Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 69

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 69. Help about Changes to Legislation

69Canllawiau ynglŷn â chydweithioLL+C

This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Rhaid i brif gyngor roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau drwy gydweithio â phrif gyngor arall.

(2)At ddibenion yr adran hon mae prif gyngor yn arfer swyddogaeth drwy gydweithio â phrif gyngor arall os yw—

(a)yn arfer swyddogaeth prif gyngor arall o dan drefniant a wneir o dan—

(i)adran 101(1)(b) o Ddeddf 1972 (cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall);

(ii)rheoliadau a wneir o dan adran 19(1) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth gan awdurdod lleol arall);

(iii)rheoliadau a wneir o dan adran 19(2) o Ddeddf 2000 (cyflawni swyddogaethau nad ydynt yn swyddogaethau gweithrediaeth gan weithrediaeth awdurdod lleol arall);

(b)yn arfer y swyddogaeth ar y cyd â phrif gyngor arall o dan drefniant a wneir o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 (gan gynnwys yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 (arfer swyddogaethau ar y cyd));

(c)yn awdurdodi prif gyngor arall i arfer y swyddogaeth o dan orchymyn a wneir o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 70);

(d)y swyddogaeth yn cael ei harfer mewn perthynas â’i brif ardal a phrif ardal prif gyngor arall gan gyd-bwyllgor corfforedig;

(e)yn arfer y swyddogaeth drwy gydweithio â phrif gyngor arall o dan unrhyw ddeddfiad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 69 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth