Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 139

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/04/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) disodlwyd y ddarpariaeth. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 139. Help about Changes to Legislation

139Gwahardd gwneud newidiadau i drefniadau gweithrediaethLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Ar ôl cael cais i uno caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n uno na chaiff gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys cynnal refferendwm) i newid ffurf ei weithrediaeth—

(a)hyd nes y bo rheoliadau uno sy’n gymwys i’r cyngor yn dod i rym, neu

(b)hyd nes y bo’n cael hysbysiad o dan adran 121(5).

(2)Ar ôl rhoi hysbysiad fel a ddisgrifir yn adran 129(6), caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo cyngor sy’n cael ei ailstrwythuro na chaiff gymryd unrhyw gamau (gan gynnwys cynnal refferendwm) i newid ffurf ei weithrediaeth—

(a)hyd nes y bo rheoliadau ailstrwythuro sy’n gymwys i’r cyngor yn dod i rym, neu

(b)hyd nes y bo’n cael hysbysiad o dan adran 134(3).

(3)Tra bo cyfarwyddyd o dan is-adran (1) neu (2) yn cael effaith mewn perthynas â chyngor, nid yw’r cyngor yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, i gymryd camau i newid ffurf ei weithrediaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 139(1) mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(f)(2)(d)

I2A. 139(3) mewn grym ar 21.1.2021 at ddibenion penodedig, gweler a. 175(1)(f)(2)(d)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth