87Arfer swyddogaethau gan brif gynghorau o dan y Rhan honLL+C
(1)Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).
(2)Nid yw’r swyddogaethau a nodir yn is-adran (4) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth prif gyngor o dan drefniadau gweithrediaeth.
(3)Mae maer etholedig i’w drin fel pe bai’n un o gynghorwyr prif gyngor at ddibenion y swyddogaethau a nodir yn is-adran (4).
(4)Y swyddogaethau yw—
(a)gwneud cais cyd-bwyllgor;
(b)rhoi cydsyniad o dan adran 73(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu gwneud;
(c)gwneud cais o dan adran 78 i ddiwygio neu ddirymu rheoliadau cyd-bwyllgor;
(d)rhoi cydsyniad o dan adran 81(4) i reoliadau cyd-bwyllgor gael eu diwygio.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 87 mewn grym ar 21.1.2021, gweler a. 175(1)(e)