Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

126Y system bleidleisioLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i’r rheoliadau uno bennu a yw’r system bleidleisio sy’n gymwys i’r etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd i fod—

(a)y system mwyafrif syml y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe baent wedi cael eu gwneud, o dan adran 36A o Ddeddf 1983, neu

(b)y system pleidlais sengl drosglwyddadwy y darperir ar ei chyfer gan reolau a wneir o dan adran 36A o Ddeddf 1983.

(2)Mewn perthynas â’r system bleidleisio a bennir yn y rheoliadau uno—

(a)rhaid iddi fod y system bleidleisio y cytunir arni gan y cynghorau sy’n uno, neu

(b)os na cheir cytundeb—

(i)rhaid iddi fod y system bleidleisio a ddefnyddir yn y ddau gyngor sy’n uno, neu pan fo tri chyngor neu ragor yn uno, yn yr holl gynghorau sy’n uno neu yn y mwyafrif ohonynt, yn union cyn dyddiad y cais, neu

(ii)os nad oedd y naill na’r llall o’r ddau gyngor sy’n uno, neu (pan fo tri chyngor neu ragor yn uno) os nad oedd y mwyafrif o’r cynghorau sy’n uno, yn defnyddio’r un system bleidleisio yn union cyn dyddiad y cais, rhaid iddi fod y system bleidleisio a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â’r cynghorau sy’n uno.

(3)Yn is-adran (2)(b), ystyr “dyddiad y cais” yw’r dyddiad y gwneir y cais i uno.

(4)Os gwneir cais i uno cyn i adran 7 ddod i rym—

(a)nid yw is-adrannau (1) a (2) o’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliadau uno sy’n ymwneud â’r cais, a

(b)rhaid i’r rheoliadau hynny ddarparu, os yw adran 7 mewn grym ar ddiwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif gyngor ar gyfer y brif ardal newydd, bod y system mwyafrif syml yn gymwys i’r etholiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 126 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)