95Pŵer yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal arolygiad arbennig
This
adran has no associated
Nodiadau Esboniadol
(1)Os yw Archwilydd Cyffredinol Cymru (“yr Archwilydd Cyffredinol”) yn ystyried bod prif gyngor yn methu, neu y gallai fod yn methu, â bodloni’r gofynion perfformiad, caiff yr Archwilydd Cyffredinol gynnal arolygiad er mwyn asesu i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion hynny.
(2)Yn y Bennod hon, cyfeirir at arolygiad o dan is-adran (1) fel “arolygiad arbennig”.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru ofyn i’r Archwilydd Cyffredinol ystyried—
(a)a yw prif gyngor penodol yn methu, neu a allai fod yn methu, â bodloni’r gofynion perfformiad, a
(b)cynnal arolygiad arbennig.
(4)Cyn penderfynu a ddylid cynnal arolygiad arbennig o brif gyngor, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol ymgynghori â Gweinidogion Cymru, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cais o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r cyngor.
(5)Cyn cynnal arolygiad arbennig o brif gyngor rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol roi hysbysiad mewn ysgrifen i’r cyngor sy’n pennu—
(a)rhesymau’r Archwilydd Cyffredinol dros ystyried bod y cyngor yn methu, neu y gallai fod yn methu, â bodloni’r gofynion perfformiad, a
(b)y materion y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu eu harolygu (ond nid yw’r Archwilydd Cyffredinol wedi ei gyfyngu i arolygu’r materion a bennir yn yr hysbysiad yn unig).
(6)Yn dilyn arolygiad arbennig o gyngor rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol lunio adroddiad sy’n nodi—
(a)casgliadau’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn ag i ba raddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad, a
(b)unrhyw gamau y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn argymell bod y cyngor neu Weinidogion Cymru yn eu cymryd at ddibenion—
(i)cynyddu’r graddau y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion perfformiad;
(ii)gwella effeithiolrwydd llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor.
(7)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol—
(a)cyhoeddi’r adroddiad, a
(b)anfon yr adroddiad—
(i)i’r cyngor,
(ii)at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, a
(iii)at Weinidogion Cymru.
(8)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol rhaid i’r cyngor sicrhau ei fod ar gael i’w bwyllgor llywodraethu ac archwilio.
(9)Os yw adroddiad yn ymdrin â’r modd y mae’r cyngor yn gweinyddu budd-dal tai, caiff yr Archwilydd Cyffredinol anfon yr adroddiad at yr Ysgrifennydd Gwladol.