Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 128

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 128. Help about Changes to Legislation

128Dyletswyddau ar gynghorau sy’n uno i hwyluso trosglwyddoLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i gyngor sy’n uno—

(a)at ddibenion yr uno, gydweithredu â Gweinidogion Cymru, y cyngor arall neu’r cynghorau eraill sy’n uno ac unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â’r uno, a

(b)cymryd pob cam rhesymol—

(i)i hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau, ei staff, ei eiddo, ei hawliau a’i atebolrwyddau i’r prif gyngor newydd mewn modd darbodus, effeithiol ac effeithlon, a

(ii)i sicrhau bod y prif gyngor newydd a’i staff mewn sefyllfa i gyflawni swyddogaethau’r prif gyngor newydd yn effeithiol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno i gymryd, neu i beidio â chymryd, unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddiben cyflawni dyletswydd y cyngor o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 128 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth