Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

171Dehongli

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae “aelod” (“member”)—

    (a)

    mewn perthynas â phrif gyngor, yn golygu cynghorydd i’r cyngor (sy’n cynnwys cynghorydd a etholwyd yn gadeirydd neu’n aelod llywyddol, neu a benodwyd yn is-gadeirydd neu’n ddirprwy aelod llywyddol), a

    (b)

    mewn perthynas â phrif gyngor sy’n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, yn cynnwys maer etholedig y cyngor;

  • mae i “arweinydd gweithrediaeth” yr un ystyr ag a roddir i “executive leader” yn adran 11(3)(a) o Ddeddf 2000;

  • ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

  • ystyr “Deddf 1972” (“1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70);

  • ystyr “Deddf 1983” (“1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2);

  • ystyr “Deddf 2000” (“2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);

  • ystyr “Deddf 2013” (“2013 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir (gan gynnwys y Ddeddf hon);

  • ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” (“primary legislation”) yw—

    (a)

    Mesur a basiwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

    (b)

    Deddf a basiwyd o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno;

    (c)

    Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “etholiad llywodraeth leol” (“local government election”) yw etholiad ar gyfer cynghorwyr dros unrhyw ward etholiadol neu ward gymunedol yng Nghymru neu, yn achos cymuned yng Nghymru lle nad oes unrhyw wardiau, y gymuned, y cynhelir yr etholiad ar gyfer cynghorwyr ar ei chyfer o dan Ddeddf 1972;

  • mae “gweithrediaeth” (“executive”) i’w dehongli yn unol ag adran 11 o Ddeddf 2000;

  • ystyr “gweithrediaeth arweinydd a chabinet” yw gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru) o fewn yr ystyr a roddir i “leader and cabinet executive (Wales)” yn adran 11(3) o Ddeddf 2000;

  • mae i “gweithrediaeth maer a chabinet” yr un ystyr ag a roddir i “mayor and cabinet executive” yn adran 11(2) o Ddeddf 2000;

  • mae i “maer etholedig” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” yn adran 39(1) o Ddeddf 2000;

  • ystyr “Mesur 2009” (“2009 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2);

  • ystyr “Mesur 2011” (“2011 Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4);

  • ystyr “pobl leol” (“local people”), mewn perthynas â phrif gyngor, yw pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal y cyngor;

  • ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw—

    (a)

    y cyngor ar gyfer sir yng Nghymru;

    (b)

    y cyngor ar gyfer bwrdeistref sirol (yng Nghymru);

    mae i “trefniadau gweithrediaeth“ yr un ystyr ag a roddir i “executive arrangements” yn adran 10 o Ddeddf 2000.

(2)Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd i gyhoeddi hysbysiad neu ddogfen arall, rhaid i’r hysbysiad neu’r ddogfen arall gael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—

(a)ar ffurf electronig, a

(b)mewn unrhyw fodd arall y mae’r person sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn ystyried ei fod yn briodol,

ac mae’r ddyletswydd i gyhoeddi’r hysbysiad neu’r ddogfen arall ar ffurf electronig yn ddyletswydd, pan fo gan y person hwnnw ei wefan ei hun, i’w gyhoeddi neu i’w chyhoeddi ar y wefan honno.