyron a roddir yn adran 120.
Yn ôl i’r brig