xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CHYBU MYNEDIAD AT LYWODRAETH LEOL

PENNOD 4LL+CCYFARFODYDD LLYWODRAETH LEOL

46Darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodolLL+C

(1)Rhaid i brif gyngor wneud a chyhoeddi trefniadau at ddiben sicrhau bod—

(a)darllediad o drafodion cyfarfod y mae is-adran (2) yn gymwys iddo ar gael ar ffurf electronig fel bod aelodau o’r cyhoedd nad ydynt yn mynychu’r cyfarfod yn gallu gweld a chlywed y trafodion;

(b)y trafodion yn cael eu darlledu wrth iddynt gael eu cynnal, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau penodedig;

(c)y darllediad ar gael ar ffurf electronig am gyfnod penodedig ar ôl y cyfarfod.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i drafodion cyfarfod, neu unrhyw ran o gyfarfod, o’r canlynol sy’n agored i’r cyhoedd—

(a)prif gyngor;

(b)unrhyw un neu ragor o’r cyrff penodedig a ganlyn—

(i)gweithrediaeth prif gyngor;

(ii)pwyllgor neu is-bwyllgor i weithrediaeth prif gyngor;

(iii)pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor;

(iv)cyd-bwyllgor, neu is-bwyllgor i gyd-bwyllgor, o ddau brif gyngor neu ragor.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â darlledu trafodion mewn cyfarfod y mae is-adran (2) yn gymwys iddo.

(4)Yn is-adrannau (1) a (2), ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.

(5)Os yw prif gyngor yn diwygio trefniadau a wnaed o dan is-adran (1) neu’n rhoi rhai newydd yn eu lle, rhaid iddo gyhoeddi’r trefniadau diwygiedig neu’r trefniadau newydd.

(6)Rhaid i brif gyngor sy’n gwneud trefniadau sy’n ofynnol gan is-adran (1) roi sylw i unrhyw ganllawiau ynglŷn ag arfer y swyddogaeth honno a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(7)Nid yw’r ffaith bod darllediad ar gael neu nad yw ar gael (boed hynny wrth i’r trafodion gael eu cynnal neu wedi hynny) yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw drafodion y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau er mwyn sicrhau bod trafodion cyfarfod awdurdod a restrir yn is-adran (9), neu gyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod o’r fath, yn cael eu darlledu ar ffurf electronig, ac mewn cysylltiad â hynny.

(9)Yr awdurdodau yw—

(a)awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru;

(b)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(c)cyd-bwyllgor o un prif gyngor neu ragor ac un neu ragor o’r awdurdodau a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b);

(d)cyd-fwrdd—

(i)a gyfansoddir yn gorff corfforedig o dan unrhyw ddeddfiad, a

(ii)sy’n cyflawni swyddogaethau dau brif gyngor neu ragor.

(10)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) neu (8) gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn addasu, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 46(1)(b)(c)(2)(b) mewn grym ar 4.3.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/231, ergl. 2(d)

I3A. 46(3)(4)(8)-(10) mewn grym ar 4.3.2021 gan O.S. 2021/231, ergl. 2(e)