Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 76

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 21/01/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, Adran 76. Help about Changes to Legislation

76Y swyddogaeth llesiant economaiddLL+C
This adran has no associated Nodiadau Esboniadol

(1)Caiff cyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth llesiant economaidd iddo wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.

(2)Caniateir i’r swyddogaeth llesiant economaidd gael ei harfer mewn perthynas â’r canlynol neu er budd y canlynol—

(a)ardal gyfan y cyd-bwyllgor corfforedig neu unrhyw ran ohoni;

(b)yr holl bersonau neu unrhyw bersonau sy’n preswylio neu’n bresennol yn ei ardal.

(3)Mae’r swyddogaeth llesiant economaidd yn cynnwys pŵer i wneud unrhyw beth mewn perthynas ag unrhyw berson neu ardal, neu er budd unrhyw berson neu ardal, a leolir y tu allan i ardal y cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys ardaloedd y tu allan i Gymru, os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn ystyried ei fod yn debygol o hybu neu wella llesiant economaidd ei ardal.

(4)Mae is-adrannau (1) i (3) yn ddarostyngedig i unrhyw waharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau cyd-bwyllgor neu reoliadau o dan adran 83.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 76 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth