Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 130

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/05/2022. Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn cael effaith mwyach. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 130. Help about Changes to Legislation

130Ceisiadau i ddiddymuLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff prif gyngor, drwy hysbysiad mewn ysgrifen (“cais i ddiddymu”), ofyn i Weinidogion Cymru ystyried diddymu’r cyngor a’i brif ardal.

(2)Rhaid i gais i ddiddymu nodi rhesymau’r prif gyngor dros ofyn am y diddymiad.

(3)Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi’r cais i ddiddymu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y cais.

(4)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu.

(5)Ni chaiff y swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.

(6)Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr y prif gyngor at ddibenion y swyddogaeth o wneud cais i ddiddymu.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth