Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 40

 Help about opening options

No versions valid at: 21/01/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2021. Nid yw'r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn ddilys ar gyfer y pwynt hwn mewn amser. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 40. Help about Changes to Legislation

Yn ddilys o 05/05/2022

40Strategaeth ar annog cyfranogiadLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i brif gyngor lunio a chyhoeddi strategaeth (“strategaeth cyfranogiad y cyhoedd”) sy’n pennu sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â’r ddyletswydd yn adran 39.

(2)Rhaid i strategaeth cyfranogiad y cyhoedd ymdrin â’r canlynol, yn benodol—

(a)dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o swyddogaethau’r prif gyngor;

(b)dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith pobl leol o’r modd y deuir yn aelod o’r prif gyngor, a’r hyn y mae aelodaeth yn ei olygu;

(c)dulliau o’i gwneud yn fwy hwylus i bobl leol gael gwybodaeth am benderfyniadau a wnaed, neu sydd i’w gwneud, gan y prif gyngor;

(d)dulliau o hybu a hwyluso prosesau lle gall pobl leol gyflwyno sylwadau i’r prif gyngor am benderfyniad cyn, ac ar ôl, iddo gael ei wneud;

(e)y trefniadau a wnaed, neu sydd i’w gwneud, at ddiben y ddyletswydd ar y cyngor yn adran 62 o Fesur 2011 (dwyn safbwyntiau’r cyhoedd i sylw pwyllgorau trosolwg a chraffu);

(f)dulliau o hybu ymwybyddiaeth ymhlith aelodau o’r prif gyngor o fanteision defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol.

(3)Caiff strategaeth cyfranogiad y cyhoedd ymdrin â’r modd y mae prif gyngor yn bwriadu cydymffurfio â dyletswydd a osodir gan unrhyw ddeddfiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth